Cyntaf Pedr 5:1-14
5 Felly, fel cyd-henuriad, a thyst o ddioddefiadau’r Crist ac fel un sy’n rhannu yn y gogoniant sy’n mynd i gael ei ddatguddio, rydw i’n apelio at yr henuriaid yn eich plith:
2 Bugeiliwch braidd Duw sydd o dan eich gofal, gan wasanaethu fel arolygwyr,* nid o dan orfodaeth, ond o’ch gwirfodd o flaen Duw; nid oherwydd cariad tuag at elw anonest, ond oherwydd eich bod chi’n awyddus i wasanaethu;
3 nid yn ei lordio hi dros y rhai sy’n etifeddiaeth Duw, ond gan fod yn esiamplau i’r praidd.
4 A phan fydd y pen bugail yn ymddangos, fe fyddwch chi’n derbyn coron gogoniant sydd byth yn gwywo.
5 Yn yr un modd, chi ddynion ifanc, mae’n rhaid ichi ymostwng i’r dynion hŷn.* Ond mae’n rhaid i bob un ohonoch chi wisgo gostyngeiddrwydd amdanoch chi yn y ffordd rydych chi’n delio gyda’ch gilydd, oherwydd mae Duw yn gwrthwynebu’r rhai ffroenuchel, ond mae’n rhoi caredigrwydd rhyfeddol i’r rhai gostyngedig.
6 Mae’n rhaid ichi eich darostwng eich hunain, felly, o dan law rymus Duw, fel y bydd ef yn gallu eich dyrchafu chi pan ddaw’r amser,
7 wrth ichi fwrw eich holl bryder arno ef, oherwydd ei fod yn gofalu amdanoch chi.
8 Cadwch eich pennau, byddwch yn wyliadwrus! Mae eich gelyn, y Diafol, yn prowla o gwmpas fel llew yn rhuo, gan chwilio am rywun i’w lyncu.
9 Ond gwrthsafwch ef, yn gadarn yn y ffydd, gan wybod bod yr holl frawdoliaeth drwy’r byd i gyd yn dioddef yr un math o bethau.
10 Ond ar ôl ichi ddioddef am ychydig, bydd Duw pob caredigrwydd rhyfeddol, a wnaeth eich galw chi i’w ogoniant tragwyddol mewn undod â Christ, yn cwblhau eich hyfforddiant. Bydd ef yn eich gwneud chi’n gadarn, bydd ef yn eich gwneud chi’n gryf, bydd ef yn eich gosod chi ar sylfaen gadarn.
11 Mae’r grym yn perthyn iddo ef am byth. Amen.
12 Trwy Silfanus,* rhywun rydw i’n ei ystyried yn frawd ffyddlon, rydw i wedi ysgrifennu atoch chi mewn ychydig eiriau er mwyn eich annog chi a’ch sicrhau chi mai dyma ydy gwir garedigrwydd rhyfeddol Duw. Safwch yn gadarn ynddo.
13 Mae’r ddynes* sydd ym Mabilon, un a gafodd ei dewis fel y cawsoch chi’ch dewis, yn anfon ei chyfarchion atoch chi, fel mae Marc, fy mab, yn gwneud hefyd.
14 Cyfarchwch eich gilydd â chusan cariad.
Heddwch i bob un ohonoch chi sydd mewn undod â Christ.
Troednodiadau
^ Neu “gan ofalu’n ddyfal amdano.”
^ Neu “i’r henuriaid.”
^ A elwir hefyd Silas.
^ Neu “y fenyw.” Yma mae’r testun Groeg yn defnyddio rhagenw benywaidd sy’n cyfeirio at ddynes ac sydd yn ôl pob tebyg yn cynrychioli’r gynulleidfa ym Mabilon.