Cyntaf Cronicl 9:1-44

  • Achau ar ôl dychwelyd o’r alltudiaeth (1-34)

  • Ailadrodd llinach teulu Saul (35-44)

9  Roedd yr Israeliaid i gyd wedi eu cofrestru yn ôl eu hachau teuluol, ac maen nhw wedi eu hysgrifennu yn Llyfr Brenhinoedd Israel. A chafodd pobl Jwda eu caethgludo i Fabilon oherwydd eu hanffyddlondeb.  Y rhai cyntaf i fynd yn ôl i fyw yn eu tiroedd a’u dinasoedd eu hunain oedd yr offeiriaid, y Lefiaid, gweision y deml,* a rhai Israeliaid eraill.  A setlodd rhai o ddisgynyddion Jwda, Benjamin, Effraim, a Manasse yn Jerwsalem:  Uthai, mab Ammihud, mab Omri, mab Imri, mab Bani, o blith disgynyddion Peres fab Jwda.  Ac o blith y Siloniaid, Asaia y cyntaf-anedig a’i feibion ef.  Ac o blith meibion Sera, Jeuel a 690 o’u brodyr.  Ac o blith disgynyddion Benjamin, Salu fab Mesulam, mab Hodafia, mab Hasenua,  Ibneia fab Jeroham, Ela fab Ussi, mab Michri, a Mesulam fab Seffatia, mab Reuel, mab Ibnija.  Ac yn ôl eu cofrestrau teuluol, roedd ganddyn nhw 956 o frodyr. Roedd y dynion hyn i gyd yn bennau ar eu grwpiau o deuluoedd. 10  Ac o blith yr offeiriaid: Jedaia, Jehoiarib, Jachin, 11  Asareia, mab Hilceia, mab Mesulam, mab Sadoc, mab Meraioth, mab Ahitub, un o arweinwyr tŷ* y gwir Dduw, 12  Adaia, mab Jeroham, mab Passur, mab Malcheia, Maasai, mab Adiel, mab Jahsera, mab Mesulam, mab Mesilemith, mab Immer, 13  a’u brodyr, pennau’r grwpiau o deuluoedd, 1,760 o ddynion dewr a medrus, a oedd ar gael ar gyfer gwasanaeth tŷ’r gwir Dduw. 14  Ac o blith y Lefiaid: Semaia, mab Hasub, mab Asricam, mab Hasabeia, o ddisgynyddion Merari; 15  a Bacbaccar, Heres, Galal, Mataneia, mab Mica, mab Sicri, mab Asaff, 16  Obadeia, mab Semaia, mab Galal, mab Jeduthun, a Berecheia, mab Asa, mab Elcana, a oedd yn byw yn yr un lle â’r Netoffathiaid. 17  Y porthorion oedd Salum, Accub, Talmon, Ahiman, a’u brawd Salum oedd y pennaeth, 18  a than hynny, roedd ef wedi bod wrth borth y brenin tua’r dwyrain. Y rhain oedd porthorion gwersylloedd y Lefiaid. 19  A Salum, mab Core, mab Ebiasaff, mab Cora, a’i frodyr o deulu ei dad, y Corahiaid, a oedd yn gyfrifol am waith y rhai oedd yn gwarchod mynedfa’r babell, ac roedd eu tadau wedi bod yn gyfrifol am warchod y fynedfa i wersyll Jehofa. 20  Phineas fab Eleasar oedd wedi bod yn arweinydd drostyn nhw yn y gorffennol; roedd Jehofa gydag ef. 21  Sechareia fab Meselemeia a oedd yn gwarchod mynedfa pabell y cyfarfod. 22  Yn gyfan gwbl, cafodd 212 o ddynion eu dewis i warchod y mynedfeydd. Roedden nhw wedi setlo yn eu pentrefi yn ôl cofrestrau eu hachau teuluol. Dafydd a Samuel y gweledydd oedd wedi apwyntio’r rhain i’w swyddi cyfrifol. 