Cyntaf Samuel 1:1-28

  • Elcana a’i wragedd (1-8)

  • Hanna yn gweddïo am fab (9-18)

  • Samuel yn cael ei eni a’i roi i Jehofa (19-28)

1  Nawr roedd ’na ddyn o Ramathaim-soffim* o ardal fynyddig Effraim a’i enw oedd Elcana, mab Jeroham, mab Elihu, mab Tohu, mab Suff, dyn o Effraim. 2  Roedd ganddo ddwy wraig; enw un ohonyn nhw oedd Hanna, ac enw’r llall oedd Peninna. Roedd gan Peninna blant ond doedd gan Hanna ddim plant. 3  Aeth Elcana i fyny o’i ddinas flwyddyn ar ôl blwyddyn i addoli Jehofa* y lluoedd ac i aberthu iddo yn Seilo. Dyna ble roedd dau fab Eli, Hoffni a Phineas, yn gwasanaethu fel offeiriaid i Jehofa. 4  Un diwrnod pan offrymodd Elcana aberth, rhoddodd rannau ohono i’w wraig Peninna a’i meibion a’i merched i gyd, 5  ond rhoddodd ran arbennig i Hanna, oherwydd Hanna oedd yr un roedd ef yn ei charu; ond doedd Jehofa ddim wedi rhoi unrhyw blant iddi. 6  Ar ben hynny, roedd Peninna* yn ei phryfocio hi yn ddi-baid er mwyn ei brifo hi oherwydd doedd Jehofa ddim wedi rhoi plant iddi. 7  Hefyd roedd hi’n trin Hanna yn yr un ffordd pan oedden nhw’n mynd i fyny i dŷ Jehofa bob blwyddyn; roedd hi’n ei phryfocio hi gymaint nes iddi wylo a pheidio â bwyta. 8  Ond dywedodd ei gŵr Elcana wrthi: “Hanna, pam rwyt ti’n wylo, a pham dwyt ti ddim yn bwyta, a pham rwyt ti mor drist? Onid ydw i’n well i ti na deg o feibion?” 9  Yna cododd Hanna ar ôl iddyn nhw orffen bwyta ac yfed yn Seilo. Ar y pryd, roedd Eli yr offeiriad yn eistedd ar y sedd wrth fynedfa teml* Jehofa. 10  Roedd Hanna yn ofnadwy o chwerw, a dechreuodd hi weddïo ar Jehofa a beichio crio. 11  A gwnaeth hi’r adduned hon: “O Jehofa y lluoedd, edrycha faint rydw i’n dioddef. O Arglwydd, os byddi di’n fy nghofio i, ac os na fyddi di’n anghofio am dy forwyn, ac yn rhoi mab imi, bydda i’n ei roi i Jehofa holl ddyddiau ei fywyd, ac ni fydd rasel yn cyffwrdd â’i ben.” 12  Tra oedd hi’n gweddïo am amser hir o flaen Jehofa, roedd Eli yn ei gwylio hi. 13  Roedd Hanna yn siarad yn ei chalon; roedd ei gwefusau yn symud, ond doedd ei llais ddim i’w glywed. Felly roedd Eli yn meddwl ei bod hi wedi meddwi. 14  Dywedodd Eli wrthi: “Pam rwyt ti wedi meddwi? Rho’r gorau i yfed dy win.” 15  Gyda hynny atebodd Hanna: “Na, fy arglwydd! Rydw i’n ddynes* o dan bwysau enfawr; rydw i heb yfed gwin nac unrhyw beth alcoholig, ond rydw i’n bwrw fy mol i Jehofa.* 16  Fy arglwydd, paid â meddwl fy mod i’n dda i ddim. Hyd yn hyn rydw i wedi bod yn gweddïo oherwydd poen fy nghalon a fy nioddefaint.” 17  Yna atebodd Eli: “Dos mewn heddwch, a gad i Dduw Israel roi i ti beth rwyt ti wedi gofyn amdano.” 18  I hynny dywedodd hi: “Rydw i’n dymuno y byddi di’n meddwl yn dda ohono i.” Ac aeth y ddynes* ar ei ffordd a bwyta, ac roedd yn amlwg ar ei hwyneb nad oedd hi’n drist bellach. 19  Yna codon nhw’n gynnar yn y bore ac ymgrymu o flaen Jehofa, ac ar ôl hynny aethon nhw yn ôl i’w tŷ yn Rama. Cysgodd Elcana gyda’i wraig Hanna, a gwnaeth Jehofa droi ei sylw ati.* 20  O fewn blwyddyn* daeth Hanna yn feichiog a geni mab a’i alw’n Samuel,* oherwydd fel dywedodd hi, “gan Jehofa y gofynnais amdano.” 21  Ymhen amser aeth Elcana i fyny gyda’i deulu cyfan i offrymu’r aberth blynyddol i Jehofa ac i gyflwyno ei offrwm adduned. 22  Ond wnaeth Hanna ddim mynd i fyny, oherwydd roedd hi wedi dweud wrth ei gŵr: “Unwaith i’r bachgen ddechrau bwyta bwyd mwy solet, gwna i ddod ag ef o flaen Jehofa a bydd ef yn aros yno o hynny ymlaen.” 23  Yna dywedodd ei gŵr Elcana wrthi: “Gwna beth rwyt ti’n ei feddwl sydd orau. Arhosa adref nes iddo ddechrau bwyta bwyd mwy solet. Gad i Jehofa wneud beth rwyt ti wedi ei ddweud.” Felly arhosodd y ddynes* adref nes iddi stopio bwydo ei mab ar y fron. 24  Cyn gynted ag yr oedd hi wedi stopio ei fwydo ar y fron, gwnaeth hi ei gymryd i fyny i Seilo, gyda tharw tair blwydd oed, un effa* o flawd, a jar fawr o win, a daeth hi at dŷ Jehofa yn Seilo a daeth hi â’r bachgen ifanc gyda hi. 25  Yna dyma nhw’n lladd y tarw ac yn dod â’r bachgen at Eli. 26  Gyda hynny dywedodd hi: “Esgusoda fi, fy arglwydd! Mor sicr â’r ffaith dy fod ti’n fyw, fy arglwydd, fi yw’r ddynes* oedd yn sefyll gyda ti yn y lle hwn i weddïo ar Jehofa. 27  Am y bachgen hwn roeddwn i’n gweddïo, ac mae Jehofa wedi rhoi imi beth gwnes i ofyn amdano. 28  Rydw innau nawr yn ei fenthyg i Jehofa. Bydd ef yn perthyn i Jehofa am ei holl ddyddiau.” A gwnaeth ef* ymgrymu i Jehofa yno.

Troednodiadau

Neu “o Rama, un o ddisgynyddion Suff.”
Enw personol unigryw Duw sy’n cael ei gynrychioli gan y pedair cytsain Hebraeg יהוה (YHWH). Mae’n ymddangos bron 7,000 o weithiau yn yr Ysgrythurau Hebraeg.
Neu “y wraig arall.”
Hynny yw, y tabernacl.
Neu “Rydw i’n fenyw.”
Neu “rydw i’n tywallt fy enaid o flaen Jehofa.”
Neu “y fenyw.”
Llyth., “a chofiodd Jehofa amdani.”
Neu efallai, “Ymhen amser.”
Sy’n golygu “Enw Duw.”
Neu “y fenyw.”
Tua 22 L.
Neu “fi yw’r fenyw.”
Yn cyfeirio at Elcana mae’n debyg.