Cyntaf Cronicl 16:1-43

  • Yr Arch yn cael ei gosod mewn pabell (1-6)

  • Cân o ddiolch gan Dafydd (7-36)

    • “Mae Jehofa wedi dod yn Frenin!” (31)

  • Gwasanaethu o flaen yr Arch (37-43)

16  Felly daethon nhw ag Arch y gwir Dduw i mewn a’i rhoi y tu mewn i’r babell roedd Dafydd wedi ei chodi ar ei chyfer; a dyma nhw’n cyflwyno offrymau llosg ac aberthau heddwch o flaen y gwir Dduw.  Ar ôl i Dafydd orffen cyflwyno’r offrymau llosg a’r aberthau heddwch, bendithiodd y bobl yn enw Jehofa.  Ar ben hynny, rhoddodd ef dorth gron o fara, cacen ddatys, a chacen resins i’r Israeliaid i gyd, i bob dyn a dynes.*  Yna penododd rai o’r Lefiaid i wasanaethu o flaen Arch Jehofa, i anrhydeddu a chlodfori Jehofa, Duw Israel, ac i ddiolch iddo.  Asaff oedd y pennaeth, ac yn ail iddo roedd Sechareia; ac roedd Jeiel, Semiramoth, Jehiel, Matitheia, Eliab, Benaia, Obed-edom, a Jeiel yn canu offerynnau llinynnol a thelynau; ac roedd Asaff yn taro’r symbalau,  ac roedd Benaia a Jehasiel yr offeiriaid yn chwythu’r trwmpedi yn gyson o flaen arch cyfamod y gwir Dduw.  Ar y diwrnod hwnnw gwnaeth Dafydd, am y tro cyntaf, gyfansoddi cân o ddiolch i Jehofa, a gorchymyn i Asaff a’i frodyr ei chanu. Dyma’r gân:  “Diolchwch i Jehofa, galwch ar ei enw,Gwnewch ei weithredoedd yn hysbys ymysg y bobloedd!  Canwch iddo, canwch glod* iddo,Myfyriwch ar* ei holl weithredoedd rhyfeddol. 10  Broliwch am ei enw sanctaidd. Gad i galonnau’r rhai sy’n ceisio Jehofa lawenhau. 11  Chwiliwch am Jehofa a’i nerth. Ceisiwch ei wyneb* bob amser. 12  Cofiwch y pethau rhyfeddol y mae wedi eu cyflawni,Ei wyrthiau a’r barnedigaethau y mae wedi eu cyhoeddi, 13  Chi ddisgynyddion* Israel ei was,Chi feibion Jacob, y rhai mae ef wedi eu dewis. 14  Ef yw Jehofa ein Duw. Mae’n barnu’r ddaear gyfan. 15  Cofiwch ei gyfamod am byth,Yr addewid a wnaeth, am fil o genedlaethau, 16  Y cyfamod a wnaeth ag Abraham,A’r llw gwnaeth ef ei addo i Isaac, 17  Yr un a gadarnhaodd i Jacob fel deddfAc fel cyfamod parhaol i Israel. 18  Gan ddweud, ‘Gwna i roi gwlad Canaan i tiFel eich rhan chi o’r etifeddiaeth.’ 19  Roedd hyn pan oedd eich niferoedd yn fach,Ie, yn fach iawn, ac roeddech chi’n estroniaid yn y wlad. 20  Roedden nhw’n crwydro o genedl i genedl,Ac o deyrnas i deyrnas. 21  Ni wnaeth ef ganiatáu i unrhyw ddyn eu gormesu nhw,Ond ceryddodd frenhinoedd ar eu rhan, 22  Gan ddweud, ‘Peidiwch â chyffwrdd â fy rhai eneiniog,Na gwneud unrhyw niwed i fy mhroffwydi.’ 23  Canwch i Jehofa, holl bobl y ddaear! Cyhoeddwch ei achubiaeth ddydd ar ôl dydd! 24  Cyhoeddwch ei ogoniant ymysg y cenhedloedd,A’i weithredoedd rhyfeddol ymysg yr holl bobloedd. 