Cyntaf Cronicl 29:1-30

  • Cyfraniadau ar gyfer y deml (1-9)

  • Gweddi Dafydd (10-19)

  • Y bobl yn llawenhau; brenhiniaeth Solomon (20-25)

  • Marwolaeth Dafydd (26-30)

29  Yna dywedodd y Brenin Dafydd wrth y gynulleidfa gyfan: “Mae fy mab Solomon, yr un mae Duw wedi ei ddewis, yn ifanc ac yn ddibrofiad, ac mae ’na waith mawr i’w wneud, oherwydd dydy hon ddim yn deml* ar gyfer dyn, ond ar gyfer Jehofa Dduw.  Ac rydw i wedi gwneud fy ngorau glas i baratoi ar gyfer tŷ fy Nuw, gan ddarparu aur, arian, copr, haearn, pren, cerrig onics, cerrig i’w gosod â morter, cerrig bach mosaig, pob math o gemau gwerthfawr, a nifer mawr o gerrig alabastr.  Hefyd, am fy mod i wrth fy modd â thŷ fy Nuw, rydw i hefyd yn rhoi aur ac arian allan o fy nhrysordy personol i dŷ fy Nuw, yn ogystal â phopeth rydw i wedi ei baratoi ar gyfer y tŷ sanctaidd,  gan gynnwys 3,000 talent* o aur o Offir a 7,000 talent o arian wedi ei buro, ar gyfer gorchuddio waliau’r tai,  ar gyfer popeth aur a phopeth arian, ac ar gyfer yr holl waith sydd i’w wneud gan y crefftwyr. Nawr pwy sy’n gwirfoddoli heddiw i ddod ag anrheg i Jehofa?”  Felly, dyma dywysogion y grwpiau o deuluoedd, tywysogion llwythau Israel, y penaethiaid ar filoedd ac ar gannoedd, a phenaethiaid gwaith y brenin yn camu ymlaen allan o’u gwirfodd.  A dyma beth roddon nhw i wasanaeth tŷ’r gwir Dduw: 5,000 talent o aur, 10,000 daric,* 10,000 talent o arian, 18,000 talent o gopr, a 100,000 talent o haearn.  Gwnaeth pawb oedd â gemau gwerthfawr eu rhoi nhw i drysordy tŷ Jehofa, o dan ofal Jehiel y Gersoniad.  Roedd y bobl yn llawenhau wrth wneud yr offrymau gwirfoddol hyn, oherwydd roedden nhw’n rhoi i Jehofa â chalon gyflawn, ac roedd y Brenin Dafydd hefyd wrth ei fodd. 10  Yna gwnaeth Dafydd foli Jehofa o flaen y gynulleidfa gyfan. Dywedodd Dafydd: “Gad iti gael dy foli, O Jehofa, Duw ein tad Israel, nawr ac am byth.* 11  Ti, O Jehofa, biau’r mawredd a’r nerth a’r harddwch a’r ysblander a’r gogoniant, oherwydd mae popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear yn perthyn i ti. Ti biau’r deyrnas, O Jehofa. Ti yw’r Un sy’n dy ddyrchafu dy hun yn ben ar bopeth. 12  Mae’r cyfoeth a’r gogoniant yn dod oddi wrthot ti, ac rwyt ti’n rheoli dros bopeth, ac yn dy law di mae ’na nerth a chryfder, ac mae dy law di yn gallu dyrchafu a rhoi nerth i bawb. 13  Ac nawr, ein Duw, rydyn ni’n diolch iti ac yn moli dy enw bendigedig. 14  “Ac eto, pwy ydw i a phwy ydy fy mhobl inni haeddu cael y fraint o wneud offrymau gwirfoddol fel hyn? Oherwydd mae popeth yn dod oddi wrthot ti, ac rydyn ni ond wedi rhoi iti beth sy’n dod o dy law dy hun. 15  Rydyn ni’n estroniaid yn dy bresenoldeb ac yn fewnfudwyr, yn union fel ein holl gyndadau. Oherwydd mae ein dyddiau ar y ddaear fel cysgod—heb obaith. 