Cyntaf Pedr 4:1-19
4 Gan fod Crist wedi dioddef yn y cnawd, mae’n rhaid i chithau hefyd eich arfogi eich hunain â’r un agwedd meddwl;* oherwydd mae person sydd wedi dioddef yn y cnawd wedi stopio pechu,
2 fel y gall y person hwnnw fyw gweddill ei amser yn y cnawd, nid i chwantau dynion mwyach, ond i ewyllys Duw.
3 Oherwydd mae’r amser sydd wedi mynd heibio yn ddigon ichi i fod wedi gwneud ewyllys y cenhedloedd pan oeddech chi’n byw bywydau yn llawn ymddygiad heb gywilydd,* chwantau heb eu ffrwyno, goryfed, partïon gwyllt, sesiynau yfed, ac eilun addoliaeth ddigyfraith.
4 Maen nhw’n pendroni oherwydd dydych chi ddim yn parhau i redeg gyda nhw ar hyd yr un llwybr o ymddygiad gwyllt, felly maen nhw’n siarad yn gas amdanoch chi.
5 Ond bydd y bobl hyn yn rhoi cyfri i’r un sy’n barod i farnu’r byw a’r meirw.
6 Yn wir, dyma pam y cafodd y newyddion da eu cyhoeddi i’r meirw hefyd, er mwyn iddyn nhw allu byw yn unol â’r ysbryd o safbwynt Duw, er eu bod nhw wedi cael eu barnu yn y cnawd o safbwynt dynion.
7 Ond mae diwedd pob peth wedi agosáu. Felly, byddwch yn eich llawn bwyll, a byddwch yn effro* i’r pwysigrwydd o weddïo.
8 Uwchlaw popeth, dangoswch gariad dwfn tuag at eich gilydd, oherwydd mae cariad yn gorchuddio nifer mawr o bechodau.
9 Byddwch yn lletygar i’ch gilydd heb gwyno.
10 Mae pob un ohonoch chi wedi derbyn rhodd, felly defnyddiwch y rhodd honno i weini ar eich gilydd fel gweision da sydd wedi derbyn caredigrwydd rhyfeddol Duw sy’n cael ei fynegi mewn gwahanol ffyrdd.
11 Os oes unrhyw un yn siarad, gadewch iddo wneud hynny drwy gyhoeddi datganiadau oddi wrth Dduw; os oes unrhyw un yn gweini, gadewch iddo wneud hynny drwy ddibynnu ar y nerth mae Duw’n ei roi; fel bod Duw yn cael ei ogoneddu ym mhob peth trwy Iesu Grist. Mae’r gogoniant a’r grym yn perthyn iddo ef am byth bythoedd. Amen.
12 Frodyr annwyl, peidiwch â synnu at y treialon tanllyd rydych chi’n eu hwynebu, fel petai rhywbeth rhyfedd yn digwydd ichi.
13 I’r gwrthwyneb, parhewch i lawenhau oherwydd eich bod chi’n dioddef am yr un rhesymau ag y gwnaeth Crist ddioddef, er mwyn ichi allu llawenhau a bod yn llawen dros ben yn ystod datguddiad ei ogoniant.
14 Os ydych chi’n cael eich sarhau er mwyn enw Crist, rydych chi’n hapus, oherwydd mae ysbryd gogoniant, ie, ysbryd Duw, yn gorffwys arnoch chi.
15 Fodd bynnag, dydw i ddim eisiau i unrhyw un ohonoch chi ddioddef oherwydd eich bod chi wedi troi’n llofrudd neu’n lleidr neu’n ddrwgweithredwr neu’n rhywun sy’n busnesa ym materion pobl eraill.
16 Ond os oes unrhyw un yn dioddef oherwydd ei fod yn Gristion, ni ddylai deimlo cywilydd, ond fe ddylai barhau i ogoneddu Duw wrth iddo fyw fel Cristion.
17 Oherwydd dyma’r amser penodedig i’r farnedigaeth gychwyn gyda thŷ Duw. Nawr, petai’n cychwyn gyda ni’n gyntaf, beth fyddai’r canlyniad i’r rhai sydd ddim yn ufudd i newyddion da Duw?
18 “Ac os ydy dyn cyfiawn yn gorfod gweithio’n galed i gael ei achub, beth fydd yn digwydd i’r dyn annuwiol ac i’r pechadur?”
19 Felly, dylai’r rhai sy’n dioddef yn unol ag ewyllys Duw barhau i’w rhoi eu hunain* yn nwylo Creawdwr ffyddlon tra’u bod nhw’n gwneud daioni.