Y Cyntaf at y Thesaloniaid 3:1-13
3 Gan nad oedden ni’n gallu disgwyl ddim rhagor, penderfynon ni aros ar ein pennau ein hunain yn Athen;
2 ac anfonon ni Timotheus, ein brawd a gweinidog Duw* yn y newyddion da am y Crist, i’ch gwneud chi’n gadarn* ac i’ch cysuro chi er mwyn cryfhau eich ffydd,
3 fel na all neb gael ei ysgwyd* gan yr erledigaethau hyn. Oherwydd rydych chi’ch hunain yn gwybod na allwn ni osgoi dioddef pethau o’r fath.
4 Oherwydd pan oedden ni gyda chi, roedden ni’n arfer dweud wrthoch chi o flaen llaw y bydden ni’n dioddef erledigaeth, a dyna beth sydd wedi digwydd, fel y gwyddoch chi.
5 Dyna pam, pan nad oeddwn i’n gallu disgwyl ddim rhagor, gwnes i anfon i gael gwybod am eich ffyddlondeb, rhag ofn i’r Temtiwr fod wedi eich temtio chi rywsut, a’n llafur wedi mynd yn ofer.
6 Ond mae Timotheus newydd ddod aton ni oddi wrthoch chi ac wedi rhoi inni’r newyddion da am eich ffyddlondeb a’ch cariad, a’ch bod chi bob amser yn cofio amdanon ni gyda hoffter ac yn hiraethu am ein gweld ni fel rydyn ninnau am eich gweld chithau hefyd.
7 Dyna pam, frodyr, rydyn ni, er ein bod ni mewn angen ac yn cael ein herlid, wedi cael ein cysuro o’ch achos chi a’ch ffyddlondeb.
8 Oherwydd rydyn ni’n cael ein hadfywio* os ydych chi’n sefyll yn gadarn yn yr Arglwydd.
9 Sut gallwn ni ddiolch i Dduw amdanoch chi ac am y llawenydd mawr rydyn ni’n ei deimlo gerbron Duw o’ch achos chi?
10 Nos a dydd rydyn ni’n erfyn mor daer ag y medrwn ni er mwyn inni eich gweld chi wyneb yn wyneb* ac inni lenwi’r bwlch yn eich ffydd.
11 Nawr, rydyn ni’n gweddïo y bydd Duw ein Tad a’n Harglwydd Iesu yn ei gwneud hi’n bosib inni ddod atoch chi.
12 Ar ben hynny, rydyn ni’n gobeithio y bydd yr Arglwydd yn achosi ichi gynyddu, yn wir, i orlifo yn eich cariad tuag at eich gilydd a thuag at bawb, fel rydyn ninnau tuag atoch chi,
13 er mwyn iddo allu gwneud eich calonnau yn gadarn, yn ddi-fai mewn sancteiddrwydd gerbron Duw ein Tad yn ystod presenoldeb ein Harglwydd Iesu gyda’i holl rai sanctaidd.
Troednodiadau
^ Neu efallai, “a chyd-weithiwr Duw.”
^ Neu “cryfhau chi.”
^ Llyth., “siglo.”
^ Llyth., “rydyn ni’n byw.”
^ Llyth., “gweld eich wyneb.”