Cyntaf Cronicl 26:1-32

  • Grwpiau o borthorion (1-19)

  • Trysorwyr a swyddogion eraill (20-32)

26  Roedd y porthorion wedi eu grwpio fel hyn: o blith y Corahiaid, Meselemeia fab Core o blith meibion Asaff.  Ac roedd gan Meselemeia feibion: Sechareia oedd y cyntaf-anedig, Jediael oedd yr ail, Sebadeia oedd y trydydd, Jathniel oedd y pedwerydd,  Elam oedd y pumed, Jehohanan oedd y chweched, Elio-enai oedd y seithfed.  Ac roedd gan Obed-edom feibion: Semaia oedd y cyntaf-anedig, Jehosabad oedd yr ail, Joa oedd y trydydd, Sachar oedd y pedwerydd, Nethanel oedd y pumed,  Ammiel oedd y chweched, Issachar oedd y seithfed, a Peulthai oedd yr wythfed. Dyma sut gwnaeth Duw fendithio Obed-edom.  A chafodd ei fab Semaia feibion a oedd yn arweinwyr ar eu grwpiau o deuluoedd, oherwydd roedden nhw’n ddynion cryf a medrus.  Meibion Semaia: Othni, Reffael, Obed, ac Elsabad; ac roedd ei frodyr Elihu a Semacheia hefyd yn ddynion medrus.  Roedd y rhain i gyd o blith meibion Obed-edom; roedden nhw a’u meibion a’u brodyr yn ddynion medrus ac yn gymwys i wasanaethu, roedd ’na 62 yn perthyn i Obed-edom.  Ac roedd gan Meselemeia feibion a brodyr, 18 o ddynion medrus. 10  Ac roedd Hosa, o blith meibion Merari, yn dad i feibion. Simri oedd y pen, oherwydd er nad ef oedd y cyntaf-anedig, gwnaeth ei dad ei benodi yn ben, 11  Hilceia oedd yr ail, Tebaleia oedd y trydydd, Sechareia oedd y pedwerydd. Roedd nifer holl feibion a brodyr Hosa yn 13. 12  Ymhlith y grwpiau hyn o borthorion, roedd gan y penaethiaid ddyletswyddau yn union fel roedd gan eu brodyr, i wasanaethu yn nhŷ Jehofa. 13  Felly dyma’r teuluoedd bach a mawr yn taflu coelbren ar gyfer y gwahanol byrth. 14  Yna disgynnodd y coelbren ar gyfer yr ochr ddwyreiniol i Selemeia. Disgynnodd y coelbren ar gyfer yr ochr ogleddol i Sechareia ei fab, a oedd yn gynghorwr call. 15  Disgynnodd y coelbren ar gyfer yr ochr ddeheuol i Obed-edom, a chafodd y stordai eu haseinio i’w feibion. 16  Ynglŷn â’r coelbren ar gyfer yr ochr orllewinol, sy’n agos i Borth Salecheth wrth ymyl y briffordd sy’n mynd i fyny, disgynnodd hwnnw i Suppim a Hosa. Roedd un grŵp o warchodwyr wrth ymyl y llall; 17  roedd ’na chwech o Lefiaid i’r dwyrain; pedwar bob dydd i’r gogledd, pedwar bob dydd i’r de, a dau warchodwr wrth ymyl dau arall ar gyfer y stordai; 18  ar gyfer y portico* i’r gorllewin, roedd ’na bedwar wrth y briffordd a dau wrth y portico. 19  Y rhain oedd grwpiau’r porthorion o blith meibion y Corahiaid a’r Merariaid. 20  Ynglŷn â’r Lefiaid, roedd Aheia yn gyfrifol am drysordai tŷ y gwir Dduw, a thrysordai’r pethau a oedd wedi cael eu sancteiddio.* 21  O blith meibion Ladan, meibion y Gersoniad sy’n perthyn i Ladan, sef pennau teuluoedd estynedig Ladan y Gersoniad: Jehieli 22  a meibion Jehieli, Setham a’i frawd Joel. Roedden nhw’n gyfrifol am drysordai tŷ Jehofa. 23  O blith yr Amramiaid, yr Ishariaid, yr Hebroniaid, a’r Ussieliaid, 24  roedd Sebuel, mab Gersom, mab Moses, yn arweinydd a oedd yn gyfrifol am y stordai. 25  Ei frodyr a oedd yn ddisgynyddion i Elieser oedd Rehabia, Jesaia, Joram, Sicri, a Selomoth. 26  Y Selomoth hwn a’i frodyr oedd yn gyfrifol am holl drysordai’r pethau a oedd wedi eu sancteiddio, y pethau roedd y Brenin Dafydd, pennau’r grwpiau o deuluoedd, penaethiaid y miloedd a’r cannoedd, a phenaethiaid y fyddin wedi eu sancteiddio. 27  O’r rhyfeloedd ac o’r ysbail, roedden nhw wedi sancteiddio pethau er mwyn cynnal a chadw tŷ Jehofa; 28  yn ogystal â phopeth roedd Samuel y gweledydd, Saul fab Cis, Abner fab Ner, a Joab fab Seruia wedi eu sancteiddio. Cafodd popeth a oedd wedi ei sancteiddio gan unrhyw un, ei roi yng ngofal Selomith a’i frodyr. 29  O blith yr Ishariaid, cafodd Cenaneia a’i feibion wahanol aseiniadau y tu allan i dŷ Dduw, fel swyddogion a barnwyr dros Israel. 30  O blith yr Hebroniaid, roedd Hasabeia a’i frodyr, 1,700 o ddynion medrus, yn gyfrifol am y gwaith gweinyddu yn Israel yn yr ardal i’r gorllewin o’r Iorddonen; roedden nhw dros yr holl waith yng ngwasanaeth Jehofa ac yng ngwasanaeth y brenin. 31  O blith disgynyddion teulu Hebron, Jereia oedd y pen. Yn y ddeugeinfed* flwyddyn o deyrnasiad Dafydd, dyma rai o bobl Dafydd yn chwilio am ddynion cryf a medrus ymhlith yr Hebroniaid, ac yn dod o hyd i rai yn Jaser yn Gilead. 32  Ac roedd ganddo 2,700 o frodyr a oedd yn ddynion medrus, ac yn bennau ar y grwpiau o deuluoedd. Felly dyma’r Brenin Dafydd yn eu haseinio nhw i fod dros y Reubeniaid, y Gadiaid, a hanner llwyth Manasse, ym mhob mater a oedd yn ymwneud â’r gwir Dduw ac â’r brenin.

Troednodiadau

Ardal dan orchudd gyda cholofnau.
Neu “pethau cysegredig.”
Neu “40fed.”