25  Oherwydd mawr yw Jehofa ac mae’n haeddu pob clod. Mae’n haeddu cael ei ofni yn fwy na phob duw arall. 26  Mae holl dduwiau’r bobloedd yn dduwiau diwerth,Ond Jehofa yw’r un a greodd y nefoedd. 27  Mae mawredd ac ysblander yn ei amgylchynu;Mae ’na nerth a llawenydd lle mae’n byw. 28  Rhowch i Jehofa yr hyn mae’n ei haeddu, chi deuluoedd y bobloedd,Rhowch i Jehofa yr hyn mae’n ei haeddu oherwydd ei ogoniant a’i nerth. 29  Rhowch i Jehofa y gogoniant mae ei enw yn ei haeddu;Dewch i mewn o’i flaen gydag anrheg. Ymgrymwch i* Jehofa yn eich gwisg sanctaidd.* 30  Crynwch o’i flaen, holl bobl y ddaear! Mae’r ddaear wedi ei sefydlu’n gadarn; mae’n amhosib ei hysgwyd.* 31  Gad i’r nefoedd lawenhau, a gad i’r ddaear fod yn llawen;Cyhoeddwch ymysg y cenhedloedd: ‘Mae Jehofa wedi dod yn Frenin!’ 32  Gad i’r môr a phopeth sy’n ei lenwi daranu;Gad i’r caeau a phopeth ynddyn nhw lawenhau. 33  Ar yr un pryd, gad i goed y goedwig weiddi’n llawen o flaen Jehofa,Oherwydd mae ef yn dod i farnu’r ddaear. 34  Diolchwch i Jehofa, oherwydd mae ef yn dda;Mae ei gariad ffyddlon yn dragwyddol. 35  A dywedwch, ‘Achuba ni, O Dduw ein hachubiaeth,Casgla ni at ein gilydd a’n hachub ni rhag y cenhedloedd,Fel ein bod ni’n gallu diolch i dy enw sanctaiddA dy foli di yn llawn llawenydd. 36  Gad i Jehofa, Duw Israel, gael ei foliNawr ac am byth.’”* A dyma’r holl bobl yn dweud, “Amen!”* ac yn moli Jehofa. 37  Yna dyma Dafydd yn gadael Asaff a’i frodyr yno o flaen arch cyfamod Jehofa i wasanaethu’n barhaol o flaen yr Arch, yn ôl y drefn ddyddiol. 38  Roedd Obed-edom a’i frodyr, 68 ohonyn nhw, Hosa, ac Obed-edom fab Jeduthun yn borthorion. 39  Ac roedd Sadoc yr offeiriad a’i gyd-offeiriaid o flaen tabernacl Jehofa ar yr uchelfan yn Gibeon 40  i gyflwyno offrymau llosg i Jehofa yn rheolaidd ar allor yr offrymau llosg, yn y bore a gyda’r nos, ac i wneud popeth gwnaeth ef ei orchymyn i Israel ac sydd wedi ei ysgrifennu yng Nghyfraith Jehofa. 41  Gyda nhw roedd Heman a Jeduthun a gweddill y dynion a oedd wedi eu dewis yn ôl eu henwau i ddiolch i Jehofa, oherwydd “mae ei gariad ffyddlon yn dragwyddol”; 42  a gyda nhw roedd Heman a Jeduthun i ganu’r trwmpedi, y symbalau, a’r offerynnau eraill a oedd yn cael eu defnyddio i foli’r gwir Dduw; ac roedd meibion Jeduthun wrth y giât. 43  Yna aeth y bobl i gyd i’w cartrefi, ac aeth Dafydd i fendithio pawb yn ei dŷ ei hun.

Troednodiadau

Neu “menyw.”
Neu “canwch ynghyd â cherddoriaeth.”
Neu efallai, “Siaradwch am.”
Neu “ei bresenoldeb.”
Llyth., “had.”
Neu “Addolwch.”
Neu efallai, “oherwydd ysblander ei sancteiddrwydd.”
Neu “ei symud; ei siglo.”
Neu “O dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.”
Neu “Bydded felly!”