Cyntaf Cronicl 3:1-24

  • Disgynyddion Dafydd (1-9)

  • Llinach frenhinol Dafydd (10-24)

3  Y rhain oedd meibion Dafydd a gafodd eu geni iddo yn Hebron: y cyntaf-anedig oedd Amnon, drwy Ahinoam o Jesreel; yr ail oedd Daniel, drwy Abigail o Garmel;  y trydydd oedd Absalom, mab Maacha, merch Talmai brenin Gesur; y pedwerydd oedd Adoneia, mab Haggith;  y pumed oedd Seffatia, drwy Abital; a’r chweched oedd Ithream, drwy Egla gwraig Dafydd.  Cafodd y chwech hyn eu geni iddo yn Hebron; teyrnasodd yno am 7 mlynedd a 6 mis, a theyrnasodd yn Jerwsalem am 33 blynedd.  Cafodd y rhain eu geni iddo yn Jerwsalem: Simea, Sobab, Nathan, a Solomon; mam y pedwar hyn oedd Bath-seba, merch Ammiel.  Ac roedd ’na naw mab arall: Ibhar, Elisama, Eliffelet,  Noga, Neffeg, Jaffia,  Elisama, Eliada, ac Eliffelet.  Y rhain i gyd oedd meibion Dafydd, ar wahân i feibion y gwragedd eraill,* a Tamar oedd eu chwaer. 10  Mab Solomon oedd Rehoboam; ei fab ef oedd Abeia, ei fab ef oedd Asa, ei fab ef oedd Jehosaffat, 11  ei fab ef oedd Jehoram, ei fab ef oedd Ahaseia, ei fab ef oedd Jehoas, 12  ei fab ef oedd Amaseia, ei fab ef oedd Asareia, ei fab ef oedd Jotham, 13  ei fab ef oedd Ahas, ei fab ef oedd Heseceia, ei fab ef oedd Manasse, 14  ei fab ef oedd Amon, ei fab ef oedd Joseia. 15  Meibion Joseia oedd Johanan ei gyntaf-anedig, Jehoiacim ei ail, Sedeceia ei drydydd, a Salum ei bedwerydd. 16  Mab Jehoiacim oedd Jechoneia, a’i fab ef oedd Sedeceia. 17  Meibion Jechoneia y carcharor oedd Sealtiel, 18  Malciram, Pedaia, Senasar, Jecameia, Hosama, a Nedabeia. 19  Meibion Pedaia oedd Sorobabel a Simei; a meibion Sorobabel oedd Mesulam a Hananeia (a Selomith oedd eu chwaer); 20  ac roedd ’na bum mab arall: Hasuba, Ohel, Berecheia, Hasadeia, a Jusab-hesed. 21  A meibion Hananeia oedd Pelatia a Jesaia; mab Jesaia oedd Reffaia; mab Reffaia oedd Arnan; mab Arnan oedd Obadeia; mab Obadeia oedd Sechaneia. 22  A meibion Sechaneia oedd Semaia a’i feibion: Hattus, Igal, Bareia, Nearia, a Saffat—chwech i gyd. 23  A meibion Nearia oedd Elioenai, Hisceia, ac Asricam, tri. 24  A meibion Elioenai oedd Hodafia, Eliasib, Pelaia, Accub, Johanan, Delaia, ac Anani, saith.

Troednodiadau

Neu “gwragedd gordderch,” hynny yw, gwragedd eilradd a oedd yn aml yn gaethferched.