Cyntaf Pedr 3:1-22
3 Yn yr un modd, chi wragedd, dylech chi ymostwng i’ch gwŷr, fel bod unrhyw un sydd ddim yn ufudd i’r gair yn gallu cael ei berswadio heb air drwy ymddygiad ei wraig,
2 oherwydd iddo fod yn llygad-dyst i’ch ymddygiad pur ynghyd â’ch parch dwfn.
3 Peidiwch ag addurno eich hunain â phethau allanol—fel plethu gwallt a gwisgo tlysau aur neu ddillad drud—
4 ond gadewch i’ch harddwch gael ei weld yn yr hyn yr ydych chi yn eich calon. Am y rheswm hwn, addurnwch eich hunain ag ysbryd tawel ac addfwyn. Dyma beth mae Duw’n ei ystyried yn werthfawr. Ar ben hynny, mae’r addurniad hwn yn anllygradwy.
5 Oherwydd dyma sut roedd merched* sanctaidd y gorffennol a oedd yn gobeithio yn Nuw yn eu haddurno eu hunain, gan ymostwng i’w gwŷr,
6 yn union fel roedd Sara yn ufuddhau i Abraham, gan ei alw’n arglwydd. Ac rydych chi wedi dod yn blant iddi hi, cyn belled â’ch bod chi’n parhau i wneud daioni heb ildio i ofn.
7 Chi wŷr, yn yr un modd, parhewch i drin eich gwragedd yn ystyriol.* Rhowch anrhydedd iddyn nhw gan mai’r ddynes* yw’r llestr gwannaf, yr un fenywaidd, oherwydd byddan nhwthau hefyd yn etifeddu’r rhodd ryfeddol o fywyd, fel na fydd eich gweddïau’n cael eu rhwystro.
8 Yn olaf, rhaid i bob un ohonoch chi fod o’r un meddwl,* yn dangos cydymdeimlad, cariad brawdol, tosturi tyner, a gostyngeiddrwydd.
9 Peidiwch â thalu yn ôl ddrwg am ddrwg na sarhad am sarhad. Yn hytrach, talwch yn ôl â bendith, oherwydd i’r llwybr hwn y cawsoch chi’ch galw, er mwyn ichi allu etifeddu bendith.
10 Oherwydd “mae’n rhaid i bwy bynnag sydd eisiau caru bywyd a gweld dyddiau da ffrwyno ei dafod rhag drwg a’i wefusau rhag dweud pethau twyllodrus.
11 Rhaid iddo droi oddi wrth beth sy’n ddrwg a gwneud beth sy’n dda; gadewch iddo geisio heddwch a’i ddilyn.
12 Oherwydd mae llygaid Jehofa ar y rhai cyfiawn, ac mae ei glustiau yn gwrando ar eu herfyniad, ond mae wyneb Jehofa yn erbyn y rhai sy’n gwneud pethau drwg.”
13 Yn wir, pwy fydd yn eich niweidio chi os ydych chi’n selog dros yr hyn sy’n dda?
14 Ond hyd yn oed os ydych chi’n dioddef oherwydd eich bod chi’n gyfiawn, rydych chi’n hapus. Fodd bynnag, peidiwch ag ofni beth maen nhw’n ei ofni,* na chynhyrfu.
15 Ond sancteiddiwch y Crist yn Arglwydd yn eich calonnau, a byddwch yn barod bob amser i amddiffyn y gobaith sydd gynnoch chi o flaen pob un sy’n mynnu rheswm amdano, ond gwnewch hynny gydag ysbryd addfwyn a pharch dwfn.
16 Cadwch gydwybod dda, fel bydd y rhai sy’n siarad yn eich erbyn chi oherwydd eich ymddygiad Cristnogol yn cael eu cywilyddio pan fyddan nhw’n eich cyhuddo chi ar gam.
17 Oherwydd gwell yw dioddef oherwydd eich bod chi’n gwneud da, os mai dyna yw ewyllys Duw, nag oherwydd eich bod chi’n gwneud drwg.
18 Oherwydd bu farw Crist unwaith ac am byth dros bechodau, person cyfiawn dros bobl anghyfiawn, er mwyn eich arwain chi at Dduw. Fe gafodd ei roi i farwolaeth yn y cnawd ond ei wneud yn fyw yn yr ysbryd.
19 Ac yn y cyflwr hwn fe aeth a phregethu i’r ysbrydion yn y carchar,
20 a oedd wedi bod yn anufudd gynt pan oedd Duw yn disgwyl yn amyneddgar* yn nyddiau Noa, tra oedd yr arch yn cael ei hadeiladu, ac yn yr arch honno fe gafodd ychydig o bobl, hynny yw, wyth enaid,* eu cario’n ddiogel trwy’r dŵr.
21 Mae bedydd, sy’n cyfateb i hyn, yn eich achub chi nawr hefyd (nid trwy gael gwared ar fudreddi’r cnawd, ond trwy ofyn i Dduw am gydwybod dda), trwy atgyfodiad Iesu Grist.
22 Mae ef ar law dde Duw, oherwydd fe aeth i’r nef, ac fe gafodd angylion ac awdurdodau a grymoedd eu darostwng iddo.
Troednodiadau
^ Neu “menywod.”
^ Neu “â dealltwriaeth.”
^ Neu “y fenyw.”
^ Neu “feddwl yn gytûn.”
^ Neu efallai, “peidiwch ag ofni eu bygythion.”
^ Llyth., “pan oedd amynedd Duw yn disgwyl.”
^ Neu “person.”