Cyntaf Cronicl 15:1-29
15 A pharhaodd i adeiladu tai iddo’i hun yn Ninas Dafydd, a gwnaeth ef baratoi rhywle ar gyfer Arch y gwir Dduw, a chododd babell ar ei chyfer.
2 Dyna pryd y dywedodd Dafydd: “Ddylai neb gario Arch y gwir Dduw heblaw am y Lefiaid, oherwydd mae Jehofa wedi eu dewis nhw i gario Arch Jehofa ac i weini arno am byth.”
3 Yna casglodd Dafydd Israel gyfan at ei gilydd yn Jerwsalem er mwyn dod ag Arch Jehofa i’r lle roedd ef wedi ei baratoi ar ei chyfer.
4 Casglodd Dafydd ddisgynyddion Aaron a’r Lefiaid:
5 o blith y Cohathiaid, Uriel y pennaeth a 120 o’i frodyr;
6 o blith y Merariaid, Asaia y pennaeth a 220 o’i frodyr;
7 o blith y Gersomiaid, Joel y pennaeth a 130 o’i frodyr;
8 o blith disgynyddion Elisaffan, Semaia y pennaeth a 200 o’i frodyr;
9 o blith disgynyddion Hebron, Eliel y pennaeth ac 80 o’i frodyr;
10 o blith disgynyddion Ussiel, Aminadab y pennaeth a 112 o’i frodyr.
11 Ar ben hynny, galwodd Dafydd ar yr offeiriaid Sadoc ac Abiathar, ac ar y Lefiaid Uriel, Asaia, Joel, Semaia, Eliel, ac Aminadab,
12 a dywedodd wrthyn nhw: “Chi yw penaethiaid teuluoedd y Lefiaid. Sancteiddiwch eich hunain, chi a’ch brodyr, a dewch ag Arch Jehofa, Duw Israel, i fyny i’r lle rydw i wedi ei baratoi ar ei chyfer.
13 Nid y chi a wnaeth ei chario y tro cyntaf, a ffrwydrodd dicter Jehofa ein Duw yn ein herbyn, am ein bod ni heb ddilyn ei arweiniad ynglŷn â sut i’w symud.”
14 Felly dyma’r offeiriaid a’r Lefiaid yn eu sancteiddio eu hunain er mwyn dod ag Arch Jehofa, Duw Israel, i fyny.
15 Yna cariodd y Lefiaid Arch y gwir Dduw ar eu hysgwyddau gan ddefnyddio’r polion, yn union fel y gorchmynnodd Moses yn ôl gair Jehofa.
16 Yna dywedodd Dafydd wrth benaethiaid y Lefiaid am benodi eu brodyr y cantorion i ganu’n llawen i gyfeiliant offerynnau cerdd: offerynnau llinynnol, telynau, a symbalau.
17 Felly dyma’r Lefiaid yn penodi Heman fab Joel, ac o blith ei frodyr, Asaff fab Berecheia, ac o blith eu brodyr y Merariaid, Ethan fab Cusaia.
18 Gwnaethon nhw hefyd benodi ail grŵp o blith eu brodyr, Sechareia, Ben, Jaasiel, Semiramoth, Jehiel, Unni, Eliab, Benaia, Maaseia, Matitheia, Eliffele, a Micneia, Obed-edom, a Jeiel y porthorion.
19 Y cantorion Heman, Asaff, ac Ethan oedd i chwarae’r symbalau copr;
20 ac roedd Sechareia, Asiel, Semiramoth, Jehiel, Unni, Eliab, Maaseia, a Benaia yn chwarae offerynnau llinynnol wedi eu tiwnio i Alamoth;
21 ac roedd Matitheia, Eliffele, Micneia, Obed-edom, Jeiel, ac Asaseia yn arwain gyda thelynau wedi eu tiwnio i Seminith.
22 Gwnaeth Cenaneia, pennaeth y Lefiaid, arolygu cludiant yr Arch, oherwydd roedd yn arbenigwr,
23 a Berecheia ac Elcana oedd yn gwarchod yr Arch.
24 Gwnaeth yr offeiriaid Sebaneia, Josaffat, Nethanel, Amasai, Sechareia, Benaia, ac Elieser seinio’r trwmpedi yn uchel o flaen Arch y gwir Dduw, ac roedd Obed-edom a Jeheia hefyd yn gwarchod yr Arch.
25 Yna aeth Dafydd a henuriaid Israel a phenaethiaid y miloedd i ddod ag arch cyfamod Jehofa i fyny o dŷ Obed-edom gan lawenhau.
26 Am fod y gwir Dduw wedi helpu’r Lefiaid a oedd yn cario arch cyfamod Jehofa, gwnaethon nhw aberthu saith tarw ifanc a saith hwrdd.*
27 Roedd Dafydd yn gwisgo côt ddilewys wedi ei gwneud o liain main, fel roedd yr holl Lefiaid a oedd yn cario’r Arch, yn ogystal â’r cantorion, a Cenaneia, yr un a oedd yn arolygu’r cantorion a chludiant yr Arch; roedd Dafydd hefyd yn gwisgo effod liain.
28 Roedd yr Israeliaid i gyd yn dod ag arch cyfamod Jehofa i fyny gan weiddi’n llawen i sŵn y corn, gyda thrwmpedi a symbalau, a gan chwarae offerynnau llinynnol a thelynau yn uchel.
29 Ond pan ddaeth arch cyfamod Jehofa i Ddinas Dafydd, roedd merch Saul, Michal, yn edrych allan drwy’r ffenest, a gwelodd hi’r Brenin Dafydd yn sgipio ac yn dathlu; a dechreuodd hi ei ddirmygu yn ei chalon.
Troednodiadau
^ Neu “maharen.”