Cyntaf Cronicl 21:1-30

  • Cyfrifiad anghyfreithlon Dafydd (1-6)

  • Cosb gan Jehofa (7-17)

  • Dafydd yn adeiladu allor (18-30)

21  Yna dyma Satan* yn codi yn erbyn Israel ac yn cymell Dafydd i rifo Israel.  Felly dywedodd Dafydd wrth Joab a phenaethiaid y bobl: “Ewch i gyfri Israel o Beer-seba i Dan; yna adroddwch yn ôl wrtho i, er mwyn imi gael gwybod eu nifer.”  Ond dywedodd Joab: “Gad i Jehofa luosogi ei bobl ganwaith! Fy arglwydd y brenin, onid ydyn nhw i gyd yn weision i fy arglwydd yn barod? Pam rwyt ti, fy arglwydd, eisiau gwneud hyn? Pam dylet ti achosi i Israel fod yn euog?”  Ond gwrthododd y brenin wrando ar Joab. Felly aeth Joab allan a theithio trwy Israel gyfan, ar ôl hynny daeth i Jerwsalem.  Nawr dyma Joab yn rhoi gwybod i Dafydd faint o bobl a oedd wedi cael eu cofrestru. Roedd gan Israel 1,100,000 o ddynion wedi eu harfogi â chleddyfau, ac roedd gan Jwda 470,000 o ddynion wedi eu harfogi â chleddyfau.  Ond wnaeth Joab ddim cofrestru Lefi a Benjamin, oherwydd roedd yr hyn a ddywedodd y brenin yn ffiaidd i Joab.  Nawr roedd hyn yn ddrwg iawn yng ngolwg y gwir Dduw, felly dyma’n taro Israel.  Yna dywedodd Dafydd wrth y gwir Dduw: “Rydw i wedi pechu’n ofnadwy drwy wneud hyn. Ac nawr, plîs maddeua i dy was am fy nghamgymeriad, oherwydd rydw i wedi ymddwyn yn ffôl iawn.”  Yna siaradodd Jehofa â Gad, gweledydd Dafydd, gan ddweud: 10  “Dos i ddweud wrth Dafydd, ‘Dyma mae Jehofa yn ei ddweud: “Rydw i’n rhoi tri opsiwn iti. Dewisa un ohonyn nhw, a bydda i’n dod â hwnnw arnat ti.”’” 11  Felly daeth Gad i mewn at Dafydd a dweud wrtho: “Dyma mae Jehofa yn ei ddweud, ‘Mae’n rhaid iti ddewis 12  naill ai tair blynedd o newyn, tri mis o gael dy drechu gan gleddyf dy elynion, neu dri diwrnod o gosb gan gleddyf Jehofa—pla yn y wlad—wrth i angel Jehofa ddod â dinistr ar holl diriogaeth Israel.’ Nawr meddylia am sut dylwn i ateb yr Un a wnaeth fy anfon i.” 13  Felly dywedodd Dafydd wrth Gad: “Rydw i’n poeni’n arw am hyn. Plîs gad imi syrthio i law Jehofa, oherwydd mae ei drugaredd yn fawr iawn; ond paid â gadael imi syrthio i law dyn.” 14  Yna anfonodd Jehofa bla ar Israel, fel bod 70,000 o bobl Israel yn marw. 15  Ar ben hynny, anfonodd y gwir Dduw angel i Jerwsalem er mwyn ei dinistrio; ond pan welodd Jehofa fod yr angel ar fin gweithredu, roedd yn difaru* anfon y pla, a dywedodd wrth yr angel a oedd yn dod â dinistr: “Dyna ddigon! Nawr tynna dy law yn ôl.” Roedd angel Jehofa yn sefyll yn agos at lawr dyrnu Ornan y Jebusiad. 