Cyntaf Cronicl 2:1-55

  • 12 mab Israel (1, 2)

  • Disgynyddion Jwda (3-55)

2  Y rhain oedd meibion Israel: Reuben, Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, Sabulon,  Dan, Joseff, Benjamin, Nafftali, Gad, ac Aser.  Meibion Jwda oedd Er, Onan, a Sela. Cafodd y tri hyn eu geni iddo drwy ferch Sua, y ddynes* o Ganaan. Ond doedd Er, cyntaf-anedig Jwda, ddim yn plesio Jehofa;* felly dyma Ef yn ei roi i farwolaeth.  Gwnaeth Tamar, merch-yng-nghyfraith Jwda, eni Peres a Sera iddo. Roedd gan Jwda bump o feibion i gyd.  Meibion Peres oedd Hesron a Hamul.  Meibion Sera oedd Simri, Ethan, Heman, Calcol, a Dara. Roedd ’na bump ohonyn nhw i gyd.  Mab Carmi oedd Achar,* a ddaeth â thrychineb* ar Israel ac a oedd yn anufudd ynglŷn â’r hyn a oedd i fod i gael ei ddinistrio.  Mab Ethan oedd Asareia.  Meibion Hesron a gafodd eu geni iddo oedd Jerahmeel, Ram, a Celubai.* 10  Daeth Ram yn dad i Aminadab. Daeth Aminadab yn dad i Naason, pennaeth disgynyddion Jwda. 11  Daeth Naason yn dad i Salma. Daeth Salma yn dad i Boas. 12  Daeth Boas yn dad i Obed. Daeth Obed yn dad i Jesse. 13  Daeth Jesse yn dad i’w gyntaf-anedig Eliab, Abinadab ei ail, Simea ei drydydd, 14  Nethanel ei bedwerydd, Radai ei bumed, 15  Osem ei chweched, a Dafydd ei seithfed. 16  Eu chwiorydd oedd Seruia ac Abigail. Meibion Seruia oedd Abisai, Joab, ac Asahel, tri. 17  Gwnaeth Abigail eni Amasa, a thad Amasa oedd Jether yr Ismaeliad. 18  Daeth Caleb* fab Hesron yn dad i feibion drwy ei wraig Asuba a thrwy Jerioth; a’r rhain oedd ei meibion: Jeser, Sobab, ac Ardon. 19  Pan fu farw Asuba, gwnaeth Caleb briodi Effrath, a dyma hi’n geni Hur iddo. 20  Daeth Hur yn dad i Uri. Daeth Uri yn dad i Besalel. 21  Ar ôl hynny, cysgodd Hesron gyda merch Machir tad Gilead. Gwnaeth ef ei phriodi hi pan oedd ef yn 60 mlwydd oed, a dyma hi’n geni Segub iddo. 22  Daeth Segub yn dad i Jair, a oedd yn berchen ar 23 dinas yng ngwlad Gilead. 23  Yn hwyrach ymlaen gwnaeth Gesur a Syria gymryd Hafoth-jair oddi arnyn nhw, ynghyd â Cenath a’i threfi cyfagos, 60 dinas. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Machir, tad Gilead. 24  Ar ôl marwolaeth Hesron yn Caleb-effratha, gwnaeth Abeia, gwraig Hesron, eni Ashur iddo, a daeth Ashur yn dad i Tecoa. 25  Meibion Jerahmeel, cyntaf-anedig Hesron, oedd Ram y cyntaf-anedig, Buna, Oren, Osem, ac Aheia. 26  Roedd gan Jerahmeel wraig arall o’r enw Atara. Hi oedd mam Onam. 27  Meibion Ram, cyntaf-anedig Jerahmeel, oedd Maas, Jamin, ac Ecer. 28  Meibion Onam oedd Sammai a Jada. Meibion Sammai oedd Nadab ac Abisur. 29  Enw gwraig Abisur oedd Abihail a wnaeth eni Aban a Molid iddo. 30  Meibion Nadab oedd Seled ac Appaim. Ond bu farw Seled heb feibion. 