Cyntaf Cronicl 24:1-31
24 Nawr dyma oedd grwpiau disgynyddion Aaron: Meibion Aaron oedd Nadab, Abihu, Eleasar, ac Ithamar.
2 Ond bu farw Nadab ac Abihu cyn eu tad, a chawson nhw ddim meibion; ond parhaodd Eleasar ac Ithamar i wasanaethu fel offeiriaid.
3 Gwnaeth Dafydd, yn ogystal â Sadoc o blith meibion Eleasar ac Ahimelech o blith meibion Ithamar, eu rhannu nhw’n grwpiau er mwyn aseinio dyletswyddau iddyn nhw.
4 Am fod gan feibion Eleasar fwy o benaethiaid nag oedd gan feibion Ithamar, dyma nhw’n eu rhannu nhw fel hyn: Roedd gan feibion Eleasar 16 yn bennau ar eu grwpiau o deuluoedd, ac roedd gan feibion Ithamar 8 yn bennau ar eu grwpiau o deuluoedd.
5 Ar ben hynny, dyma nhw’n taflu coelbren ar gyfer trefnu dyletswyddau’r ddau grŵp, oherwydd roedd penaethiaid y lle sanctaidd a phenaethiaid y gwir Dduw yn dod o blith meibion Eleasar ac o blith meibion Ithamar.
6 Yna dyma Semaia fab Nethanel, ysgrifennydd y Lefiaid, yn cofnodi eu henwau o flaen y brenin, y tywysogion, Sadoc yr offeiriad, Ahimelech fab Abiathar, a phennau teuluoedd estynedig yr offeiriaid a’r Lefiaid. Cafodd teuluoedd estynedig Eleasar ac Ithamar eu dewis bob yn ail.
7 Disgynnodd y coelbren cyntaf i Jehoiarib; yr ail i Jedaia,
8 y trydydd i Harim, y pedwerydd i Seorim,
9 y pumed i Malcheia, y chweched i Mijamin,
10 y seithfed i Haccos, yr wythfed i Abeia,
11 y nawfed i Jesua, y degfed i Sechaneia,
12 yr unfed ar ddeg i Eliasib, y deuddegfed i Jacim,
13 y trydydd ar ddeg i Huppa, y pedwerydd ar ddeg i Jesebeab,
14 y pymthegfed i Bilga, yr unfed ar bymtheg i Immer,
15 yr ail ar bymtheg i Hesir, y deunawfed i Hapises,
16 y pedwerydd ar bymtheg i Pethaheia, yr ugeinfed i Jehesecel,
17 yr unfed ar hugain i Jachin, yr ail ar hugain i Gamul,
18 y trydydd ar hugain i Delaia, y pedwerydd ar hugain i Maasia.
19 Dyma sut cawson nhw eu trefnu i wasanaethu yn nhŷ Jehofa, yn unol â’r drefn a gafodd ei gosod gan eu cyndad Aaron, yn union fel roedd Jehofa, Duw Israel, wedi gorchymyn iddo.
20 Ac o blith gweddill y Lefiaid: o feibion Amram, roedd Subael; o feibion Subael, Jehdeia;
21 o feibion Rehabia, Iseia y pen;
22 o’r Ishariaid, Selomoth; o feibion Selomoth, Jahath;
23 ac o feibion Hebron, Jereia oedd y pen, Amareia oedd yr ail, Jehasiel oedd y trydydd, Jecameam oedd y pedwerydd;
24 o feibion Ussiel, Micha; o feibion Micha, Samir.
25 Brawd Micha oedd Iseia; o feibion Iseia, Sechareia.
26 Meibion Merari oedd Mahli a Musi; o feibion Jaasei, Beno.
27 Meibion Merari: o Jaasei, Beno, Soham, Saccur, ac Ibri;
28 o Mahli, Eleasar, nad oedd ag unrhyw feibion;
29 o feibion Cis, Jerahmeel;
30 a meibion Musi oedd Mahli, Eder, a Jerimoth.
Dyma oedd meibion Lefi yn ôl eu grwpiau o deuluoedd.
31 A gwnaethon nhw hefyd daflu coelbren yn union fel gwnaeth eu brodyr, meibion Aaron, ym mhresenoldeb y Brenin Dafydd, Sadoc, Ahimelech, a phennau teuluoedd estynedig yr offeiriaid a’r Lefiaid. Ynglŷn â’r teuluoedd estynedig, roedd yr un uwch yn cael ei ystyried yr un fath â’r un is.