Cyntaf Samuel 9:1-27

  • Samuel yn cyfarfod Saul (1-27)

9  Roedd ’na ddyn o Benjamin o’r enw Cis, mab Abiel, mab Seror, mab Becorath, mab Affeia, o Benjamin, ac roedd yn ddyn cyfoethog iawn.  Roedd ganddo fab o’r enw Saul a oedd yn ifanc ac yn olygus—doedd yr un dyn arall yn Israel yn fwy golygus nag ef—ac roedd yn ben ac ysgwyddau yn dalach na phawb arall.  Pan aeth asennod Cis, tad Saul, ar goll, dywedodd Cis wrth ei fab Saul: “Plîs cymera un o’r gweision a dos i chwilio am yr asennod.”  Aethon nhw drwy ardal fynyddig Effraim, a thrwy wlad Salisa, ond ddaethon nhw ddim o hyd iddyn nhw. Gwnaethon nhw deithio drwy wlad Saalim, ond doedd yr asennod ddim yno. Aethon nhw drwy wlad gyfan y Benjaminiaid, ond ddaethon nhw ddim o hyd iddyn nhw.  Daethon nhw i mewn i wlad Suff, a dywedodd Saul wrth ei was oedd gydag ef: “Dewch inni fynd yn ôl, fel na fydd fy nhad yn dechrau poeni amdanon ni yn hytrach na’r asennod.”  Ond atebodd y gwas: “Edrycha, mae ’na ddyn sy’n was i Dduw yn y ddinas hon, dyn anrhydeddus iawn. Mae popeth mae’n ei ddweud yn sicr o ddod yn wir. Dewch inni fynd yno nawr. Efallai bydd ef yn gallu dweud wrthon ni pa ffordd i fynd.”  Gyda hynny dywedodd Saul wrth ei was: “Os awn ni, beth gallwn ni ei roi i’r dyn? Does ’na ddim bara yn ein bagiau; does ’na ddim byd inni allu ei roi fel anrheg i ddyn y gwir Dduw. Beth sydd gynnon ni?”  Felly atebodd y gwas unwaith eto: “Edrycha! Mae gen i chwarter sicl* o arian yn fy llaw. Gwna i ei roi i ddyn y gwir Dduw, a bydd ef yn dweud wrthon ni pa ffordd i fynd.”  (Yn Israel, dyma beth byddai rhywun yn arfer ei ddweud wrth fynd i geisio arweiniad Duw: “Dewch inni fynd i weld y gweledydd.” Oherwydd roedden nhw’n arfer galw proffwydi yn weledyddion bryd hynny.) 10  Yna dywedodd Saul wrth ei was: “Mae hynny’n syniad da. Dewch inni fynd.” Felly aethon nhw i’r ddinas lle roedd dyn y gwir Dduw. 11  Ar y ffordd sy’n mynd i fyny i’r ddinas, daethon nhw ar draws merched oedd yn mynd allan i godi dŵr. Felly dywedon nhw wrthyn nhw: “Ydy’r gweledydd yma?” 12  Atebon nhw: “Ydy. Edrychwch, dyna ef yn syth o’ch blaenau. Ond brysiwch, oherwydd mae ef wedi dod i’r ddinas am fod y bobl yn gwneud aberth heddiw ar yr uchelfan. 13  Cyn gynted ag y byddwch chi’n dod i mewn i’r ddinas, byddwch chi’n dod o hyd iddo. Ewch yn gyflym, cyn iddo fynd i fyny i’r uchelfan i fwyta. Oherwydd ni fydd y bobl yn bwyta nes iddo ddod a bendithio’r aberth. Dim ond wedyn bydd y rhai sydd wedi cael gwahoddiad yn cael bwyta. Felly ewch ar unwaith, a byddwch chi’n dod o hyd iddo.” 14  Felly aethon nhw i fyny i’r ddinas. Ac wrth iddyn nhw gyrraedd canol y ddinas, dyna lle roedd Samuel yn dod allan i’w cyfarfod nhw cyn mynd i fyny i’r uchelfan. 