Cyntaf Ioan 4:1-21

  • Profi datganiadau ysbrydoledig (1-6)

  • Adnabod a charu Duw (7-21)

    • “Cariad ydy Duw” (8,16)

    • Dim ofn mewn cariad (18)

4  Ffrindiau annwyl, peidiwch â chredu pob datganiad ysbrydoledig,* ond profwch y datganiadau ysbrydoledig* i weld a ydyn nhw’n dod o Dduw, oherwydd mae llawer o gau broffwydi wedi mynd allan i’r byd. 2  Dyma sut rydych chi’n gwybod bod y datganiad ysbrydoledig yn dod o Dduw: Mae pob datganiad ysbrydoledig sy’n cydnabod bod Iesu Grist wedi dod yn y cnawd yn dod o Dduw. 3  Ond pob datganiad ysbrydoledig sydd ddim yn cydnabod Iesu, dydy’r datganiad hwnnw ddim yn dod o Dduw. Ar ben hynny, fe glywsoch chi y byddai datganiad ysbrydoledig yr anghrist yn dod, ac mae’r datganiad hwnnw eisoes yn y byd. 4  Blant bach, rydych chi’n dod o Dduw, ac rydych chi wedi eu gorchfygu nhw, oherwydd bod yr un sydd mewn undod â chi yn fwy na’r un sydd mewn undod â’r byd. 5  Maen nhw’n dod o’r byd; dyna pam maen nhw’n siarad yr hyn sy’n dod o’r byd ac mae’r byd yn gwrando arnyn nhw. 6  Rydyn ni’n dod o Dduw. Mae pwy bynnag sy’n dod i adnabod Duw yn gwrando arnon ni; pwy bynnag sydd ddim yn dod o Dduw, nid yw’n gwrando arnon ni. Dyma sut rydyn ni’n gwahaniaethu rhwng y datganiad ysbrydoledig sy’n wir a’r datganiad ysbrydoledig sy’n gelwyddog. 7  Ffrindiau annwyl, gadewch inni barhau i garu ein gilydd, oherwydd bod cariad yn dod o Dduw, ac mae pawb sy’n caru wedi cael eu geni o Dduw ac yn adnabod Duw. 8  Pwy bynnag sydd ddim yn caru, dydy hwnnw ddim wedi dod i adnabod Duw, oherwydd cariad ydy Duw. 9  Dyma sut cafodd cariad Duw ei ddangos tuag aton ni, bod Duw wedi anfon ei unig-anedig Fab i mewn i’r byd er mwyn inni allu cael bywyd drwyddo ef. 10  Dyma beth mae’r cariad hwn yn ei olygu: nid ein bod ni wedi caru Duw, ond ei fod ef wedi ein caru ni ac wedi anfon ei Fab yn aberth sy’n gwneud yn iawn am* ein pechodau. 11  Ffrindiau annwyl, os mai dyma sut mae Duw wedi ein caru ni, yna rydyn ninnau hefyd o dan orfodaeth i garu ein gilydd. 12  Does neb erioed wedi gweld Duw. Os ydyn ni’n parhau i garu ein gilydd, mae Duw yn aros ynon ni ac mae ei gariad yn cael ei wneud yn berffaith ynon ni. 13  Dyma sut rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n aros mewn undod ag ef ac yntau mewn undod â ni, oherwydd ei fod wedi rhoi ei ysbryd inni. 14  Yn ogystal, rydyn ni’n hunain wedi gweld ac rydyn ni’n tystiolaethu bod y Tad wedi anfon ei Fab yn achubwr i’r byd. 15  Pwy bynnag sy’n cydnabod mai Iesu ydy Mab Duw, mae Duw’n aros mewn undod ag unigolyn o’r fath ac yntau mewn undod â Duw. 16  Ac rydyn ni wedi dod i adnabod a chredu’r cariad sydd gan Dduw tuag aton ni. Cariad ydy Duw, ac mae’r un sy’n aros mewn cariad yn aros mewn undod â Duw, a Duw yn aros mewn undod ag ef. 17  Fel hyn mae cariad wedi cael ei wneud yn berffaith ynon ni, er mwyn inni allu siarad gyda hyder* yn nydd y farn, oherwydd yn union fel y mae’r un hwnnw, felly rydyn ninnau hefyd yn y byd hwn. 18  Does dim ofn mewn cariad, ond mae cariad perffaith yn bwrw* ofn allan, oherwydd bod ofn yn ein rhwystro ni. Yn wir, dydy’r sawl sy’n ofnus ddim wedi cael ei wneud yn berffaith mewn cariad. 19  Rydyn ni’n caru, oherwydd ei fod ef wedi ein caru ni’n gyntaf. 20  Os oes rhywun yn dweud, “Rydw i’n caru Duw,” ond eto’n casáu ei frawd, mae’n dweud celwydd. Oherwydd ni all neb sydd ddim yn caru ei frawd, sy’n weledig iddo, garu Duw, sy’n anweledig iddo. 21  Ac mae gynnon ni’r gorchymyn hwn oddi wrtho ef, bod rhaid i bwy bynnag sy’n caru Duw garu ei frawd hefyd.

Troednodiadau

Llyth., “pob ysbryd.”
Llyth., “yr ysbrydion.”
Neu “aberth cymod dros.”
Neu “er mwyn inni allu cael hyder.”
Neu “gyrru.”