Cyntaf Cronicl 5:1-26

  • Disgynyddion Reuben (1-10)

  • Disgynyddion Gad (11-17)

  • Yr Hagariaid yn cael eu trechu (18-22)

  • Hanner llwyth Manasse (23-26)

5  Dyma feibion Reuben, cyntaf-anedig Israel. Ef oedd y mab cyntaf-anedig, ond am ei fod wedi cysgu gyda gwraig arall* ei dad,* cafodd ei hawl fel y cyntaf-anedig ei rhoi i feibion Joseff, mab Israel, felly ni chafodd ei enwi fel y cyntaf-anedig yng nghofrestr achau’r teulu.  Er bod Jwda yn uwch na’i frodyr, ac er mai drwyddo ef y daeth yr un a fyddai’n arweinydd, roedd yr hawl fel cyntaf-anedig yn perthyn i Joseff.  Meibion Reuben, cyntaf-anedig Israel, oedd Hanoch, Palu, Hesron, a Carmi.  Mab Joel oedd Semaia, ei fab ef oedd Gog, ei fab ef oedd Simei,  ei fab ef oedd Micha, ei fab ef oedd Reaia, ei fab ef oedd Baal,  a’i fab ef oedd Beera, yr un y gwnaeth Tilgath-pilneser, brenin Asyria, ei gaethgludo; roedd yn bennaeth ar y Reubeniaid.  Yn ôl cofrestrau yr achau teuluol, roedd y dynion hyn yn perthyn i Beera: Jeiel y pennaeth, Sechareia,  a Bela, mab Asas, mab Sema, mab Joel, a oedd yn byw yn yr ardal sy’n mynd o Aroer i Nebo a Baal-meon.  I’r dwyrain gwnaethon nhw setlo mor bell ag ymylon yr anialwch sy’n ymestyn at Afon Ewffrates oherwydd roedd ganddyn nhw lawer iawn o anifeiliaid yng ngwlad Gilead. 10  Yn nyddiau Saul, roedden nhw’n rhyfela yn erbyn yr Hagariaid a gafodd eu trechu ganddyn nhw, felly dyma nhw’n byw yn eu pebyll drwy’r holl diriogaeth i’r dwyrain o Gilead. 11  Nawr roedd disgynyddion Gad yn byw nesaf atyn nhw yng ngwlad Basan mor bell â Salcha. 12  Joel oedd y pennaeth, Saffam oedd yr ail, ac roedd Janai a Saffat hefyd yn arweinwyr yn Basan. 13  A’u perthnasau oedd Michael, Mesulam, Seba, Jorai, Jacan, Sïa, ac Eber, saith yn gyfan gwbl. 14  Y rhain oedd meibion Abihail, mab Huri, mab Jaroa, mab Gilead, mab Michael, mab Jesisai, mab Jahdo, mab Bus. 15  Ahi, mab Abdiel, mab Guni oedd pen eu teulu. 16  Roedden nhw’n byw yn Gilead, yn Basan a’i threfi cyfagos, ac yn holl dir pori Saron mor bell ag yr oedd yn mynd. 17  Roedden nhw i gyd wedi eu cofrestru yn ôl eu hachau teuluol yn nyddiau Jotham brenin Jwda ac yn nyddiau Jeroboam* brenin Israel. 18  Roedd gan y Reubeniaid, y Gadiaid, a hanner llwyth Manasse 44,760 o filwyr cryf yn eu byddin a oedd yn cario tarianau a chleddyfau, ac roedden nhw wedi eu harfogi â bwâu, ac wedi eu hyfforddi ar gyfer rhyfela. 19  Gwnaethon nhw ryfela yn erbyn yr Hagariaid, Jetur, Naffis, a Nodab. 20  A chawson nhw help i ymladd yn eu herbyn, fel eu bod nhw’n trechu’r Hagariaid a phawb oedd gyda nhw, am eu bod nhw wedi gofyn i Dduw am help yn y rhyfel, ac atebodd ef eu cri oherwydd roedden nhw’n ymddiried ynddo. 21  Dyma nhw’n cipio eu hanifeiliaid—50,000 o gamelod, 250,000 o ddefaid, a 2,000 o asynnod—yn ogystal â 100,000 o bobl. 22  Roedd llawer wedi marw, oherwydd mai rhyfel y Duw byw oedd hwn. Ac roedden nhw’n byw yno yn eu lle nhw tan adeg y gaethglud. 23  Roedd disgynyddion hanner llwyth Manasse yn byw yn yr ardal o Basan i Baal-hermon a Senir a Mynydd Hermon. Roedd ’na nifer mawr ohonyn nhw. 24  Dyma bennau eu grwpiau o deuluoedd: Effer, Isi, Eliel, Asriel, Jeremeia, Hodafia, a Jahdiel; roedden nhw’n filwyr dewr, yn ddynion enwog, ac yn bennau ar eu grwpiau o deuluoedd. 25  Ond roedden nhw’n anffyddlon i Dduw eu cyndadau, ac yn eu puteinio eu hunain gyda duwiau pobl y wlad, y rhai roedd Duw wedi eu lladd o’u blaenau nhw. 26  Felly dyma Duw Israel yn ysgogi Pul brenin Asyria (hynny yw, Tilgath-pilneser) i gaethgludo’r Reubeniaid, y Gadiaid, a hanner llwyth Manasse, ac i fynd â nhw i Hala, Habor, Hara, ac ardal afon Gosan, lle maen nhw’n byw hyd heddiw.

Troednodiadau

Neu “gwraig ordderch,” hynny yw, gwraig eilradd a oedd yn aml yn gaethferch.
Llyth., “am ei fod wedi halogi gwely ei dad.”
Hynny yw, Jeroboam II.