Cyntaf Cronicl 19:1-19

  • Yr Ammoniaid yn sarhau negeswyr Dafydd (1-5)

  • Buddugoliaeth dros Ammon a Syria (6-19)

19  Yn hwyrach ymlaen bu farw Nahas brenin yr Ammoniaid, a daeth ei fab yn frenin yn ei le.  Gyda hynny dywedodd Dafydd: “Gwna i ddangos cariad ffyddlon tuag at Hanun fab Nahas am fod ei dad wedi dangos cariad ffyddlon tuag ata i.” Felly anfonodd Dafydd negeswyr i’w gysuro ar ôl iddo golli ei dad. Ond pan ddaeth gweision Dafydd i wlad yr Ammoniaid i gysuro Hanun,  dywedodd tywysogion yr Ammoniaid wrth Hanun: “A wyt ti’n meddwl bod Dafydd yn anrhydeddu dy dad drwy anfon cysurwyr atat ti? Onid ydy ef yn eu hanfon nhw i ysbïo’r wlad ac i chwilio drwyddi a’i choncro?”  Felly dyma Hanun yn cymryd gweision Dafydd ac yn eu siafio nhw ac yn torri eu dillad yn eu hanner at eu penolau a’u hanfon nhw i ffwrdd.  Pan glywodd Dafydd am beth ddigwyddodd i’r dynion, anfonodd eraill ar unwaith i’w cyfarfod nhw, am fod dynion Hanun wedi codi cywilydd mawr arnyn nhw; a dywedodd y brenin wrthyn nhw: “Arhoswch yn Jericho nes bydd barf pob un ohonoch chi wedi tyfu eto, ac yna dewch yn ôl.”  Ymhen amser sylweddolodd yr Ammoniaid eu bod nhw wedi dod yn ddrewdod i Dafydd, felly dyma Hanun a’r Ammoniaid yn anfon 1,000 talent* o arian i logi cerbydau ac i gyflogi marchogion o Mesopotamia,* Aram-maacha, a Soba.  Felly dyma nhw’n llogi 32,000 o gerbydau ac yn talu brenin Maacha a’i bobl i frwydro gyda nhw. Felly daethon nhw i wersylla o flaen Medeba. Daeth yr Ammoniaid allan o’u dinasoedd a chasglu at ei gilydd ar gyfer y frwydr.  Pan glywodd Dafydd am hyn, dyma’n anfon Joab a’r fyddin gyfan, gan gynnwys ei filwyr gorau, i frwydro yn eu herbyn.  Ac aeth yr Ammoniaid allan a threfnu eu hunain yn barod i frwydro wrth fynedfa’r ddinas tra bod y brenhinoedd a oedd wedi dod i’w helpu nhw yn y caeau agored ar eu pennau eu hunain. 10  Pan welodd Joab fod y gelyn yn dod yn ei erbyn o’r tu blaen ac o’r tu ôl, dewisodd rai o filwyr gorau Israel a’u trefnu nhw’n barod i frwydro yn erbyn y Syriaid. 11  Rhoddodd weddill y dynion o dan awdurdod ei frawd Abisai, er mwyn eu trefnu nhwthau yn barod i frwydro yn erbyn yr Ammoniaid. 12  Yna dywedodd: “Os bydd y Syriaid yn dod yn rhy gryf i mi, yna bydd rhaid i ti ddod i fy achub i; ond os bydd yr Ammoniaid yn dod yn rhy gryf i ti, bydda i’n dy achub di. 13  Mae’n rhaid inni fod yn gryf ac yn ddewr ar gyfer ein pobl a dinasoedd ein Duw, a bydd Jehofa yn gwneud beth sy’n dda yn ei olwg.” 14  Yna dyma Joab a’i ddynion yn mynd allan i ymosod ar y Syriaid, a dyma nhw’n ffoi oddi wrtho. 15  Pan welodd yr Ammoniaid fod y Syriaid wedi ffoi, dyma nhwthau hefyd yn ffoi oddi wrth ei frawd Abisai ac yn mynd i mewn i’r ddinas. Ar ôl brwydro yn erbyn yr Ammoniaid, daeth Joab yn ôl i Jerwsalem. 16  Pan welodd y Syriaid eu bod nhw wedi cael eu trechu gan Israel, anfonon nhw negeswyr i gasglu’r Syriaid yn ardal yr Afon,* gyda Soffach, pennaeth byddin Hadadeser, yn eu harwain nhw. 17  Pan glywodd Dafydd am hyn, casglodd Israel i gyd at ei gilydd ar unwaith a chroesi’r Iorddonen. Aeth at y gelyn, a threfnu ei filwyr yn barod i frwydro yn eu herbyn. Pan aeth Dafydd allan i ymladd yn erbyn y Syriaid, gwnaethon nhw frwydro yn ei erbyn. 18  Ond gwnaeth y Syriaid ffoi oddi wrth Israel; a lladdodd Dafydd 7,000 o filwyr cerbyd, 40,000 o filwyr traed y Syriaid, a Soffach, pennaeth y fyddin. 19  Pan welodd gweision Hadadeser eu bod nhw wedi cael eu trechu gan Israel, gwnaethon nhw heddwch â Dafydd ar unwaith ac ildio i’w awdurdod; a doedd Syria ddim eisiau helpu’r Ammoniaid bellach.

Troednodiadau

Roedd talent yn gyfartal â 34.2 kg (1,101 oz t).
Llyth., “Aram-naharaim.”
Hynny yw, Afon Ewffrates.