Y Cyntaf at Timotheus 5:1-25

  • Sut i drin y rhai ifanc a’r rhai hŷn (1, 2)

  • Cefnogi gwragedd gweddwon (3-16)

    • Darparu ar gyfer aelodau o’n teulu (8)

  • Parchu henuriaid sy’n gweithio’n galed (17-25)

    • ‘Ychydig o win i helpu dy stumog’ (23)

5  Paid â beirniadu dyn hŷn yn llym. I’r gwrthwyneb, siarada ag ef fel petaset ti’n siarad â dy dad, a siarada â dynion iau fel petaset ti’n siarad â dy frodyr, 2  siarada â merched* hŷn fel petaset ti’n siarad â dy fam, a siarada â merched* iau fel petaset ti’n siarad â dy chwiorydd, gyda chalon bur. 3  Dangosa ystyriaeth i’r gwragedd gweddwon sy’n wir yn wragedd gweddwon.* 4  Ond os oes gan wraig weddw blant neu wyrion, dylen nhw ddysgu yn gyntaf i ymarfer defosiwn duwiol yn eu teulu eu hunain ac i dalu yn ôl i’w rhieni a’u teidiau a’u neiniau* yr hyn y dylen nhw ei gael, oherwydd bod hyn yn plesio Duw. 5  Nawr, mae’r ddynes* sy’n wir yn wraig weddw ac sydd wedi cael ei gadael ar ei phen ei hun wedi rhoi ei gobaith yn Nuw ac mae hi’n parhau i erfyn a gweddïo nos a dydd. 6  Ond mae’r un sydd ond yn byw i fodloni ei chwantau* yn farw er ei bod hi’n fyw. 7  Felly parha i roi’r cyfarwyddiadau hyn, er mwyn iddyn nhw fod heb fai ar eu cymeriad. 8  Yn wir, os nad ydy rhywun yn darparu ar gyfer y rhai sydd o dan ei ofal, ac yn enwedig ar gyfer y rhai sy’n aelodau o’i deulu, mae ef wedi cefnu ar y ffydd ac yn waeth na rhywun sydd heb ffydd. 9  Dylai gwraig weddw gael ei rhoi ar y rhestr os ydy hi dros 60 mlwydd oed, os ydy hi wedi bod yn wraig i un gŵr, 10  os oes ganddi enw da am wneud pethau da, os ydy hi wedi magu plant, os ydy hi wedi dangos lletygarwch, os ydy hi wedi golchi traed y rhai sanctaidd, os ydy hi wedi helpu’r rhai sy’n dioddef, os ydy hi wedi ymroi i bob gweithred dda. 11  Ar y llaw arall, paid â rhoi’r gwragedd gweddwon iau ar y rhestr, oherwydd pan fydd eu chwantau rhywiol yn dod rhyngddyn nhw a’r Crist, maen nhw eisiau priodi. 12  A byddan nhw’n cael eu barnu oherwydd eu bod nhw wedi torri eu haddewid gynt. 13  Ar yr un pryd, maen nhw hefyd yn mynd i’r arfer o wastraffu amser, gan fynd o gwmpas o un tŷ i’r llall; yn wir, nid yn unig yn gwastraffu amser ond hefyd yn hel clecs ac yn busnesu ym materion pobl eraill, gan siarad am bethau na ddylen nhw eu trafod. 14  Felly, rydw i’n dymuno i’r gwragedd gweddwon iau briodi, cael plant, cadw tŷ, a pheidio â rhoi unrhyw gyfle i’r gwrthwynebwr feirniadu. 15  Yn wir, mae rhai eisoes wedi cefnu ar y gwir i ddilyn Satan. 16  Os oes gan unrhyw ddynes* Gristnogol berthnasau sy’n wragedd gweddwon, dylai hi eu helpu nhw fel na fydd y gynulleidfa o dan faich. Yna gall y gynulleidfa helpu’r rhai sy’n wir yn wragedd gweddwon.* 17  Dylai’r henuriaid sy’n arwain yn dda gael mwy o barch, yn enwedig os ydyn nhw’n gweithio’n galed yn siarad ac yn dysgu eraill. 18  Oherwydd mae’r ysgrythur yn dweud: “Ni ddylet ti roi penffrwyn ar darw pan fydd yn dyrnu’r ŷd,” a hefyd, “mae’r gweithiwr yn haeddu ei gyflog.” 19  Paid â derbyn cyhuddiad yn erbyn dyn hŷn* oni bai bod ’na dystiolaeth gan ddau neu dri o dystion. 20  Pan fydd pobl yn dal ati i bechu, cerydda nhw o flaen pawb, fel rhybudd i’r gweddill. 21  Rydw i’n dy orchymyn di o flaen Duw a Christ Iesu, a’r angylion sydd wedi cael eu dewis, i gadw’r cyfarwyddiadau hyn heb unrhyw ragfarn na ffafriaeth. 22  Paid â bod ar frys i benodi unrhyw ddyn i safle o awdurdod;* a phaid â rhannu ym mhechodau pobl eraill chwaith; cadwa dy hun yn bur. 23  Paid ag yfed dŵr bellach,* ond yfa ychydig o win i helpu dy stumog ac oherwydd dy fod ti’n sâl yn aml. 24  Mae pechodau rhai dynion yn amlwg i bawb, ac maen nhw’n arwain yn syth i farnedigaeth, ond mae pechodau dynion eraill yn dod yn amlwg yn hwyrach ymlaen. 25  Yn yr un modd hefyd, mae gweithredoedd da yn amlwg i bawb a hyd yn oed pan nad ydyn nhw’n amlwg, nid oes modd eu cuddio nhw.

Troednodiadau

Neu “menywod.”
Neu “menywod.”
Neu “sy’n wir mewn angen”; hynny yw, does ganddyn nhw neb i’w cynnal.
Neu “a’u tad-cuod a’u mam-guod.”
Neu “y fenyw.”
Yn cyfeirio efallai at chwantau rhywiol.
Neu “unrhyw fenyw.”
Neu “sy’n wir mewn angen”; hynny yw, does ganddyn nhw neb i’w cynnal.
Neu “henuriad.”
Neu “i osod dy ddwylo ar unrhyw ddyn.”
Neu “Stopia yfed dŵr yn unig.”