23  Roedden nhw a’u meibion yn gyfrifol am y gwaith o warchod giatiau tŷ Jehofa, tŷ’r babell. 24  Roedd y porthorion ar y pedair ochr—y dwyrain, y gorllewin, y gogledd, a’r de. 25  O bryd i’w gilydd, roedd rhaid i’w brodyr ddod i mewn o’u pentrefi i wasanaethu gyda nhw am saith diwrnod. 26  Am eu bod nhw’n ddibynadwy, cafodd pedwar prif borthor a oedd yn Lefiaid eu gwneud yn gyfrifol am yr ystafelloedd* ac am drysordai tŷ’r gwir Dduw. 27  Bydden nhw’n aros ar ddyletswydd drwy’r nos o gwmpas tŷ’r gwir Dduw, oherwydd roedden nhw’n gyfrifol am y gwaith o warchod ac am yr allwedd, a bydden nhw’n agor y tŷ bob bore. 28  Roedd rhai ohonyn nhw yn gyfrifol am y llestri ar gyfer addoliad; bydden nhw’n eu cyfri nhw wrth ddod â nhw i mewn, ac yn eu cyfri nhw wrth eu cymryd nhw allan. 29  Roedd rhai ohonyn nhw wedi eu penodi dros y llestri, dros yr holl lestri sanctaidd, a thros y blawd gorau, y gwin, yr olew, y thus, a’r olew balm. 30  Roedd rhai o feibion yr offeiriaid yn cymysgu’r olew persawrus. 31  Am ei fod yn ddibynadwy roedd un o’r Lefiaid, Matitheia, cyntaf-anedig Salum y Corahiad, yn gyfrifol am y pethau oedd yn cael eu pobi. 32  Roedd rhai o’u brodyr o blith y Cohathiaid yn gyfrifol am y bara sydd wedi ei gyflwyno i Dduw,* ac am ei baratoi bob saboth. 33  Y rhain oedd y cantorion, penaethiaid teuluoedd y Lefiaid, ac roedden nhw yn yr ystafelloedd. Roedden nhw’n rhydd o ddyletswyddau eraill oherwydd roedden nhw’n gorfod bod ar ddyletswydd ddydd a nos. 34  Dyma oedd penaethiaid teuluoedd y Lefiaid yn ôl eu cofrestrau teuluol. Roedden nhw’n byw yn Jerwsalem. 35  Roedd Jeiel, tad Gibeon, yn byw yn Gibeon, ac enw ei wraig oedd Maacha. 36  Ei fab cyntaf-anedig oedd Abdon, wedyn Sur, Cis, Baal, Ner, Nadab, 37  Gedor, Ahïo, Sechareia, a Micloth. 38  Daeth Micloth yn dad i Simeam. Ac roedden nhw i gyd yn byw wrth ymyl eu brodyr yn Jerwsalem, gyda’u brodyr eraill. 39  Daeth Ner yn dad i Cis; daeth Cis yn dad i Saul; daeth Saul yn dad i Jonathan, Malci-sua, Abinadab, ac Esbaal. 40  A mab Jonathan oedd Merib-baal. Daeth Merib-baal yn dad i Micha. 41  A meibion Micha oedd Pithon, Melech, Tarea, ac Ahas. 42  Daeth Ahas yn dad i Jara; daeth Jara yn dad i Alemeth, Asmafeth, a Simri. Daeth Simri yn dad i Mosa. 43  Daeth Mosa yn dad i Binea, Reffaia oedd ei fab ef, Eleasa oedd ei fab ef, ac Asel oedd ei fab ef. 44  Roedd gan Asel chwe mab, a’u henwau nhw oedd Asricam, Bocheru, Ismael, Seareia, Obadeia, a Hanan. Y rhain oedd meibion Asel.

Troednodiadau

Neu “y Nethinim.”
Neu “teml.”
Neu “ystafelloedd bwyta.”
Neu “y bara gosod.”