Cyntaf Cronicl 20:1-8
20 Ar ddechrau’r flwyddyn,* ar yr adeg pan oedd brenhinoedd yn arfer mynd allan i ryfela, dyma Joab yn arwain ymgyrch filwrol ac yn difetha gwlad yr Ammoniaid; daeth i Rabba a’i hamgylchynu* tra oedd Dafydd yn aros yn Jerwsalem. Ymosododd Joab ar Rabba a’i rhwygo i lawr.
2 Yna cymerodd Dafydd goron yr eilun Malcham oddi ar ei ben, a darganfod ei bod yn pwyso talent* o aur, ac roedd ’na gemau gwerthfawr arni; a chafodd ei rhoi ar ben Dafydd. Hefyd cymerodd lawer iawn o ysbail o’r ddinas.
3 A daeth â’r holl bobl oedd ynddi allan, a’u gorfodi nhw i lifio cerrig ac i weithio â thŵls haearn miniog ac â bwyeill. Dyna a wnaeth Dafydd i holl ddinasoedd yr Ammoniaid. Yn y pen draw aeth Dafydd a’r holl filwyr yn ôl i Jerwsalem.
4 Ar ôl hynny, roedd ’na ryfel yn erbyn y Philistiaid yn Geser. Bryd hynny gwnaeth Sibbechai yr Husathiad ladd Sippai, a oedd yn un o ddisgynyddion y Reffaim, a chawson nhw eu trechu.
5 Ac roedd ’na ryfel arall yn erbyn y Philistiaid, a gwnaeth Elhanan fab Jair ladd Lahmi, brawd Goliath y Gethiad, oedd â gwaywffon* mor fawr roedd ei choes yn debyg i drawst gwehydd.
6 Roedd ’na ryfel unwaith eto yn Gath, lle roedd ’na gawr o ddyn oedd â 6 bys ar bob llaw a 6 bys ar bob troed, 24 yn gyfan gwbl; ac roedd ef hefyd yn un o ddisgynyddion y Reffaim.
7 Roedd yn parhau i herio Israel. Felly gwnaeth Jonathan fab Simea, brawd Dafydd, ei ladd.
8 Y rhain oedd disgynyddion y Reffaim yn Gath, a syrthion nhw drwy law Dafydd a thrwy ddwylo ei weision.
Troednodiadau
^ Hynny yw, yn y gwanwyn.
^ Neu “a gwarchae arni.”
^ Tua 34.2 kg (1,101 oz t).
^ Hynny yw, gwaywffon Lahmi.