16  Pan gododd Dafydd ei lygaid, gwelodd angel Jehofa yn sefyll rhwng y ddaear a’r nefoedd â chleddyf yn ei law wedi ei ymestyn tuag at Jerwsalem. Ar unwaith dyma Dafydd a’r henuriaid, a oedd wedi eu gwisgo mewn sachliain, yn syrthio i lawr â’u hwynebau i’r llawr. 17  Dywedodd Dafydd wrth y gwir Dduw: “Onid y fi a ddywedodd y dylen ni rifo’r bobl? Fi ydy’r un a wnaeth bechu, a fi ydy’r un sydd wedi gwneud drwg. Ond beth am y defaid hyn—beth maen nhw wedi ei wneud? O Jehofa fy Nuw, plîs gad i dy law ddod yn fy erbyn i ac yn erbyn tŷ fy nhad; ond paid â dod â’r pla hwn ar dy bobl.” 18  Yna dywedodd angel Jehofa wrth Gad am orchymyn i Dafydd fynd i fyny a chodi allor i Jehofa ar lawr dyrnu Ornan y Jebusiad. 19  Felly aeth Dafydd i fyny, fel roedd Gad wedi dweud yn enw Jehofa. 20  Yn y cyfamser, trodd Ornan o gwmpas a gweld yr angel, a gwnaeth ei bedwar mab a oedd gydag ef guddio eu hunain. Nawr roedd Ornan wedi bod yn dyrnu gwenith. 21  Pan ddaeth Dafydd ato, edrychodd Ornan i fyny a gweld Dafydd, ac ar unwaith aeth allan o’r llawr dyrnu ac ymgrymu o flaen Dafydd â’i wyneb ar y llawr. 22  Dywedodd Dafydd wrth Ornan: “Gwertha safle’r llawr dyrnu imi, er mwyn imi allu adeiladu allor i Jehofa arno. Rydw i eisiau iti ei werthu imi am y pris llawn, er mwyn stopio’r pla yn erbyn y bobl.” 23  Ond dywedodd Ornan wrth Dafydd: “Fe gei di ei gymryd i ti dy hun, a gad i fy arglwydd y brenin wneud beth sy’n dda yn ei olwg. Dyma ti, rydw i’n rhoi gwartheg ar gyfer offrymau llosg, pren y sled ddyrnu fel coed tân, a gwenith fel offrwm grawn. Rydw i’n rhoi’r cwbl iti.” 24  Ond dywedodd y Brenin Dafydd wrth Ornan: “Na, mae’n rhaid imi ei brynu am y pris llawn, oherwydd wna i ddim cymryd beth sy’n perthyn i ti a’i roi i Jehofa, na chynnig aberthau llosg nad oedden nhw’n costio unrhyw beth imi.” 25  Felly rhoddodd Dafydd aur a oedd yn pwyso 600 sicl* i Ornan er mwyn prynu’r safle. 26  Ac adeiladodd Dafydd allor yno i Jehofa ac offrymu aberthau llosg ac aberthau heddwch, a galwodd ar Jehofa a wnaeth ei ateb drwy anfon tân o’r nefoedd ar allor yr offrymau llosg. 27  Yna dyma Jehofa yn gorchymyn i’r angel roi ei gleddyf yn ôl yn ei wain. 28  Bryd hynny, pan welodd Dafydd fod Jehofa wedi ei ateb wrth lawr dyrnu Ornan y Jebusiad, parhaodd i aberthu yno. 29  Ond ar y pryd, roedd tabernacl Jehofa, yr un roedd Moses wedi ei wneud yn yr anialwch, ac allor yr offrymau llosg, ar yr uchelfan yn Gibeon. 30  Ond doedd Dafydd ddim wedi gallu mynd yno er mwyn gofyn am arweiniad Duw, achos roedd ef wedi dychryn oherwydd cleddyf angel Jehofa.

Troednodiadau

Neu efallai, “dyma wrthwynebwr.”
Neu “yn galaru am ei fod wedi.”
Roedd sicl yn gyfartal ag 11.4 g (0.367 oz t).