Cyntaf Cronicl 25:1-31
-
Cerddorion a chantorion ar gyfer tŷ Dduw (1-31)
25 Ar ben hynny, gwnaeth Dafydd a phenaethiaid y grwpiau o gantorion neilltuo rhai o feibion Asaff, Heman, a Jeduthun i wasanaethu drwy broffwydo â’r telynau, yr offerynnau llinynnol, a’r symbalau. Rhestr y dynion swyddogol ar gyfer y ddyletswydd hon oedd,
2 o blith meibion Asaff: Saccur, Joseff, Nethaneia, ac Asarela. Roedden nhw o dan arweiniad eu tad Asaff, a oedd yn proffwydo o dan arweiniad y brenin.
3 O blith meibion Jeduthun: Gedaleia, Seri, Jesaia, Simei, Hasabeia, a Matitheia, chwech, o dan arweiniad eu tad Jeduthun, a oedd yn proffwydo â’r delyn, yn diolch i Jehofa ac yn ei glodfori.
4 O blith meibion Heman: Bucceia, Mataneia, Ussiel, Sebuel, Jerimoth, Hananeia, Hanani, Eliatha, Gidalti, Romamti-eser, Josbecasa, Malothi, Hothir, a Mahasioth.
5 Roedd y rhain i gyd yn feibion i Heman, gweledydd y brenin, a oedd yn cyhoeddi geiriau’r gwir Dduw i’w ogoneddu; felly rhoddodd y gwir Dduw 14 mab a 3 merch i Heman.
6 Roedd y rhain i gyd o dan arweiniad eu tad yn canu yn nhŷ Jehofa gyda symbalau, offerynnau llinynnol, a thelynau er mwyn gwasanaethu yn nhŷ’r gwir Dduw.
Roedd Asaff, Jeduthun, a Heman o dan arweiniad y brenin.
7 Roedd ’na 288 ohonyn nhw a’u brodyr a oedd wedi eu hyfforddi i ganu i Jehofa, ac roedden nhw i gyd yn arbenigwyr.
8 Felly dyma nhw i gyd yn taflu coelbren ar gyfer eu dyletswyddau, y rhai ifanc a’r rhai hŷn, yr arbenigwyr ynghyd â’r dysgwyr.
9 Disgynnodd y coelbren cyntaf i Asaff fab Joseff, yr ail i Gedaleia, ei feibion a’i frodyr, 12;
10 y trydydd i Saccur, ei feibion a’i frodyr, 12;
11 y pedwerydd i Isri, ei feibion a’i frodyr, 12;
12 y pumed i Nethaneia, ei feibion a’i frodyr, 12;
13 y chweched i Bucceia, ei feibion a’i frodyr, 12;
14 y seithfed i Jesarela, ei feibion a’i frodyr, 12;
15 yr wythfed i Jesaia, ei feibion a’i frodyr, 12;
16 y nawfed i Mataneia, ei feibion a’i frodyr, 12;
17 y degfed i Simei, ei feibion a’i frodyr, 12;
18 yr unfed ar ddeg i Asarel, ei feibion a’i frodyr, 12;
19 y deuddegfed i Hasabeia, ei feibion a’i frodyr, 12;
20 y trydydd ar ddeg i Subael, ei feibion a’i frodyr, 12;
21 y pedwerydd ar ddeg i Matitheia, ei feibion a’i frodyr, 12;
22 y pymthegfed i Jeremoth, ei feibion a’i frodyr, 12;
23 yr unfed ar bymtheg i Hananeia, ei feibion a’i frodyr, 12;
24 yr ail ar bymtheg i Josbecasa, ei feibion a’i frodyr, 12;
25 y deunawfed i Hanani, ei feibion a’i frodyr, 12;
26 y pedwerydd ar bymtheg i Malothi, ei feibion a’i frodyr, 12;
27 yr ugeinfed i Eliatha, ei feibion a’i frodyr, 12;
28 yr unfed ar hugain i Hothir, ei feibion a’i frodyr, 12;
29 yr ail ar hugain i Gidalti, ei feibion a’i frodyr, 12;
30 y trydydd ar hugain i Mahasioth, ei feibion a’i frodyr, 12;
31 y pedwerydd ar hugain i Romamti-eser, ei feibion a’i frodyr, 12.