Y Cyntaf at Timotheus 3:1-16

  • Cymwysterau ar gyfer arolygwyr (1-7)

  • Cymwysterau ar gyfer gweision y gynulleidfa (8-13)

  • Cyfrinach gysegredig am ddefosiwn duwiol (14-16)

3  Mae’r geiriau hyn yn ddibynadwy: Os ydy dyn yn estyn allan i fod yn arolygwr, mae ef yn awyddus i wneud gwaith da. 2  Felly, dylai’r arolygwr fod heb fai ar ei gymeriad, yn ŵr i un wraig, rhywun sy’n ymddwyn mewn ffordd gytbwys, yn synhwyrol,* yn drefnus, yn lletygar, yn gymwys i ddysgu eraill, 3  nid yn rhywun sy’n meddwi, nid yn dreisgar, ond yn rhesymol, nid yn hoff o gweryla, nid yn caru arian, 4  yn ddyn sy’n arwain* ei deulu ei hun mewn ffordd dda, gyda phlant sy’n ufudd ac sy’n ymddwyn yn dda 5  (oherwydd os nad oes rhywun yn gwybod sut i arwain* ei deulu ei hun, sut bydd ef yn gofalu am gynulleidfa Duw?), 6  nid yn ddyn sydd newydd ddod yn Gristion, rhag iddo gael ei chwyddo gan falchder a derbyn yr un farnedigaeth mae’r Diafol wedi ei derbyn. 7  Ar ben hynny, dylai ef hefyd gael enw da ymhlith pobl* o’r tu allan fel na fydd yn syrthio i fagl y Diafol a chael ei gywilyddio. 8  Dylai gweision y gynulleidfa hefyd fod yn aeddfed, nid yn ddauwynebog,* nid yn yfed llawer o win, nid yn farus am elw anonest, 9  yn dal eu gafael yng nghyfrinach gysegredig y ffydd gyda chydwybod lân. 10  Hefyd, gadewch i’r rhai hyn gael eu profi yn gyntaf i weld a ydyn nhw’n gymwys; yna gadewch iddyn nhw wasanaethu fel gweinidogion, gan eu bod nhw’n rhydd o unrhyw gyhuddiad. 11  Dylai merched* hefyd fod yn aeddfed, nid yn enllibus, ond yn ymddwyn mewn ffordd gytbwys, yn ffyddlon ym mhob peth. 12  Dylai gweision y gynulleidfa fod yn wŷr i un wraig, yn arwain eu plant a’u teuluoedd eu hunain mewn ffordd dda. 13  Oherwydd mae’r dynion sy’n gweini mewn ffordd dda yn cael enw da ac yn gallu siarad yn gwbl agored am y ffydd sydd yng Nghrist Iesu. 14  Rydw i’n ysgrifennu atoch chi am y pethau hyn, er fy mod i’n gobeithio dod atoch chi’n fuan, 15  rhag ofn imi gael fy rhwystro, fel y gallech chi wybod sut y dylech chi ymddwyn yn nheulu Duw, sef cynulleidfa’r Duw byw, colofn a sylfaen y gwir. 16  Yn wir, mae’r gyfrinach gysegredig am y defosiwn duwiol hwn yn fawr: ‘Fe ymddangosodd yn y cnawd, fe gafodd ei alw’n gyfiawn pan ddaeth yn ysbryd, fe ymddangosodd i angylion, gwnaeth pobl bregethu amdano ymhlith y cenhedloedd, gwnaeth pobl yn y byd gredu ynddo, fe gafodd ei dderbyn yn y nef a’i ogoneddu.’

Troednodiadau

Neu “yn gall ei farn; yn ei iawn bwyll.”
Neu “yn gofalu am.”
Neu “i ofalu am.”
Neu “tystiolaeth dda gan bobl.”
Neu “nid yn dweud pethau twyllodrus.”
Neu “menywod.”