Cyntaf Cronicl 17:1-27

  • Dafydd i beidio ag adeiladu’r deml (1-6)

  • Cyfamod â Dafydd am deyrnas (7-15)

  • Gweddi o ddiolch gan Dafydd (16-27)

17  Cyn gynted ag yr oedd Dafydd wedi setlo yn ei dŷ* ei hun, dywedodd wrth Nathan y proffwyd: “Dyma fi yn byw mewn tŷ o goed cedrwydd, tra bod arch cyfamod Jehofa mewn pabell.”  Atebodd Nathan: “Gwna beth bynnag sydd yn dy galon, oherwydd mae’r gwir Dduw gyda ti.”  Y noson honno, daeth gair Duw at Nathan, yn dweud:  “Dos at fy ngwas Dafydd a dyweda, ‘Dyma beth mae Jehofa yn ei ddweud: “Nid ti yw’r un a fydd yn adeiladu’r tŷ i mi fyw ynddo.  Oherwydd rydw i heb gael tŷ i fi fy hun ers y diwrnod y des i ag Israel allan hyd heddiw, ond rydw i wedi parhau i fynd o un babell i’r llall, ac o un tabernacl i’r llall.*  Yn ystod yr holl amser roeddwn i gydag Israel gyfan, a wnes i erioed ddweud gair am hyn wrth unrhyw un o farnwyr Israel y gwnes i eu penodi i fugeilio fy mhobl gan ddweud, ‘Pam na wnaethoch chi adeiladu tŷ o goed cedrwydd i mi?’”’  “Nawr dyweda hyn wrth fy ngwas Dafydd, ‘Dyma mae Jehofa y lluoedd yn ei ddweud: “Gwnes i dy gymryd di i ffwrdd o’r tir pori, o ddilyn y praidd, i fod yn arweinydd dros fy mhobl Israel.  Bydda i gyda ti ble bynnag y byddi di’n mynd, a bydda i’n cael gwared ar dy holl elynion o dy flaen di; a bydda i’n gwneud dy enw di yn fawr, fel enwau dynion pwysig y byd.  Bydda i’n penodi rhywle i fy mhobl Israel, ac yn eu sefydlu nhw yno, a byddan nhw’n byw yno, ac ni fydd neb yn tarfu arnyn nhw ddim mwy; ac ni fydd dynion drwg yn eu gormesu nhw eto fel roedden nhw yn y gorffennol, 10  o’r diwrnod y gwnes i benodi barnwyr dros fy mhobl Israel. A bydda i’n trechu dy holl elynion. Ar ben hynny, rydw i’n dweud wrthot ti, ‘Bydd Jehofa yn adeiladu tŷ* iti.’ 11  “‘“Pan ddaw dy ddyddiau i ben, a phan fyddi di’n mynd at dy gyndadau, bydda i’n codi un o dy ddisgynyddion* ar dy ôl di, un o dy feibion, a bydda i’n sefydlu ei frenhiniaeth yn gadarn. 12  Ef yw’r un a fydd yn adeiladu tŷ ar fy nghyfer i, a bydda i’n sefydlu ei orsedd yn gadarn, a hynny am byth. 13  Bydda i’n dad iddo, a bydd ef yn fab i mi. Fydda i ddim yn cymryd fy nghariad ffyddlon i ffwrdd oddi wrtho, fel gwnes i ei gymryd oddi wrth yr un a ddaeth o dy flaen di. 14  Bydda i’n ei benodi i fod dros fy nhŷ a fy mrenhiniaeth am byth, a bydd ei orsedd yn para am byth.”’” 15  Adroddodd Nathan y geiriau hyn i gyd wrth Dafydd, yn ogystal â’r weledigaeth gyfan. 16  Gyda hynny, daeth y Brenin Dafydd i mewn ac eistedd o flaen Jehofa a dweud: “Pwy ydw i, O Jehofa Dduw? A beth yw fy nhŷ iti ddod â fi mor bell â hyn? 17  Ac fel petai hyn ddim yn ddigon, O Dduw, rwyt ti hefyd yn siarad am dŷ dy was hyd at y dyfodol pell, ac rwyt ti wedi fy ystyried i fel dyn sy’n haeddu cael ei ddyrchafu’n fwy byth,* O Jehofa Dduw. 18  Beth arall galla i, dy was Dafydd, ei ddweud wrthot ti ynglŷn â’r anrhydedd rwyt ti wedi ei roi imi a tithau’n adnabod dy was mor dda? 19  O Jehofa, er mwyn dy was ac yn ôl ewyllys dy galon, rwyt ti wedi gwneud yr holl bethau gwych hyn ac wedi datgelu pa mor wych rwyt ti. 20  O Jehofa, does ’na neb fel ti, a does ’na ddim Duw ar wahân i ti; mae popeth rydyn ni wedi ei glywed â’n clustiau yn cadarnhau hyn. 21  A pha genedl arall ar y ddaear sydd fel dy bobl Israel? Aeth y gwir Dduw allan a’u rhyddhau nhw i fod yn bobl iddo. Gwnest ti enw i ti dy hun drwy wneud pethau gwych a rhyfeddol drwy yrru cenhedloedd allan o flaen dy bobl, y rhai gwnest ti eu hachub o’r Aifft. 22  Rwyt ti wedi gwneud dy bobl Israel yn bobl i ti dy hun am byth; ac fe ddest ti, O Jehofa, yn Dduw iddyn nhw. 23  Nawr, O Jehofa, gad i’r addewid y gwnest ti ynglŷn â dy was a’i dŷ fod yn ffyddlon hyd byth, a gad i dy addewid ddod yn wir. 24  Gad i dy enw fod yn ddibynadwy a chael ei ddyrchafu am byth, fel y bydd pobl yn dweud, ‘Jehofa y lluoedd, Duw Israel, sy’n Dduw yn Israel,’ a gad i dŷ dy was Dafydd gael ei sefydlu’n gadarn o dy flaen di. 25  Oherwydd rwyt ti, fy Nuw, wedi datgelu i dy was dy fwriad i adeiladu tŷ* iddo. Dyna pam mae gan dy was yr hyder i gynnig y weddi hon iti. 26  Ac nawr, O Jehofa, ti yw’r gwir Dduw, ac rwyt ti wedi addo’r pethau da hyn ynglŷn â dy was. 27  Felly plîs, os yw’n dda yn dy lygaid di, bendithia dŷ dy was, a gad iddo barhau o dy flaen di am byth; oherwydd rwyt ti, O Jehofa, wedi bendithio, ac mae wedi ei fendithio am byth.”

Troednodiadau

Neu “ei balas.”
Efallai’n golygu “o un gwersyll i wersyll arall ac o un lle i’r llall.”
Neu “llinach frenhinol.”
Llyth., “had.”
Neu “fel dyn o statws uchel.”
Neu “llinach frenhinol.”