Cyntaf Pedr 1:1-25
1 Pedr, apostol i Iesu Grist, at y rhai sy’n byw dros dro ac ar wasgar yn Pontus, Galatia, Capadocia, Asia, a Bithynia, at y rhai sydd wedi cael eu dewis
2 yn ôl rhagwybodaeth Duw y Tad, a roddodd yr ysbryd er mwyn eu gwneud nhw’n sanctaidd, ar gyfer bod yn ufudd ac ar gyfer cael eu taenu â gwaed Iesu Grist:
Rydw i’n gweddïo y bydd caredigrwydd rhyfeddol a heddwch yn cynyddu yn eich achos chi.
3 Clod i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, oherwydd yn ôl ei drugaredd mawr fe achosodd inni gael ein geni unwaith eto i obaith byw drwy atgyfodiad Iesu Grist o’r meirw,
4 i etifeddiaeth sydd ddim yn gallu cael ei llygru na’i halogi ac sy’n para am byth. Mae’r etifeddiaeth hon wedi cael ei neilltuo yn y nefoedd ar eich cyfer chi,
5 y chi sy’n cael eich diogelu gan rym Duw drwy ffydd ar gyfer achubiaeth sy’n barod i gael ei datgelu yn yr amser diwethaf.
6 Oherwydd yr holl bethau hyn rydych chi’n llawenhau’n fawr, er ei bod hi, am gyfnod byr ar hyn o bryd, yn angenrheidiol ichi brofi tristwch drwy amryw dreialon,
7 er mwyn i’r prawf ar gyflwr eich ffydd wneud ichi dderbyn clod, anrhydedd, a gogoniant pan fydd gweithredoedd Iesu Grist yn cael eu datgelu. Mae’r math hwn o ffydd yn fwy gwerthfawr nag aur sy’n cael ei ddinistrio er ei fod wedi cael ei brofi* drwy dân.
8 Er nad ydych chi erioed wedi ei weld ef, rydych chi’n ei garu. Er nad ydych chi’n ei weld nawr, rydych chi’n ymarfer ffydd ynddo ac yn llawenhau’n fawr iawn gyda llawenydd sy’n amhosib i’w ddisgrifio ac sy’n ogoneddus,
9 wrth ichi gyrraedd nod eich ffydd, sef eich achubiaeth.
10 Ynglŷn â’r achubiaeth hon, fe wnaeth y proffwydi, a broffwydodd am y caredigrwydd rhyfeddol a oedd i fod ar eich cyfer chi, wneud ymholiadau manwl a chwilio’n ofalus.
11 Ymlaen llaw, defnyddiodd Duw ei ysbryd glân i ddweud wrthyn nhw y bydd Crist yn dioddef ac yna yn cael ei ddyrchafu. Dyna pam roedden nhw’n dal i geisio darganfod beth fydd yn digwydd i’r Crist a pha bryd y bydd yn digwydd.
12 Fe gafodd ei ddatgelu iddyn nhw eu bod nhw’n gweini, nid arnyn nhw eu hunain, ond arnoch chi, ynglŷn â’r hyn sydd nawr wedi cael ei gyhoeddi ichi gan y rhai a gyhoeddodd y newyddion da ichi drwy’r ysbryd glân a gafodd ei anfon o’r nef. Mae’r angylion yn dymuno edrych yn fanwl ar yr union bethau hyn.
13 Felly paratowch a chryfhewch eich meddwl ar gyfer gweithio’n galed; ym mhob peth mae’n bwysig ichi gadw’ch pennau; gosodwch eich gobaith ar y caredigrwydd rhyfeddol a fydd yn dod ichi pan fydd Iesu Grist yn cael ei ddatguddio.
14 Fel plant ufudd, stopiwch gael eich mowldio gan y chwantau oedd gynnoch chi gynt yn eich anwybodaeth,
15 ond fel yr Un Sanctaidd a wnaeth eich galw chi, byddwch chithau yn sanctaidd yn eich holl ymddygiad,
16 oherwydd mae’n ysgrifenedig: “Mae’n rhaid ichi fod yn sanctaidd, oherwydd fy mod i’n sanctaidd.”
17 Ac os ydych chi’n galw ar y Tad, yr un sy’n barnu heb ddangos ffafriaeth yn ôl gwaith pob un, dylech chi ymddwyn mewn ofn yn ystod yr amser rydych chi’n byw dros dro yn y byd hwn.
18 Oherwydd rydych chi’n gwybod nad â phethau llygradwy, arian neu aur, y cawsoch chi’ch rhyddhau* o’ch ffordd ofer o fyw a dderbynioch chi gan eich cyndadau.*
19 Yn hytrach, fe gawsoch chi’ch rhyddhau drwy waed gwerthfawr Crist, fel gwaed oen sy’n ddi-fai ac yn ddi-nam.
20 Yn wir, roedd Duw wedi dewis Crist cyn seilio’r byd, ond fe gafodd ei amlygu ar ddiwedd yr amseroedd er eich mwyn chi.
21 Trwyddo ef rydych chi’n credu yn Nuw, yr un a atgyfododd ef o’r meirw ac a roddodd iddo ogoniant, er mwyn i’ch ffydd a’ch gobaith fod yn Nuw.
22 Nawr eich bod chi wedi’ch puro eich hunain* drwy eich ufudd-dod i’r gwir sy’n arwain i gariad brawdol diragrith, carwch eich gilydd o waelod calon.
23 Oherwydd rydych chi wedi cael genedigaeth newydd, nid gan had* llygradwy, ond gan had anllygradwy, drwy air y Duw byw a thragwyddol.
24 Oherwydd “mae pob cnawd* fel glaswellt,* a’i holl ogoniant fel blodeuyn y maes; mae’r glaswellt* yn crino, a’r blodyn yn syrthio,
25 ond mae gair Jehofa* yn aros am byth.” A’r “gair” hwn ydy’r newyddion da a gyhoeddwyd ichi.
Troednodiadau
^ Neu “ei goethi.”
^ Llyth., “pridwerthu; gwaredu.”
^ Neu “drwy draddodiad.”
^ Neu “wedi puro eich eneidiau.”
^ Hynny yw, had sy’n gallu atgenhedlu, neu ddwyn ffrwyth.
^ Neu “mae bodau dynol i gyd.”
^ Neu “porfa.”
^ Neu “porfa.”