Cyntaf Cronicl 28:1-21

  • Anerchiad Dafydd ynglŷn ag adeiladu’r deml (1-8)

  • Cyfarwyddiadau i Solomon; Solomon yn derbyn cynllun pensaernïol (9-21)

28  Yna casglodd Dafydd holl dywysogion Israel i Jerwsalem: tywysogion y llwythau, penaethiaid y grwpiau a oedd yn gwasanaethu’r brenin, y penaethiaid ar filoedd a’r penaethiaid ar gannoedd, penaethiaid holl eiddo ac anifeiliaid y brenin a’i feibion, ynghyd â swyddogion y llys a phob dyn cryf a medrus.  Yna safodd y Brenin Dafydd ar ei draed a dweud: “Gwrandewch arna i, fy mrodyr a fy mhobl. Dymuniad fy nghalon oedd adeiladu tŷ parhaol ar gyfer arch cyfamod Jehofa fel stôl droed ar gyfer ein Duw, a gwnes i baratoi i’w adeiladu.  Ond dywedodd y gwir Dduw wrtho i, ‘Fyddi di ddim yn adeiladu tŷ ar gyfer fy enw, oherwydd rwyt ti’n rhyfelwr, ac rwyt ti wedi tywallt* gwaed.’  Ond, gwnaeth Jehofa, Duw Israel, fy newis i allan o holl dŷ fy nhad i fod yn frenin ar Israel am byth, oherwydd dewisodd Jwda fel arweinydd, ac o dŷ Jwda, tŷ fy nhad, ac o feibion fy nhad, y fi oedd yr un gwnaeth ef ei gymeradwyo, er mwyn fy ngwneud i’n frenin ar Israel gyfan.  Ac allan o fy holl feibion—oherwydd mae Jehofa wedi rhoi llawer o feibion imi—dewisodd ef fy mab Solomon i eistedd ar orsedd frenhinol Jehofa dros Israel.  “Dywedodd wrtho i, ‘Dy fab Solomon yw’r un a fydd yn adeiladu fy nhŷ a fy nghyrtiau, oherwydd rydw i wedi ei ddewis fel mab, a bydda i’n dad iddo.  Bydda i’n sefydlu ei frenhiniaeth yn gadarn am byth os yw’n benderfynol o ddilyn fy ngorchmynion a fy marnedigaethau fel mae’n gwneud nawr.’  Felly rydw i’n dweud o flaen llygaid Israel gyfan, cynulleidfa Jehofa, ac yng nghlyw ein Duw: Ceisiwch ddeall holl orchmynion Jehofa eich Duw, a chadwch atyn nhw, fel y byddwch chi’n gallu meddiannu’r wlad dda a’i gadael fel etifeddiaeth barhaol i’ch meibion ar eich holau.  “A tithau, fy mab Solomon, dylet ti ddod i adnabod Duw dy dad a’i wasanaethu â chalon gyflawn* a gydag ysbryd llawen,* oherwydd mae Jehofa yn chwilio pob calon, ac mae’n deall* ein holl feddyliau a’n bwriadau. Os byddi di’n chwilio amdano, bydd ef yn gadael iti ddod o hyd iddo, ond os byddi di’n ei adael, bydd yn dy wrthod di am byth. 10  Gwranda nawr, oherwydd mae Jehofa wedi dy ddewis di i adeiladu tŷ iddo fel rhywle cysegredig. Bydda’n ddewr a bwrw iddi.” 11  Yna rhoddodd Dafydd i’w fab Solomon y cynllun pensaernïol ar gyfer y cyntedd a’r ystafelloedd, gan gynnwys ei stordai, ei ystafelloedd ar y to, ei ystafelloedd mewnol, a’r ystafell lle mae Duw yn maddau.* 12  Rhoddodd iddo’r cynllun pensaernïol a oedd yn cynnwys popeth a oedd wedi cael ei gyfleu iddo drwy ysbryd Duw, ar gyfer cyrtiau tŷ Jehofa, yr holl ystafelloedd bwyta o’i gwmpas, trysordai tŷ’r gwir Dduw, a thrysordai’r pethau a oedd wedi cael eu sancteiddio;* 13  hefyd ar gyfer y grwpiau o offeiriaid ac o Lefiaid, ac ar gyfer holl ddyletswyddau gwasanaeth tŷ Jehofa, ac ar gyfer holl offer gwasanaeth tŷ Jehofa; 14  yn ogystal â manylion ynglŷn â phwysau’r aur, yr aur ar gyfer yr holl offer ar gyfer y gwahanol ddyletswyddau, pwysau’r holl offer arian ar gyfer y gwahanol ddyletswyddau; 15  hefyd ynglŷn â phwysau’r gwahanol ganwyllbrennau aur a’u lampau, a phwysau’r gwahanol ganwyllbrennau arian a’u lampau, yn ôl sut bydden nhw’n cael eu defnyddio; 16  hefyd ynglŷn â phwysau’r aur ar gyfer byrddau’r bara sydd wedi ei gyflwyno i Dduw,* ar gyfer pob bwrdd, yn ogystal â’r arian ar gyfer y byrddau o arian, 17  ar gyfer y ffyrc, y powlenni, y jygiau o aur pur, a phwysau pob powlen fach aur, a phob powlen fach arian. 18  Hefyd rhoddodd fanylion ynglŷn â phwysau’r aur wedi ei buro ar gyfer allor yr arogldarth, ac ar gyfer yr hyn sy’n cynrychioli’r cerbyd, sef y cerwbiaid o aur sy’n estyn eu hadenydd allan ac yn cysgodi arch cyfamod Jehofa. 19  Dywedodd Dafydd: “Roedd llaw Jehofa arna i, a rhoddodd ddealltwriaeth imi allu cofnodi holl fanylion y cynllun pensaernïol.” 20  Yna dywedodd Dafydd wrth ei fab Solomon: “Bydda’n ddewr ac yn gryf, a bwrw iddi. Paid ag ofni na dychryn, oherwydd mae Jehofa Dduw, fy Nuw i, gyda ti. Fydd ef ddim yn dy adael di nac yn cefnu arnat ti, ond bydd ef gyda ti nes bydd yr holl waith ar gyfer gwasanaeth tŷ Jehofa wedi ei orffen. 21  Ac mae’r grwpiau o offeiriaid a Lefiaid yn barod i wneud eu dyletswyddau yn nhŷ’r gwir Dduw. Mae gen ti weithwyr bodlon a medrus i wneud pob math o wasanaeth, yn ogystal â’r tywysogion a’r holl bobl a fydd yn dilyn dy holl gyfarwyddiadau.”

Troednodiadau

Neu “arllwys.”
Neu “hollol ffyddlon.”
Neu “bodlon.”
Neu “dirnad.”
Neu “a’r ystafell lle roedden nhw’n cadw caead yr Arch; lle y cymod; y drugareddfa.”
Neu “cysegru.”
Neu “bara gosod.”