Cyntaf Ioan 3:1-24

  • Plant Duw ydyn ni (1-3)

  • Plant Duw yn erbyn plant y Diafol (4-12)

    • Iesu i ddinistrio gweithredoedd y Diafol (8)

  • Caru eich gilydd (13-18)

  • Duw yn fwy na’n calonnau (19-24)

3  Gwelwch pa fath o gariad mae’r Tad wedi ei ddangos tuag aton ni: mae ef wedi ein galw ni’n blant i Dduw! A dyna beth ydyn ni. Dyna pam dydy’r byd ddim yn ein hadnabod ni, oherwydd dydy’r byd ddim wedi dod i’w adnabod ef. 2  Ffrindiau annwyl, rydyn ni nawr yn blant i Dduw, ond dydy hi ddim wedi cael ei gwneud yn amlwg eto beth a fyddwn ni. Rydyn ni’n gwybod, pan fydd ef yn ymddangos, y byddwn ni’n debyg iddo, oherwydd byddwn ni’n ei weld ef yn union fel y mae. 3  Ac mae pob un sydd â’r gobaith hwn ynddo ef yn ei buro ei hun, yn union fel mae’r un hwnnw yn bur. 4  Mae pawb sy’n parhau i bechu hefyd yn parhau i dorri cyfraith Duw, a phechod ydy torri cyfraith Duw. 5  Rydych chi hefyd yn gwybod ei fod wedi dod i gymryd ein pechodau i ffwrdd, a does ’na ddim pechod ynddo. 6  Dydy pawb sy’n aros mewn undod ag ef ddim yn parhau i bechu; does neb sy’n parhau i bechu wedi ei weld nac wedi dod i’w adnabod. 7  Blant bach, peidiwch â gadael i neb eich camarwain chi; mae’r un sy’n parhau i fod yn gyfiawn yn gyfiawn, yn union fel mae’r un hwnnw yn gyfiawn. 8  Mae’r un sy’n parhau i bechu yn dod o’r Diafol, oherwydd bod y Diafol wedi bod yn pechu o’r dechreuad.* Am y rheswm hwn y daeth Mab Duw: i dorri gweithredoedd y Diafol yn ddarnau.* 9  Dydy pob un sydd wedi cael ei eni o Dduw ddim yn parhau i bechu, oherwydd bod Ei had* yn aros yn rhywun o’r fath, ac nid yw’n gallu parhau i bechu, oherwydd ei fod wedi cael ei eni o Dduw. 10  Mae’r ffaith hon yn dangos pwy yw plant Duw a phwy yw plant y Diafol: Dydy pwy bynnag sydd ddim yn parhau i fod yn gyfiawn ddim yn dod o Dduw, na’r sawl sydd ddim yn caru ei frawd. 11  Oherwydd dyma’r neges a glywsoch chi o’r dechrau: dylen ni garu ein gilydd; 12  nid fel Cain, a oedd yn dod o’r un drwg ac a laddodd ei frawd yn ddi-drugaredd. A pham gwnaeth ef ei ladd? Oherwydd bod ei weithredoedd ei hun yn ddrwg, ond roedd gweithredoedd ei frawd yn gyfiawn. 13  Peidiwch â synnu, frodyr, fod y byd yn eich casáu chi. 14  Rydyn ni’n gwybod ein bod ni wedi newid o fod yn farw i fod yn fyw, oherwydd ein bod ni’n caru ein brodyr. Mae’r un sydd ddim yn caru yn aros mewn marwolaeth. 15  Mae pob un sy’n casáu ei frawd yn llofrudd, ac rydych chi’n gwybod na fydd unrhyw un sy’n llofruddio yn derbyn bywyd tragwyddol. 16  Drwy hyn rydyn ni wedi dod i wybod beth yw cariad, oherwydd fe wnaeth yr un hwnnw aberthu ei fywyd droston ni, ac rydyn ni o dan orfodaeth i aberthu ein bywydau dros ein brodyr. 17  Ond pwy bynnag sydd â phethau materol y byd ac yn gweld ei frawd mewn angen ond eto’n gwrthod dangos tosturi tuag ato, ym mha ffordd mae cariad Duw yn aros ynddo? 18  Blant bach, dylen ni garu, nid drwy ddefnyddio geiriau na’r tafod, ond mewn gweithred a gwirionedd. 19  Drwy hyn byddwn ni’n gwybod bod y gwir gynnon ni, a byddwn ni’n sicrhau* ein calonnau o’i flaen ef 20  ynglŷn â beth bynnag y bydd ein calonnau’n ein condemnio ni ynddo, oherwydd bod Duw yn fwy na’n calonnau ac mae’n gwybod pob peth. 21  Ffrindiau annwyl, os nad ydy ein calonnau’n ein condemnio ni, rydyn ni’n gallu siarad â Duw heb ofn; 22  a byddwn ni’n derbyn ganddo beth bynnag rydyn ni’n gofyn amdano, oherwydd ein bod ni’n cadw ei orchmynion ac yn gwneud beth sy’n ei blesio. 23  Yn wir, dyma ei orchymyn: ein bod ni i gael ffydd yn enw ei Fab Iesu Grist a charu ein gilydd, yn union fel y rhoddodd ef orchymyn inni. 24  Ar ben hynny, mae’r un sy’n cadw ei orchmynion yn aros mewn undod ag ef, ac yntau mewn undod â rhywun o’r fath. A thrwy’r ysbryd a roddodd ef inni, rydyn ni’n gwybod ei fod yn aros mewn undod â ni.

Troednodiadau

Neu “o’i ddechreuad ef.”
Neu “i ddinistrio gweithredoedd y Diafol.”
Hynny yw, had sy’n gallu atgenhedlu, neu ddwyn ffrwyth.
Neu “perswadio; argyhoeddi.”