Cyntaf Cronicl 22:1-19

  • Dafydd yn paratoi ar gyfer y deml (1-5)

  • Cyfarwyddiadau Dafydd i Solomon (6-16)

  • Tywysogion yn cael eu gorchymyn i helpu Solomon (17-19)

22  Yna dywedodd Dafydd: “Dyma dŷ Jehofa y gwir Dduw, ac mae hon yn allor lle bydd Israel yn cynnig offrymau llosg.”  Yna gorchmynnodd Dafydd i’r estroniaid a oedd yng ngwlad Israel gael eu casglu at ei gilydd, a’u haseinio nhw i fod yn naddwyr cerrig, i dorri a siapio cerrig ar gyfer adeiladu tŷ’r gwir Dduw.  Hefyd dyma Dafydd yn paratoi llawer iawn o haearn er mwyn gwneud clampiau a hoelion ar gyfer drysau’r giatiau, a chymaint o gopr nad oedd modd ei bwyso,  yn ogystal â choed cedrwydd di-rif, oherwydd roedd y Sidoniaid a’r Tyriaid wedi dod â nifer enfawr o goed cedrwydd at Dafydd.  A dywedodd Dafydd: “Mae fy mab Solomon yn ifanc ac yn ddi-brofiad, ac mae’n rhaid i’r tŷ a fydd yn cael ei adeiladu i Jehofa fod yn ogoneddus tu hwnt, fel y bydd pawb drwy’r gwledydd i gyd yn gwybod am ei enwogrwydd a’i harddwch. Dyna pam y bydda i’n paratoi pethau ar gyfer fy mab.” Felly cyn iddo farw, paratôdd Dafydd ddeunyddiau mewn niferoedd enfawr.  Ar ben hynny, galwodd ei fab Solomon a gorchymyn iddo adeiladu tŷ ar gyfer Jehofa, Duw Israel.  Dywedodd Dafydd wrth ei fab Solomon: “Dymuniad fy nghalon oedd adeiladu tŷ ar gyfer enw Jehofa fy Nuw.  Ond daeth gair Jehofa ata i yn dweud, ‘Rwyt ti wedi tywallt* llawer iawn o waed, ac wedi brwydro mewn rhyfeloedd mawr. Fyddi di ddim yn adeiladu tŷ ar gyfer fy enw, am dy fod ti wedi tywallt* llawer iawn o waed ar y ddaear o fy mlaen i.  Edrycha! Byddi di’n cael mab a fydd yn byw mewn heddwch, a bydda i’n rhoi gorffwys iddo rhag ei holl elynion o’i gwmpas, oherwydd Solomon* fydd ei enw a bydda i’n rhoi heddwch a llonydd i Israel yn ei ddyddiau ef. 10  Ef yw’r un a fydd yn adeiladu tŷ ar gyfer fy enw i. Bydd ef yn fab i mi, a bydda i’n dad iddo ef. Bydda i’n sefydlu gorsedd ei frenhiniaeth yn gadarn dros Israel am byth.’ 11  “Nawr, fy mab, rydw i’n gweddïo y bydd Jehofa gyda ti, ac y byddi di’n llwyddo ac yn adeiladu tŷ Jehofa dy Dduw, yn union fel mae ef wedi dweud amdanat ti. 12  Yn fwy na dim, gad i Jehofa roi doethineb a dealltwriaeth i ti pan fydd yn rhoi awdurdod i ti dros Israel, er mwyn iti gadw cyfraith Jehofa dy Dduw. 13  Yna byddi di’n llwyddo os byddi di’n cadw at y deddfau a’r barnedigaethau a roddodd Jehofa i Israel drwy Moses. Bydda’n ddewr ac yn gryf. Paid ag ofni na dychryn. 14  Rydw i wedi mynd i drafferth fawr er mwyn paratoi 100,000 talent* o aur ar gyfer tŷ Jehofa, yn ogystal â 1,000,000 talent o arian a chymaint o gopr a haearn nad oes modd eu pwyso, ac rydw i wedi paratoi coed a cherrig, ond byddi di’n ychwanegu atyn nhw. 15  Mae gen ti nifer enfawr o weithwyr—naddwyr cerrig, seiri maen, seiri coed, a phob math o weithwyr medrus. 16  Mae’n amhosib mesur yr aur, yr arian, y copr, a’r haearn. Cod a dechreua ar y gwaith, a gad i Jehofa fod gyda ti.” 17  Yna gorchmynnodd Dafydd i holl dywysogion Israel helpu ei fab Solomon: 18  “Onid ydy Jehofa eich Duw gyda chi? Ac onid ydy ef wedi rhoi gorffwys ichi ar bob ochr? Oherwydd mae ef wedi rhoi pobl y wlad yn fy nwylo i, ac mae’r wlad bellach o dan reolaeth Jehofa a’i bobl. 19  Nawr penderfynwch â’ch holl galon ac â’ch holl enaid* i geisio Jehofa eich Duw, a dechreuwch adeiladu cysegr Jehofa y gwir Dduw, er mwyn dod ag arch cyfamod Jehofa a llestri sanctaidd y gwir Dduw i mewn i’r tŷ a fydd yn cael ei adeiladu ar gyfer enw Jehofa.”

Troednodiadau

Neu “arllwys.”
Neu “arllwys.”
O air Hebraeg sy’n golygu “Heddwch.”
Roedd talent yn gyfartal â 34.2 kg (1,101 oz t).
Gweler Geirfa.