Cyntaf Cronicl 4:1-43
4 Meibion Jwda oedd Peres, Hesron, Carmi, Hur, a Sobal.
2 Daeth Reaia, mab Sobal, yn dad i Jahath; daeth Jahath yn dad i Ahumai a Lahad. Y rhain oedd teuluoedd y Sorathiaid.
3 Y rhain oedd meibion tad Etam: Jesreel, Isma, ac Idbas (ac Haselelponi oedd enw eu chwaer),
4 a Penuel oedd tad Gedor, ac Eser oedd tad Husa. Y rhain oedd meibion Hur, cyntaf-anedig Effratha a thad Bethlehem.
5 Roedd gan Ashur, tad Tecoa, ddwy wraig—Hela a Naara.
6 Gwnaeth Naara eni Ahusam, Heffer, Temeni, a Hahastari iddo. Y rhain oedd meibion Naara.
7 A meibion Hela oedd Sereth, Ishar, ac Ethnan.
8 Daeth Cos yn dad i Anub, Sobeba, a theuluoedd Aharhel fab Harum.
9 Roedd Jabes yn cael ei barchu yn fwy na’i frodyr; a rhoddodd ei fam yr enw Jabes* iddo gan ddweud: “Gwnes i ei eni mewn poen.”
10 Galwodd Jabes ar Dduw Israel gan ddweud: “Plîs bendithia fi, a rho fwy o diriogaeth imi, a gad i dy law fod gyda mi a fy amddiffyn i rhag trychineb, fel na fydd unrhyw beth drwg yn digwydd imi!” Felly dyma Duw yn ateb ei weddi.
11 Daeth Celub frawd Sua yn dad i Mehir, a oedd yn dad i Eston.
12 Daeth Eston yn dad i Beth-raffa, Pasea, a Tehinna, tad Irnahas. Y rhain oedd dynion Recha.
13 A meibion Cenas oedd Othniel a Seraia, a mab Othniel oedd Hathath.
14 Daeth Meonothai yn dad i Offra. Daeth Seraia yn dad i Joab, tad pobl Geharashim.* Cafodd y dyffryn yr enw hwnnw oherwydd roedd y bobl yn grefftwyr.
15 Meibion Caleb fab Jeffunne oedd Iru, Ela, a Naam; a mab Ela oedd Cenas.
16 Meibion Jehalelel oedd Siff, Siffa, Tiria, ac Asarel.
17 Meibion Esra oedd Jether, Mered, Effer, a Jalon; gwnaeth hi* feichiogi a geni Miriam, Sammai, ac Isba, tad Estemoa.
18 (A gwnaeth ei wraig Iddewig eni Jered tad Gedor, Heber tad Socho, a Jecuthiel tad Sanoa.) Y rhain oedd meibion Bitheia, merch Pharo, gwraig Mered.
19 Meibion gwraig Hodeia, chwaer Naham, oedd tadau Ceila y Garmiad, ac Estemoa y Maachathiad.
20 A meibion Simon oedd Amnon, Rinna, Ben-hanan, a Tilon. A meibion Isi oedd Soheth a Ben-soheth.
21 Meibion Sela fab Jwda oedd Er tad Lecha, Laada tad Maresa, a hefyd teuluoedd Asbea, y gweithwyr a oedd yn gwneud lliain main,
22 a Jocim, dynion Coseba, Joas, a Saraff a ddaeth yn wŷr i ferched* o Moab, a Jasubi-lehem. Mae’r cofnodion hyn yn hen iawn.
23 Roedden nhw’n grochenwyr a oedd yn byw yn Netaim a Gedera. Roedden nhw’n byw yno ac yn gweithio i’r brenin.
24 Meibion Simeon oedd Nemuel, Jamin, Jarib, Sera, a Saul.
25 Ei fab ef oedd Salum, ei fab ef oedd Mibsam, a’i fab ef oedd Misma.
26 A mab Misma oedd Hamuel, ei fab ef oedd Saccur, ei fab ef oedd Simei.
27 Ac roedd gan Simei 16 o feibion a 6 o ferched; ond doedd gan ei frodyr ddim llawer o feibion, a doedd gan yr un o’u teuluoedd gymaint o feibion ag yr oedd gan ddynion Jwda.
28 Roedden nhw’n byw yn Beer-seba, Molada, Hasar-sual,
29 Bilha, Esem, Tolad,
30 Bethuel, Horma, Siclag,
31 Beth-marcaboth, Hasar-susim, Beth-biri, a Saaraim. Y rhain oedd eu dinasoedd nes i Dafydd ddod yn frenin.
32 Roedden nhw hefyd yn byw yn Etam, Ain, Rimmon, Tochen, ac Asan, pum dinas,
33 ac yng nghyffiniau’r dinasoedd hyn mor bell â Baal. Dyma oedd eu henwau fel roedden nhw wedi eu cofrestru yn eu hachau teuluol, yn ogystal â lle roedden nhw’n byw.
34 A Mesobab, Jamlech, Josa fab Amaseia,
35 Joel, Jehu, mab Josibia, mab Seraia, mab Asiel,
36 Elioenai, Jaacoba, Jesohaia, Asaia, Adiel, Jesimiel, Benaia,
37 a Sisa, mab Siffi, mab Alon, mab Jedaia, mab Simri, mab Semaia;
38 y rhain, sydd wedi eu henwi, oedd penaethiaid eu teuluoedd, a daeth teuluoedd eu cyndadau yn fwy niferus.
39 Ac aethon nhw at fynedfa Gedor, sydd ar ochr ddwyreiniol y dyffryn, i chwilio am dir pori i’w preiddiau.
40 Yn y pen draw daethon nhw o hyd i dir pori da a ffrwythlon, ac roedd y wlad yn eang, yn ddistaw, ac yn heddychlon. Disgynyddion Ham oedd yn arfer byw yno.
41 Yn ystod dyddiau Heseceia brenin Jwda, daeth y rhai hyn sydd wedi eu henwi a tharo pebyll pobl Ham i lawr, yn ogystal â phebyll y Meuniaid oedd yno. Gwnaethon nhw eu dinistrio’n llwyr, a does dim golwg ohonyn nhw hyd heddiw; a gwnaethon nhw gymryd eu lle a setlo yno am fod tir pori i’w preiddiau yno.
42 Aeth rhai o ddynion Simeon, 500 ohonyn nhw, i Fynydd Seir gyda Pelatia, Nearia, Reffaia, ac Ussiel, meibion Isi a oedd yn eu harwain.
43 A gwnaethon nhw daro i lawr weddill yr Amaleciaid a oedd wedi dianc, ac maen nhw’n byw yno hyd heddiw.
Troednodiadau
^ Efallai bod yr enw Jabes yn gysylltiedig â gair Hebraeg sy’n golygu “poen.”
^ Sy’n golygu “Dyffryn y Crefftwyr.”
^ Efallai’n cyfeirio at Bitheia yn ad. 18.
^ Neu “i fenywod.”