Cyntaf Cronicl 6:1-81

  • Disgynyddion Lefi (1-30)

  • Cantorion y deml (31-47)

  • Disgynyddion Aaron (48-53)

  • Gwersylloedd y Lefiaid (54-81)

6  Meibion Lefi oedd Gerson, Cohath, a Merari.  Meibion Cohath oedd Amram, Ishar, Hebron, ac Ussiel.  Plant Amram oedd Aaron, Moses, a hefyd Miriam. A meibion Aaron oedd Nadab, Abihu, Eleasar, ac Ithamar.  Daeth Eleasar yn dad i Phineas; daeth Phineas yn dad i Abisua.  Daeth Abisua yn dad i Bucci; daeth Bucci yn dad i Ussi.  Daeth Ussi yn dad i Seraheia; daeth Seraheia yn dad i Meraioth.  Daeth Meraioth yn dad i Amareia; daeth Amareia yn dad i Ahitub.  Daeth Ahitub yn dad i Sadoc; daeth Sadoc yn dad i Ahimaas.  Daeth Ahimaas yn dad i Asareia; daeth Asareia yn dad i Johanan. 10  Daeth Johanan yn dad i Asareia. Roedd ef yn gwasanaethu fel offeiriad yn y deml a adeiladodd Solomon yn Jerwsalem. 11  Daeth Asareia yn dad i Amareia; daeth Amareia yn dad i Ahitub. 12  Daeth Ahitub yn dad i Sadoc; daeth Sadoc yn dad i Salum. 13  Daeth Salum yn dad i Hilceia; daeth Hilceia yn dad i Asareia. 14  Daeth Asareia yn dad i Seraia; daeth Seraia yn dad i Jehosadac. 15  A chafodd Jehosadac ei gymryd yn gaeth pan wnaeth Jehofa ddefnyddio Nebuchadnesar i gaethgludo Jwda a Jerwsalem. 16  Meibion Lefi oedd Gersom,* Cohath, a Merari. 17  Dyma enwau meibion Gersom: Libni a Simei. 18  Meibion Cohath oedd Amram, Ishar, Hebron, ac Ussiel. 19  Meibion Merari oedd Mahli a Musi. Dyma oedd teuluoedd y Lefiaid yn ôl enwau eu cyndadau: 20  Ynglŷn â disgynyddion Gersom, ei fab ef oedd Libni, ei fab ef oedd Jahath, ei fab ef oedd Simma, 21  ei fab ef oedd Joa, ei fab ef oedd Ido, ei fab ef oedd Sera, ei fab ef oedd Jeatherai. 22  Disgynyddion Cohath oedd Aminadab ei fab, ei fab ef oedd Cora, ei fab ef oedd Assir, 23  ei fab ef oedd Elcana, ei fab ef oedd Ebiasaff, ei fab ef oedd Assir, 24  ei fab ef oedd Tahath, ei fab ef oedd Uriel, ei fab ef oedd Usseia, a’i fab ef oedd Saul. 25  Meibion Elcana oedd Amasai ac Ahimoth. 26  Ynglŷn ag Elcana, mab Elcana oedd Soffai, ei fab ef oedd Nahath, 27  ei fab ef oedd Eliab, ei fab ef oedd Jeroham, ei fab ef oedd Elcana. 28  Meibion Samuel oedd Joel y cyntaf-anedig ac Abeia oedd yr ail. 29  Disgynyddion Merari oedd Mahli ei fab, ei fab ef oedd Libni, ei fab ef oedd Simei, ei fab ef oedd Ussa, 30  ei fab ef oedd Simea, ei fab ef oedd Haggia, a’i fab ef oedd Asaia. 31  Penododd Dafydd ddynion i arwain y canu yn nhŷ Jehofa ar ôl i’r Arch gael ei rhoi yno. 32  Roedden nhw’n gyfrifol am y canu o flaen y tabernacl, hynny yw, pabell y cyfarfod, nes i Solomon adeiladu tŷ Jehofa yn Jerwsalem, a gwnaethon nhw wasanaethu yn ôl eu dyletswyddau. 33  Dyma’r dynion a wnaeth wasanaethu gyda’u meibion: O’r Cohathiaid, Heman y canwr, mab Joel, mab Samuel, 34  mab Elcana, mab Jeroham, mab Eliel, mab Toa, 35  mab Suff, mab Elcana, mab Mahath, mab Amasai, 36  mab Elcana, mab Joel, mab Asareia, mab Seffaneia, 37  mab Tahath, mab Assir, mab Ebiasaff, mab Cora, 38  mab Ishar, mab Cohath, mab Lefi, mab Israel. 39  Safodd ei frawd Asaff wrth law dde Heman; roedd Asaff yn fab i Berecheia, mab Simea, 40  mab Michael, mab Baaseia, mab Malcheia, 41  mab Ethni, mab Sera, mab Adaia, 42  mab Ethan, mab Simma, mab Simei, 43  mab Jahath, mab Gersom, mab Lefi. 44  Roedd eu brodyr, disgynyddion Merari, wrth law chwith Heman; Ethan, mab Cisi, mab Abdi, mab Maluc, 45  mab Hasabeia, mab Amaseia, mab Hilceia, 46  mab Amsi, mab Bani, mab Semer, 47  mab Mahli, mab Musi, mab Merari, mab Lefi. 48  Roedd eu brodyr, y Lefiaid eraill, yn gyfrifol am holl wasanaeth y tabernacl, tŷ y gwir Dduw. 49  Roedd Aaron a’i feibion yn gwneud i fwg godi oddi ar yr aberthau ar allor yr offrymau llosg ac ar allor yr arogldarth, gan gyflawni’r dyletswyddau sy’n gysylltiedig â’r pethau mwyaf sanctaidd, er mwyn gwneud yn iawn am bechodau Israel,* yn ôl popeth roedd Moses, gwas y gwir Dduw, wedi ei orchymyn. 