Cyntaf Cronicl 23:1-32
23 Pan oedd Dafydd wedi heneiddio ac yn agos at ddiwedd ei fywyd, penododd ei fab Solomon yn frenin ar Israel.
2 Yna casglodd holl dywysogion Israel, yr offeiriaid, a’r Lefiaid at ei gilydd.
3 Cafodd y Lefiaid a oedd yn 30 mlwydd oed neu’n hŷn eu rhifo; roedd ’na 38,000 ohonyn nhw.
4 O blith y rhain roedd 24,000 yn gwasanaethu fel goruchwylwyr dros y gwaith ar dŷ Jehofa, ac roedd ’na 6,000 o swyddogion a barnwyr,
5 ac roedd ’na 4,000 o borthorion, a gwnaeth 4,000 foli Jehofa ar yr offerynnau roedd Dafydd wedi dweud amdanyn nhw, “Rydw i wedi gwneud y rhain er mwyn moli Duw.”
6 Yna gwnaeth Dafydd eu rhannu* nhw’n grwpiau yn ôl meibion Lefi: Gerson, Cohath, a Merari.
7 O blith y Gersoniaid roedd Ladan a Simei.
8 Meibion Ladan oedd Jehiel y pennaeth, Setham, a Joel, tri.
9 Meibion Simei oedd Selomoth, Hasiel, a Haran, tri. Y rhain oedd pennau teuluoedd estynedig Ladan.
10 A meibion Simei oedd Jahath, Sina, Jeus, a Bereia. Y pedwar hyn oedd meibion Simei.
11 Jahath oedd y pen ac roedd Sisa yn ail iddo. Ond oherwydd nad oedd gan Jeus a Bereia lawer o feibion, roedden nhw’n cael eu cyfri fel un teulu ac roedd ganddyn nhw’r un cyfrifoldebau.
12 Meibion Cohath oedd Amram, Ishar, Hebron, ac Ussiel, pedwar.
13 Meibion Amram oedd Aaron a Moses. Ond cafodd Aaron ei osod ar wahân yn barhaol i sancteiddio’r Mwyaf Sanctaidd, ef a’i feibion, i gynnig aberthau o flaen Jehofa, i weini arno, ac i gyhoeddi bendithion yn ei enw am byth.
14 Ynglŷn â Moses, dyn y gwir Dduw, roedd ei feibion wedi eu henwi ymhlith llwyth y Lefiaid.
15 Meibion Moses oedd Gersom ac Elieser.
16 O blith meibion Gersom, Sebuel oedd y pen.
17 O blith disgynyddion Elieser, Rehabia oedd y pen; doedd gan Elieser ddim meibion eraill, ond roedd gan Rehabia lawer iawn o feibion.
18 O blith meibion Ishar, Selomith oedd y pen.
19 O blith meibion Hebron, Jereia oedd y pen, Amareia oedd yr ail, Jehasiel oedd y trydydd, a Jecameam oedd y pedwerydd.
20 O blith meibion Ussiel, Micha oedd y pen ac Iseia oedd yr ail.
21 Meibion Merari oedd Mahli a Musi. Meibion Mahli oedd Eleasar a Cis.
22 Bu farw Eleasar, ond doedd ganddo ddim meibion, dim ond merched. Felly gwnaeth meibion Cis, eu perthnasau, eu cymryd nhw yn wragedd.
23 Meibion Musi oedd Mahli, Eder, a Jeremoth, tri.
24 Y rhain oedd meibion Lefi a gafodd eu cofrestru yn ôl eu teuluoedd estynedig, y pennau teuluoedd. Cafodd y Lefiaid a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn eu cyfri a’u rhestru yn ôl eu henwau ar gyfer gwasanaethu yn nhŷ Jehofa.
25 Oherwydd roedd Dafydd wedi dweud: “Mae Jehofa, Duw Israel, wedi rhoi gorffwys i’w bobl, a bydd ef yn byw yn Jerwsalem am byth.
26 Hefyd ni fydd rhaid i’r Lefiaid gario’r tabernacl na’i offer ar gyfer addoli.”
27 Yn ôl cyfarwyddiadau olaf Dafydd, cafodd y Lefiaid a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn eu rhifo.
28 Eu dyletswydd oedd i helpu meibion Aaron yng ngwasanaeth tŷ Jehofa, i fod yn gyfrifol am y cyrtiau, am yr ystafelloedd bwyta, am lanhau’r holl bethau sanctaidd, ac am wneud unrhyw waith angenrheidiol ar gyfer gwasanaeth tŷ’r gwir Dduw.
29 Roedden nhw’n helpu i baratoi y bara sy’n cael ei gyflwyno i Dduw,* y blawd gorau ar gyfer yr offrwm grawn, y bara croyw tenau, y cacennau gradell, y toes oedd wedi ei gymysgu ag olew, yn ogystal â helpu gyda’r holl waith o fesur maint a phwysau pethau.
30 Roedden nhw i sefyll bob bore a noswaith i ddiolch i Jehofa a’i glodfori.
31 Roedden nhw’n helpu bryd bynnag roedd yr aberthau llosg yn cael eu cynnig i Jehofa ar y Sabothau, ar y lleuadau newydd, ac yn ystod tymhorau’r gwyliau, yn unol â’r nifer angenrheidiol yn ôl y rheolau perthnasol, ac roedden nhw’n gwneud hynny’n rheolaidd o flaen Jehofa.
32 Roedden nhw hefyd yn gofalu am eu dyletswyddau ynglŷn â phabell y cyfarfod a’r lle sanctaidd, ac roedden nhw’n helpu eu brodyr, meibion Aaron, drwy wasanaethu yn nhŷ Jehofa.