15  Y diwrnod cyn i Saul gyrraedd, roedd Jehofa wedi dweud wrth Samuel: 16  “Yfory, tua’r adeg yma, bydda i’n anfon dyn atat ti o wlad Benjamin. Mae’n rhaid iti ei eneinio yn arweinydd dros fy mhobl Israel, a bydd ef yn achub fy mhobl o law’r Philistiaid. Oherwydd rydw i wedi gweld dioddefaint fy mhobl, ac mae eu cri wedi fy nghyrraedd.” 17  Unwaith i Samuel weld Saul, dywedodd Jehofa wrtho: “Dyma’r dyn gwnes i sôn wrthot ti amdano, yr un fydd yn llywodraethu dros fy mhobl.” 18  Yna aeth Saul at Samuel yng nghanol porth y ddinas a dweud: “Dyweda wrtho i plîs, lle mae tŷ y gweledydd?” 19  Atebodd Samuel: “Fi yw’r gweledydd. Dos i fyny o fy mlaen i i’r uchelfan, a byddwch chi’n bwyta gyda mi heddiw. Gwna i dy anfon di i ffwrdd yn y bore, a bydda i’n dweud wrthot ti bopeth rwyt ti eisiau ei wybod. 20  Ynglŷn â’r asennod aeth ar goll dri diwrnod yn ôl, paid â phoeni amdanyn nhw, oherwydd mae rhywun wedi dod o hyd iddyn nhw. Wedi’r cwbl, pwy sydd biau holl drysor Israel beth bynnag? Onid y ti, a thŷ cyfan dy dad?” 21  Gyda hynny, atebodd Saul: “Rydw i’n dod o Benjamin, un o lwythau lleiaf Israel, a fy nheulu i yw’r un lleiaf pwysig o holl deuluoedd llwyth Benjamin. Felly pam rwyt ti wedi siarad â mi fel hyn?” 22  Yna gwnaeth Samuel gymryd Saul a’i was a mynd â nhw i’r neuadd fwyta, a rhoi’r lle pwysicaf iddyn nhw ymhlith y rhai a oedd wedi cael gwahoddiad; roedd ’na tua 30 o ddynion. 23  Dywedodd Samuel wrth y cogydd: “Tyrd â’r darn o gig hwnnw y gwnes i ei roi iti i’w gadw ar un ochr.” 24  Gyda hynny, cododd y cogydd y goes o gig, a’i gosod o flaen Saul. A dywedodd Samuel: “Mae hon wedi cael ei chadw ar dy gyfer di. Bwyta, oherwydd maen nhw wedi ei chadw i ti ar gyfer yr achlysur hwn. Oherwydd gwnes i ddweud wrthyn nhw, ‘Rydw i wedi gwahodd gwesteion.’” Felly bwytaodd Saul gyda Samuel y diwrnod hwnnw. 25  Yna aethon nhw i lawr o’r uchelfan i’r ddinas, a pharhaodd i siarad â Saul ar do ei dŷ. 26  Codon nhw’n fuan, ac ar doriad y wawr, galwodd Samuel ar Saul a oedd yn cysgu ar do y tŷ gan ddweud: “Gwna dy hun yn barod, imi allu dy anfon di i ffwrdd.” Felly dyma Saul yn paratoi ac aeth ef a Samuel allan. 27  Tra oedden nhw’n mynd i lawr tuag at gyrion y ddinas, dywedodd Samuel wrth Saul: “Dyweda wrth dy was i fynd yn ei flaen o’n blaenau ni,” felly aeth yn ei flaen. “Ond arhosa di, a saf yn llonydd, er mwyn imi roi neges Duw iti.”

Troednodiadau

Roedd sicl yn gyfartal ag 11.4 g (0.367 oz t).