50  Y rhain oedd disgynyddion Aaron: Eleasar ei fab, ei fab ef oedd Phineas, ei fab ef oedd Abisua, 51  ei fab ef oedd Bucci, ei fab ef oedd Ussi, ei fab ef oedd Seraheia, 52  ei fab ef oedd Meraioth, ei fab ef oedd Amareia, ei fab ef oedd Ahitub, 53  ei fab ef oedd Sadoc, a’i fab ef oedd Ahimaas. 54  Dyma lle roedden nhw’n byw yn ôl eu gwersylloedd yn eu tiriogaeth: i ddisgynyddion Aaron a oedd yn perthyn i deulu’r Cohathiaid, oherwydd disgynnodd y coelbren cyntaf iddyn nhw, 55  rhoddon nhw Hebron yng ngwlad Jwda, gyda’r tir pori o’i chwmpas. 56  Ond rhoddon nhw gaeau’r ddinas a’i phentrefi i Caleb fab Jeffunne. 57  Ac i ddisgynyddion Aaron rhoddon nhw y dinasoedd lloches,* Hebron, a hefyd Libna a’i thir pori, Jattir, Estemoa a’i thir pori, 58  Hilen a’i thir pori, Debir a’i thir pori, 59  Asan a’i thir pori, a Beth-semes a’i thir pori; 60  ac o lwyth Benjamin, Geba a’i thir pori, Alemeth a’i thir pori, ac Anathoth a’i thir pori. Roedd ’na 13 dinas i gyd ar gyfer eu teuluoedd. 61  Drwy daflu coelbren, derbyniodd gweddill y Cohathiaid ddeg dinas gan deulu’r llwyth, gan yr hanner llwyth, hanner llwyth Manasse. 62  Derbyniodd y Gersoniaid yn ôl eu teuluoedd 13 dinas gan lwyth Issachar, llwyth Aser, llwyth Nafftali, a llwyth Manasse yn Basan. 63  Drwy daflu coelbren, derbyniodd y Merariaid yn ôl eu teuluoedd 12 dinas gan lwyth Reuben, llwyth Gad, a llwyth Sabulon. 64  Felly rhoddodd yr Israeliaid y dinasoedd hyn a’u tiroedd pori i’r Lefiaid. 65  Ar ben hynny, drwy daflu coelbren, gwnaethon nhw ddosbarthu’r dinasoedd hyn sydd wedi eu henwi o lwyth Jwda, llwyth Simeon, a llwyth Benjamin. 66  Derbyniodd rhai o deuluoedd Cohath ddinasoedd gan lwyth Effraim fel eu tiriogaeth. 67  Gwnaethon nhw roi iddyn nhw’r dinasoedd lloches,* Sechem a’i thir pori yn ardal fynyddig Effraim, Geser a’i thir pori, 68  Jocmeam a’i thir pori, Beth-horon a’i thir pori, 69  Ajalon a’i thir pori, a Gath-rimmon a’i thir pori; 70  a derbyniodd gweddill teuluoedd y Cohathiaid Aner a’i thir pori a Bileam a’i thir pori gan hanner llwyth Manasse. 71  Gan deulu hanner llwyth Manasse, gwnaeth disgynyddion Gersom dderbyn Golan yn Basan a’i thir pori ac Astaroth a’i thir pori; 72  a gan lwyth Issachar, Cedes a’i thir pori, Daberath a’i thir pori, 73  Ramoth a’i thir pori, ac Anem a’i thir pori; 74  a gan lwyth Aser, Masal a’i thir pori, Abdon a’i thir pori, 75  Hucoc a’i thir pori, a Rehob a’i thir pori; 76  a gan lwyth Nafftali, Cedes yng Ngalilea a’i thir pori, Hammon a’i thir pori, a Ciriathaim a’i thir pori. 77  Gan lwyth Sabulon, gwnaeth gweddill y Merariaid dderbyn Rimmono a’i thir pori, Tabor a’i thir pori; 78  ac yn ardal yr Iorddonen wrth Jericho, i’r dwyrain o’r Iorddonen, gan lwyth Reuben, gwnaethon nhw dderbyn Beser yn yr anialwch a’i thir pori, Jahas a’i thir pori, 79  Cedemoth a’i thir pori, a Meffaath a’i thir pori; 80  a gan lwyth Gad, Ramoth yn Gilead a’i thir pori, Mahanaim a’i thir pori, 81  Hesbon a’i thir pori, a Jaser a’i thir pori.

Troednodiadau

Hefyd yn cael ei alw’n Gerson yn ad. 1.
Neu “gwneud cymod dros Israel.”
Neu efallai, “y ddinas loches,” yn unol â Jos 21:13.
Neu efallai, “y ddinas loches,” yn unol â Jos 21:21.