Cyntaf Cronicl 8:1-40

  • Disgynyddion Benjamin (1-40)

    • Llinach teulu Saul (33-40)

8  Daeth Benjamin yn dad i Bela ei gyntaf-anedig, Asbel ei ail, Ahara ei drydydd,  Noha ei bedwerydd, a Raffa ei bumed.  Meibion Bela oedd Adar, Gera, Abihud,  Abisua, Naaman, Ahoa,  Gera, Seffuffan, a Huram.  Dyma oedd meibion Ehud, pennau teuluoedd estynedig pobl Geba, a gafodd eu caethgludo i Manahath:  Naaman, Aheia, a Gera—ef oedd yr un a wnaeth eu caethgludo nhw, a daeth yn dad i Ussa ac Ahihud.  Daeth Saharaim yn dad i blant yn nhiriogaeth y Moabiaid ar ôl iddo eu hanfon nhw i ffwrdd. Husim a Baara oedd ei wragedd.*  A thrwy ei wraig Hodes, daeth yn dad i Jobab, Sibia, Mesa, Malcham, 10  Jeus, Sachia, a Mirma. Y rhain oedd ei feibion, pennau’r grwpiau o deuluoedd. 11  Drwy Husim daeth yn dad i Abitub ac Elpaal. 12  A meibion Elpaal oedd Eber, Misam, Semed (a adeiladodd Ono a Lod a’i threfi cyfagos), 13  Bereia, a Sema. Roedd y rhain yn bennau ar deuluoedd estynedig pobl Ajalon. Gyrron nhw bobl Gath i ffwrdd. 14  Ac roedd Ahïo, Sasac, Jeremoth, 15  Sebadeia, Arad, Eder, 16  Michael, Ispa, a Joha yn feibion i Bereia; 17  ac roedd Sebadeia, Mesulam, Hisci, Heber, 18  Ismerai, Islia, a Jobab yn feibion i Elpaal; 19  ac roedd Jacim, Sicri, Sabdi, 20  Elienai, Silthai, Eliel, 21  Adaia, Beraia, a Simrath yn feibion i Simei; 22  ac roedd Ispan, Eber, Eliel, 23  Abdon, Sicri, Hanan, 24  Hananeia, Elam, Antotheia, 25  Iffedeia, a Penuel yn feibion i Sasac; 26  ac roedd Samserai, Sehareia, Athaleia, 27  Jareseia, Elias, a Sicri yn feibion i Jeroham. 28  Y rhain oedd pennau’r grwpiau o deuluoedd yn ôl eu disgynyddion. Roedd y penaethiaid hyn yn byw yn Jerwsalem. 29  Roedd Jeiel, tad Gibeon, yn byw yn Gibeon, ac enw ei wraig oedd Maacha. 30  Ei fab cyntaf-anedig oedd Abdon, yna daeth Sur, Cis, Baal, Nadab, 31  Gedor, Ahïo, a Secher. 32  Daeth Micloth yn dad i Simea. Ac roedden nhw i gyd yn byw wrth ymyl eu brodyr yn Jerwsalem, gyda’u brodyr eraill. 33  Daeth Ner yn dad i Cis; daeth Cis yn dad i Saul; daeth Saul yn dad i Jonathan, Malci-sua, Abinadab, ac Esbaal.* 34  A mab Jonathan oedd Merib-baal.* Daeth Merib-baal yn dad i Micha. 35  A meibion Micha oedd Pithon, Melech, Tarea, ac Ahas. 36  Daeth Ahas yn dad i Jehoada; daeth Jehoada yn dad i Alemeth, Asmafeth, a Simri. Daeth Simri yn dad i Mosa. 37  Daeth Mosa yn dad i Binea, Raffa oedd ei fab ef, Eleasa oedd ei fab ef, ac Asel oedd ei fab ef. 38  Roedd gan Asel chwe mab, a’u henwau nhw oedd Asricam, Bocheru, Ismael, Seareia, Obadeia, a Hanan. Roedd y rhain i gyd yn feibion i Asel. 39  A meibion ei frawd, Esec, oedd Ulam ei gyntaf-anedig, Jeus ei ail, ac Eliffelet ei drydydd. 40  Ac roedd meibion Ulam yn filwyr dewr ac yn fwasaethwyr medrus, ac roedd ganddyn nhw lawer o feibion ac wyrion, 150 i gyd. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Benjamin.

Troednodiadau

Neu efallai, “ar ôl iddo anfon ei wragedd, Husim a Baara, i ffwrdd.”
Hefyd yn cael ei alw’n Is-boseth.
Hefyd yn cael ei alw’n Meffiboseth.