16  O Jehofa ein Duw, mae’r holl gyfoeth hyn rydyn ni wedi ei baratoi er mwyn adeiladu tŷ ar gyfer dy enw sanctaidd wedi dod o dy law dy hun, ac mae’r cwbl yn perthyn i ti. 17  Rydw i’n gwybod yn iawn, O fy Nuw, dy fod ti’n chwilio’r galon a dy fod ti’n hapus i weld calon bur.* Ym mhurdeb fy nghalon,* rydw i wedi offrymu’r holl bethau hyn yn wirfoddol, ac rydw i’n llawen dros ben i weld dy bobl yn bresennol yma i wneud offrymau gwirfoddol iti. 18  O Jehofa, Duw Abraham, Isaac, ac Israel, ein cyndadau, helpa dy bobl i gadw’r dymuniadau a’r cymhellion hyn yn eu calonnau am byth, a chyfeiria eu calonnau atat ti. 19  A rho galon gyflawn* i fy mab Solomon, er mwyn iddo ddilyn dy orchmynion, dy gyfraith, a dy ddeddfau, ac er mwyn iddo wneud yr holl bethau hyn ac adeiladu’r deml* rydw i wedi paratoi ar ei chyfer.” 20  Yna dywedodd Dafydd wrth y gynulleidfa gyfan: “Nawr molwch Jehofa eich Duw.” A gwnaeth y gynulleidfa foli Jehofa, Duw eu cyndadau, a phlygu’n isel ac ymgrymu i Jehofa ac i’r brenin. 21  A gwnaethon nhw barhau i offrymu aberthau i Jehofa ac i gynnig offrymau llosg i Jehofa y diwrnod wedyn, 1,000 o deirw ifanc, 1,000 o hyrddod,* 1,000 o ŵyn gwryw, yn ogystal â’u hoffrymau diod; offrymon nhw nifer mawr o aberthau ar gyfer Israel gyfan. 22  Parhaon nhw i fwyta ac i yfed o flaen Jehofa ar y diwrnod hwnnw gyda llawenydd mawr, ac am yr ail waith gwnaethon nhw benodi Solomon fab Dafydd yn frenin a’i eneinio o flaen Jehofa yn arweinydd, a hefyd Sadoc yn offeiriad. 23  Ac eisteddodd Solomon ar orsedd Jehofa fel brenin yn lle Dafydd ei dad, ac roedd yn llwyddiannus, ac roedd yr Israeliaid i gyd yn ufudd iddo. 24  Gwnaeth y tywysogion i gyd, y milwyr dewr, a hefyd holl feibion y Brenin Dafydd ymostwng i’r Brenin Solomon. 25  Ac achosodd Jehofa i Solomon fod yn uchel ei barch yng ngolwg Israel gyfan, a’i ddyrchafu yn fwy nag unrhyw un o frenhinoedd Israel o’i flaen. 26  Felly teyrnasodd Dafydd fab Jesse dros Israel gyfan, 27  teyrnasodd dros Israel am 40 mlynedd. Teyrnasodd yn Hebron am 7 mlynedd, ac yn Jerwsalem am 33 blynedd. 28  A bu farw pan oedd yn hen, ar ôl mwynhau bywyd hir, cyfoeth, a gogoniant; a daeth ei fab Solomon yn frenin yn ei le. 29  Ynglŷn â hanes y Brenin Dafydd, o’r dechrau i’r diwedd, mae wedi ei ysgrifennu ymhlith geiriau Samuel y gweledydd, Nathan y proffwyd, a Gad y gweledydd. 30  Mae’r hanes yn sôn am ei deyrnasiad, ei weithredoedd nerthol, a’r pethau a ddigwyddodd iddo ef, i Israel, ac i’r holl deyrnasoedd cyfagos.

Troednodiadau

Neu “yn balas.”
Roedd talent yn gyfartal â 34.2 kg (1,101 oz t).
Roedd daric yn geiniog aur Bersiaidd.
Neu “o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.”
Neu “calon gyfiawn.”
Neu “Â chalon ddifuant.”
Neu “hollol ffyddlon.”
Neu “palas.”
Neu “o feheryn.”