31  Mab Appaim oedd Isi. A mab Isi oedd Sesan, a mab Sesan oedd Alai. 32  Meibion Jada, brawd Sammai, oedd Jether a Jonathan. Ond bu farw Jether heb feibion. 33  Meibion Jonathan oedd Peleth a Sasa. Y rhain oedd disgynyddion Jerahmeel. 34  Doedd gan Sesan ddim meibion, dim ond merched. Nawr roedd gan Sesan was o’r Aifft o’r enw Jarha. 35  Rhoddodd Sesan ei ferch yn wraig i’w was Jarha, a gwnaeth hi eni Attai iddo. 36  Daeth Attai yn dad i Nathan. Daeth Nathan yn dad i Sabad. 37  Daeth Sabad yn dad i Efflal. Daeth Efflal yn dad i Obed. 38  Daeth Obed yn dad i Jehu. Daeth Jehu yn dad i Asareia. 39  Daeth Asareia yn dad i Heles. Daeth Heles yn dad i Eleasa. 40  Daeth Eleasa yn dad i Sismai. Daeth Sismai yn dad i Salum. 41  Daeth Salum yn dad i Jecameia. Daeth Jecameia yn dad i Elisama. 42  Meibion Caleb,* brawd Jerahmeel, oedd Mesa ei gyntaf-anedig, a oedd yn dad i Siff, a meibion Maresa tad Hebron. 43  Meibion Hebron oedd Cora, Tappua, Recem, a Sema. 44  Daeth Sema yn dad i Raham, tad Jorceam. Daeth Recem yn dad i Sammai. 45  Mab Sammai oedd Maon. Maon oedd tad Beth-sur. 46  Gwnaeth Effa, gwraig arall* Caleb, eni Haran, Mosa, a Gases. Daeth Haran yn dad i Gases. 47  Meibion Jahdai oedd Regem, Jotham, Gesan, Pelet, Effa, a Saaff. 48  Gwnaeth Maacha, gwraig arall* Caleb, eni Seber a Tirhana. 49  Ymhen amser gwnaeth hi eni Saaff tad Madmanna, Sefa tad Machbena, a Gibea. Merch Caleb oedd Achsa. 50  Y rhain oedd disgynyddion Caleb. Meibion Hur, cyntaf-anedig Effratha, oedd Sobal tad Ciriath-jearim, 51  Salma tad Bethlehem, a Hareff tad Beth-gader. 52  Cafodd Sobal tad Ciriath-jearim feibion: Haroe a hanner pobl y Menuhoth. 53  Teuluoedd Ciriath-jearim oedd yr Ithriaid, y Puthiaid, y Sumathiaid, a’r Misraiaid. O’r rhain y daeth y Sorathiaid a’r Estaoliaid. 54  Meibion Salma oedd Bethlehem, y Netoffathiaid, Atroth-beth-joab, hanner y Manahathiaid, a’r Soriaid. 55  Teuluoedd yr ysgrifenyddion a oedd yn byw yn Jabes oedd y Tirathiaid, y Simeathiaid, a’r Suchathiaid. Y rhain oedd y Ceniaid a ddaeth o Hammath, tad tŷ Rechab.

Troednodiadau

Neu “y fenyw.”
Enw personol unigryw Duw sy’n cael ei gynrychioli gan y pedair cytsain Hebraeg יהוה (YHWH). Mae’n ymddangos bron 7,000 o weithiau yn yr Ysgrythurau Hebraeg.
Sy’n golygu “Un Sy’n Dod â Thrychineb; Un Sy’n Dod ag Alltudiaeth.” Mae hefyd yn cael ei alw’n Achan yn Jos 7:1.
Neu “â thrwbl; ag alltudiaeth.”
Hefyd yn cael ei alw’n Caleb yn ad. 18, 19, a 42.
Hefyd yn cael ei alw’n Celubai yn ad. 9.
Hefyd yn cael ei alw’n Celubai yn ad. 9.
Neu “gwraig ordderch,” hynny yw, gwraig eilradd a oedd yn aml yn gaethferch.
Neu “gwraig ordderch,” hynny yw, gwraig eilradd a oedd yn aml yn gaethferch.