Cyntaf Cronicl 7:1-40

7  Nawr meibion Issachar oedd Tola, Pua, Jasub, a Simron—pedwar.  A meibion Tola oedd Ussi, Reffaia, Jeriel, Jahmai, Ibsam, a Semuel, pennau eu grwpiau o deuluoedd. Roedd disgynyddion Tola yn filwyr cryf, ac yn nyddiau Dafydd roedd ’na 22,600 ohonyn nhw.  A disgynyddion Ussi oedd Israhia a meibion Israhia: Michael, Obadeia, Joel, ac Iseia—roedd y pump ohonyn nhw yn benaethiaid.  Roedd ganddyn nhw a’u disgynyddion lawer o wragedd a meibion, felly roedd gan eu grwpiau o deuluoedd 36,000 o filwyr yn eu byddin yn barod i ryfela.  Ac roedd eu brodyr o holl deuluoedd Issachar yn filwyr dewr, 87,000 yn ôl cofrestrau eu hachau teuluol.  Meibion Benjamin oedd Bela, Becher, a Jediael—tri.  A meibion Bela oedd Esbon, Ussi, Ussiel, Jerimoth, ac Iri—pump. Roedden nhw’n bennau ar eu grwpiau o deuluoedd, yn filwyr dewr, ac roedd ’na 22,034 wedi eu cofrestru ar eu hachau teuluol.  A meibion Becher oedd Semira, Joas, Elieser, Elioenai, Omri, Jeremoth, Abeia, Anathoth, ac Alemeth—roedd y rhain i gyd yn feibion i Becher.  Roedd cofrestrau achau teuluol eu disgynyddion yn ôl pennau eu grwpiau o deuluoedd yn rhestru 20,200 o filwyr dewr. 10  A meibion Jediael oedd Bilhan a meibion Bilhan: Jeus, Benjamin, Ehud, Cenaana, Sethan, Tarsis, ac Ahisahar. 11  Roedd y rhain i gyd yn feibion i Jediael, yn ôl pennau teuluoedd eu cyndadau, 17,200 o filwyr dewr yn barod i ryfela fel rhan o’r fyddin. 12  Roedd y Suppim a’r Huppim yn feibion i Ir; roedd yr Husim yn feibion i Aher. 13  Meibion Nafftali oedd Jahsiel, Guni, Jeser, a Salum—disgynyddion Bilha. 14  Meibion Manasse oedd: Asriel, drwy ei wraig arall* o Syria. (Hi wnaeth eni Machir, tad Gilead. 15  Dewisodd Machir wraig i Huppim ac i Suppim, ac enw ei chwaer oedd Maacha.) Enw’r ail oedd Seloffehad, ond cafodd Seloffehad ferched. 16  Gwnaeth Maacha, gwraig Machir, eni mab a’i alw’n Peres; ac enw ei frawd oedd Seres; a’i feibion oedd Ulam a Recem. 17  A mab Ulam oedd Bedan. Y rhain oedd meibion Gilead, mab Machir, mab Manasse. 18  A’i chwaer oedd Hammolecheth. Gwnaeth hi eni Isod, Abi-eser, a Mala. 19  A meibion Semida oedd Ahian, Sechem, Lichi, ac Aniam. 20  Meibion Effraim oedd Suthela, ei fab ef oedd Bered, ei fab ef oedd Tahath, ei fab ef oedd Elada, ei fab ef oedd Tahath, 21  ei fab ef oedd Sabad, ei fab ef oedd Suthela. Roedd Eser ac Elead hefyd yn feibion i Effraim. Gwnaeth dynion Gath, a oedd wedi cael eu geni yn y wlad, eu lladd nhw am eu bod nhw wedi mynd i lawr i gymryd eu hanifeiliaid. 22  Galarodd Effraim eu tad am lawer o ddyddiau, a pharhaodd ei frodyr i fynd i mewn ato i’w gysuro. 23  Wedyn, cysgodd gyda’i wraig a daeth hi’n feichiog a geni mab. Ond dyma’n ei alw’n Bereia* am ei bod hi wedi ei eni mewn amser trychinebus i’w deulu. 24  A’i ferch oedd Seera a adeiladodd Beth-horon Isaf ac Uchaf, yn ogystal ag Ussen-seera. 25  Roedd Reffa a Reseff yn ddisgynyddion i Effraim. Mab Reseff oedd Tela, Tahan oedd ei fab ef, 26  Ladan oedd ei fab ef, Ammihud oedd ei fab ef, Elisama oedd ei fab ef, 27  Nun oedd ei fab ef, a Josua* oedd ei fab ef. 28  Eu tiroedd a’u pentrefi oedd Bethel a’i threfi cyfagos, Naaran i’r dwyrain, Geser a’i threfi cyfagos i’r gorllewin, a Sechem a’i threfi cyfagos, mor bell ag Aia* a’i threfi cyfagos; 29  a nesaf at ddisgynyddion Manasse, Beth-sean a’i threfi cyfagos, Taanach a’i threfi cyfagos, Megido a’i threfi cyfagos, a Dor a’i threfi cyfagos. Dyma lle roedd disgynyddion Joseff fab Israel yn byw. 30  Meibion Aser oedd Imna, Isfa, Isfi, a Bereia, a Sera oedd eu chwaer. 31  Meibion Bereia oedd Heber a Malchiel, tad Birsaith. 32  Daeth Heber yn dad i Jafflet, Somer, a Hotham, ac i Sua eu chwaer. 33  Meibion Jafflet oedd Pasach, Bimhal, ac Asuath. Y rhain oedd meibion Jafflet. 34  Meibion Semer* oedd Ahi, Roga, Jehubba, ac Aram. 35  Meibion Helem* ei frawd oedd Soffa, Imna, Seles, ac Amal. 36  Meibion Soffa oedd Sua, Harneffer, Sual, Beri, Imra, 37  Beser, Hod, Samma, Silsa, Ithran, a Beera. 38  Meibion Jether oedd Jeffunne, Pispa, ac Ara. 39  Meibion Ula oedd Ara, Haniel, a Resia. 40  Roedd y rhain i gyd yn feibion i Aser, yn bennau ar eu grwpiau o deuluoedd, yn filwyr dewr a medrus, ac yn benaethiaid ar benaethiaid y fyddin; ac yn ôl cofrestrau eu hachau teuluol roedd ’na 26,000 o ddynion yn barod i ryfela.

Troednodiadau

Neu “ei wraig ordderch,” hynny yw, gwraig eilradd a oedd yn aml yn gaethferch.
Sy’n golygu “Â Thrychineb.”
Neu “Jehosua,” sy’n golygu “Jehofa Yw Achubiaeth.”
Neu efallai, “Gasa,” ond nid y Gasa yn Philistia.
Hefyd yn cael ei alw’n Somer yn ad. 32.
Yr un fath â “Hotham” yn ad. 32 mae’n debyg.