Cyntaf Cronicl 14:1-17
14 Anfonodd Hiram, brenin Tyrus, negeswyr at Dafydd, yn ogystal â choed cedrwydd, seiri maen, a seiri coed, i adeiladu tŷ* iddo.
2 A sylweddolodd Dafydd fod Jehofa wedi ei sefydlu’n gadarn fel brenin ar Israel, oherwydd roedd Ef wedi gwneud ei frenhiniaeth yn llwyddiannus er mwyn Ei bobl Israel.
3 Cymerodd Dafydd fwy o wragedd yn Jerwsalem, a daeth Dafydd yn dad i fwy o feibion a merched.
4 Dyma enwau’r plant a gafodd eu geni iddo yn Jerwsalem: Sammua, Sobab, Nathan, Solomon,
5 Ibhar, Elisua, Elpelet,
6 Noga, Neffeg, Jaffia,
7 Elisama, Beeliada, ac Eliffelet.
8 Pan glywodd y Philistiaid fod Dafydd wedi cael ei eneinio’n frenin ar Israel gyfan, daeth y Philistiaid i gyd i fyny i chwilio am Dafydd. Pan glywodd Dafydd am hyn, aeth allan yn eu herbyn nhw.
9 Yna daeth y Philistiaid i mewn a dechrau ymosod ar y rhai a oedd yn byw yn Nyffryn* Reffaim.
10 Gofynnodd Dafydd i Dduw: “A ddylwn i fynd i fyny yn erbyn y Philistiaid? A fyddi di’n eu rhoi nhw yn fy llaw?” Atebodd Jehofa: “Dos i fyny, a bydda i’n sicr yn eu rhoi nhw yn dy law.”
11 Felly aeth Dafydd i fyny i Baal-perasim a’u taro nhw i lawr yno. Gyda hynny, dywedodd Dafydd: “Mae’r gwir Dduw wedi dinistrio fy ngelynion drwy fy llaw i, fel dŵr yn torri drwy wal.” Dyna pam gwnaethon nhw alw’r lle hwnnw yn Baal-perasim.*
12 Gadawodd y Philistiaid eu duwiau yno, ac ar orchymyn Dafydd, cafodd y rhain eu llosgi yn y tân.
13 Yn hwyrach ymlaen, gwnaeth y Philistiaid ymosod ar y dyffryn* unwaith eto.
14 Gofynnodd Dafydd i Dduw am arweiniad eto, ond dywedodd y gwir Dduw wrtho: “Paid â mynd i fyny ar eu holau nhw yn uniongyrchol. Yn hytrach, dos y tu ôl iddyn nhw, a mynd i fyny o flaen y llwyni baca.*
15 A phan wyt ti’n clywed sŵn martsio* yn nhopiau’r llwyni baca, ymosoda ar unwaith, oherwydd bydd y gwir Dduw wedi mynd allan o dy flaen di i daro’r Philistiaid i lawr.”
16 Felly gwnaeth Dafydd yn union fel roedd y gwir Dduw wedi gorchymyn iddo, a gwnaethon nhw daro byddin y Philistiaid i lawr o Gibeon i Geser.
17 A daeth Dafydd yn enwog drwy’r gwledydd i gyd, a gwnaeth Jehofa achosi i’r holl genhedloedd ei ofni.
Troednodiadau
^ Neu “palas.”
^ Neu “yng Ngwastatir Isel.”
^ Sy’n golygu “Y Meistr o Dorri Drwodd.”
^ Neu “gwastatir isel.”
^ Mae’r enw “baca” yn drawslythreniad o’r gair Hebraeg. Mae ’na ansicrwydd ynglŷn â pha fath o blanhigyn yw hwn.
^ Neu “gorymdeithio.”