Cyntaf Cronicl 13:1-14
13 Gwnaeth Dafydd ymgynghori â phenaethiaid y miloedd ac â phenaethiaid y cannoedd ac â phob arweinydd arall.
2 Yna dywedodd Dafydd wrth holl gynulleidfa Israel: “Os yw’n dda i chi ac os yw’n dderbyniol i Jehofa ein Duw, dewch inni anfon neges at weddill ein brodyr yn holl ardaloedd Israel, a hefyd at yr offeiriaid a’r Lefiaid yn eu dinasoedd sydd â thiroedd pori, i ddweud wrthyn nhw am ddod i ymuno â ni.
3 A dewch inni ddod ag Arch ein Duw yn ôl.” Roedd hyn oherwydd doedden nhw ddim wedi gofalu amdani yn nyddiau Saul.
4 Cytunodd y gynulleidfa gyfan i hynny, am fod pawb yn meddwl mai dyna oedd y peth iawn i’w wneud.
5 Felly casglodd Dafydd Israel gyfan at ei gilydd, o afon* yr Aifft mor bell â Lebo-hamath,* er mwyn dod ag Arch y gwir Dduw o Ciriath-jearim.
6 Aeth Dafydd ac Israel gyfan i fyny i Baala, i Ciriath-jearim, sy’n perthyn i Jwda, i nôl Arch y gwir Dduw, Jehofa, sy’n eistedd ar ei orsedd uwchben* y cerwbiaid, yr Arch lle mae pobl yn galw ar ei enw.
7 Ond rhoddon nhw Arch y gwir Dduw ar wagen newydd a daethon nhw â hi o dŷ Abinadab, ac roedd Ussa ac Ahïo yn arwain y wagen.
8 Roedd Dafydd ac Israel gyfan yn dathlu â’u holl nerth o flaen y gwir Dduw i sŵn caneuon, telynau, offerynnau llinynnol eraill, tambwrinau, symbalau, a thrwmpedi.
9 Ond pan ddaethon nhw at lawr dyrnu Cidon, dyma’r wagen bron yn troi drosodd oherwydd y gwartheg, felly estynnodd Ussa ei law a gafael yn yr Arch.
10 Gyda hynny, gwylltiodd Jehofa ag Ussa a’i daro i lawr am ei fod wedi estyn ei law a gafael yn yr Arch, a bu farw yn y fan a’r lle o flaen Duw.
11 Ond dyma Dafydd yn digio* oherwydd bod llid Jehofa wedi ffrwydro yn erbyn Ussa; ac mae’r lle hwnnw wedi cael ei alw’n Peres-ussa* hyd heddiw.
12 Daeth Dafydd yn ofnus o’r gwir Dduw y diwrnod hwnnw, a dywedodd Dafydd: “Sut galla i ddod ag Arch y gwir Dduw ata i?”
13 Ni ddaeth Dafydd â’r Arch i le roedd yn byw yn Ninas Dafydd, yn hytrach, trefnodd iddi gael ei chymryd i dŷ Obed-edom y Gethiad.
14 Roedd Arch y gwir Dduw gyda theulu Obed-edom, ac arhosodd yr Arch yn ei dŷ am dri mis, ac roedd Jehofa yn parhau i fendithio teulu Obed-edom a phopeth oedd ganddo.
Troednodiadau
^ Neu “o Sihor.”
^ Neu “mynedfa Hamath.”
^ Neu efallai, “rhwng.”
^ Neu “ypsetio.”
^ Sy’n golygu “Ffrwydriad yn Erbyn Ussa.”