Cyntaf Cronicl 18:1-17
18 Beth amser wedyn, trechodd Dafydd y Philistiaid yn llwyr, a chymerodd Gath a’i threfi cyfagos o ddwylo’r Philistiaid.
2 Yna trechodd Moab, a daeth y Moabiaid yn weision i Dafydd, a rhoddon nhw drethi* iddo.
3 Tra oedd Hadadeser brenin Soba ar ei ffordd i sefydlu ei awdurdod yn nhiriogaeth Afon Ewffrates, gwnaeth Dafydd ei drechu wrth ymyl Hamath.
4 Cipiodd Dafydd 1,000 o gerbydau, 7,000 o farchogion, ac 20,000 o filwyr oddi arno. Yna, dyma Dafydd yn gwneud y ceffylau cerbyd yn gloff,* oni bai am 100 ohonyn nhw.
5 Pan ddaeth Syriaid Damascus i helpu Hadadeser brenin Soba, dyma Dafydd yn taro i lawr 22,000 o’r Syriaid.
6 Yna sefydlodd Dafydd garsiynau ymhlith y Syriaid yn Namascus, a daeth y Syriaid yn weision i Dafydd, a rhoddon nhw drethi* iddo. Rhoddodd Jehofa fuddugoliaeth* i Dafydd ble bynnag roedd yn mynd.
7 Hefyd, cymerodd Dafydd y tarianau aur crwn oddi ar weision Hadadeser a dod â nhw i Jerwsalem.
8 Cymerodd Dafydd lawer iawn o gopr o Tibhath a Cun, dinasoedd Hadadeser. Defnyddiodd Solomon y copr hwnnw i wneud y Môr copr, y colofnau, a’r offer copr.
9 Clywodd Toi, brenin Hamath, fod Dafydd wedi trechu byddin gyfan Hadadeser, brenin Soba.
10 Felly, dyma Toi yn anfon ei fab Hadoram at y Brenin Dafydd ar unwaith i ddymuno’n dda iddo, ac i’w longyfarch am ei fod wedi ymladd yn erbyn Hadadeser a’i drechu (oherwydd roedd Hadadeser wedi ymladd yn erbyn Toi yn aml), a daeth ef â phob math o bethau wedi eu gwneud allan o aur, arian, a chopr.
11 Gwnaeth y Brenin Dafydd gysegru’r* rhain i Jehofa, yn ogystal â’r arian a’r aur a gymerodd oddi ar yr holl genhedloedd: oddi ar Edom a Moab, yr Ammoniaid, y Philistiaid, a’r Amaleciaid.
12 Gwnaeth Abisai fab Seruia daro i lawr 18,000 o Edomiaid yn Nyffryn yr Halen.
13 Gosododd garsiynau yn Edom, a daeth yr holl Edomiaid yn weision i Dafydd. Rhoddodd Jehofa fuddugoliaeth* i Dafydd ble bynnag roedd yn mynd.
14 Parhaodd Dafydd i reoli dros Israel gyfan, ac fe wnaeth beth oedd yn iawn ac yn deg ar gyfer ei holl bobl.
15 Joab fab Seruia oedd dros y fyddin, Jehosaffat fab Ahilud oedd cofnodwr y brenin,
16 Sadoc fab Ahitub ac Ahimelech fab Abiathar oedd yr offeiriaid, a Safsa oedd yr ysgrifennydd.
17 Roedd Benaia fab Jehoiada dros y Cerethiaid a’r Pelethiaid. Ac roedd meibion Dafydd yn brif swyddogion i’r brenin.
Troednodiadau
^ Neu “anrhegion.”
^ Hynny yw, torri llinynnau garrau y ceffylau.
^ Neu “anrhegion.”
^ Neu “achubiaeth.”
^ Llyth., “sancteiddio.”
^ Neu “achubiaeth.”