Ail Brenhinoedd 10:1-36

  • Jehu yn lladd teulu Ahab (1-17)

    • Jehonadab yn ymuno â Jehu (15-17)

  • Addolwyr Baal yn cael eu lladd gan Jehu (18-27)

  • Crynodeb o deyrnasiad Jehu (28-36)

10  Nawr roedd gan Ahab 70 o feibion yn Samaria. Felly ysgrifennodd Jehu lythyrau a’u hanfon nhw i Samaria, at dywysogion Jesreel, yr henuriaid, a gwarchodwyr plant Ahab, gan ddweud:  “Nawr pan fydd y llythyr hwn yn eich cyrraedd chi, bydd meibion eich arglwydd gyda chi, yn ogystal â’r cerbydau rhyfel, y ceffylau, dinas gaerog, ac arfau.  Dewiswch y gorau a’r mwyaf cymwys o feibion eich arglwydd, a’i roi ar orsedd ei dad. Yna brwydrwch dros dŷ eich arglwydd.”  Ond daeth ofn mawr drostyn nhw a dywedon nhw: “Edrycha! Os nad oedd dau frenin yn gallu ei wrthwynebu, sut gallwn ni ei wrthwynebu?”  Felly dyma arolygwr y palas,* llywodraethwr y ddinas, yr henuriaid, a’r gwarchodwyr yn anfon y neges hon at Jehu: “Rydyn ni’n weision iti, a byddwn ni’n gwneud popeth rwyt ti’n ei ddweud wrthon ni. Fyddwn ni ddim yn gwneud unrhyw un yn frenin. Gwna beth bynnag sy’n dda yn dy olwg.”  Yna ysgrifennodd ail lythyr atyn nhw, yn dweud: “Os ydych chi’n perthyn imi ac yn fodlon ufuddhau imi, dewch â phennau meibion eich arglwydd a dewch ata i yr adeg yma yfory yn Jesreel.” Nawr roedd 70 mab y brenin gyda dynion pwysig y ddinas a oedd yn eu magu nhw.  Unwaith i’r llythyr eu cyrraedd nhw, dyma nhw’n cymryd meibion y brenin ac yn eu lladd nhw, 70 o ddynion, yn rhoi eu pennau mewn basgedi, ac yn eu hanfon nhw ato yn Jesreel.  Daeth y negesydd i mewn a dweud wrtho: “Maen nhw wedi cyrraedd gyda phennau meibion y brenin.” Felly dywedodd: “Rhowch nhw mewn dau bentwr wrth fynedfa porth y ddinas tan y bore.”  Pan aeth allan yn y bore, safodd o flaen y bobl i gyd a dweud: “Rydych chi’n ddieuog. Do, fe wnes i gynllwynio yn erbyn fy arglwydd a’i ladd, ond pwy wnaeth daro’r rhain i gyd i lawr? 10  Felly rydw i eisiau ichi wybod na fydd yr un o eiriau Jehofa y mae Jehofa wedi eu dweud yn erbyn tŷ Ahab yn methu, ac mae Jehofa wedi gwneud beth ddywedodd ef drwy ei was Elias.” 11  Ar ben hynny, gwnaeth Jehu daro i lawr bawb oedd ar ôl o deulu Ahab yn Jesreel, yn ogystal â’i holl ddynion pwysig, ei ffrindiau, a’i offeiriaid, nes bod ganddo neb ar ôl. 12  Yna cododd a mynd ar ei ffordd i Samaria. Roedd tŷ cneifio* y bugeiliaid ar y ffordd. 13  Daeth Jehu ar draws brodyr Ahaseia brenin Jwda yno, a gofynnodd iddyn nhw, “Pwy ydych chi?” Atebon nhw: “Brodyr Ahaseia ydyn ni, ac rydyn ni ar ein ffordd i ofyn os ydy popeth yn iawn gyda meibion y brenin a meibion y fam frenhines.” 14  Ar unwaith dywedodd: “Daliwch nhw’n fyw!” Felly dyma nhw’n eu dal nhw’n fyw ac yn eu lladd nhw wrth bydew y tŷ cneifio, 42 o ddynion. Wnaeth ef ddim gadael i’r un ohonyn nhw fyw. 15  Wrth iddo adael fan ’na, daeth ar draws Jehonadab fab Rechab, a oedd yn dod i’w gyfarfod. Pan wnaeth ef ei gyfarch, dywedodd wrtho: “Ydy dy galon di yn hollol ffyddlon imi, yn union fel mae fy nghalon i yn ffyddlon i dy galon di?” Atebodd Jehonadab: “Ydy.” “Os felly, rho dy law imi.” Felly rhoddodd ei law iddo, a dyma Jehu yn ei dynnu i mewn i’r cerbyd gydag ef. 16  Yna dywedodd: “Tyrd gyda mi, iti gael gweld nad ydw i’n goddef unrhyw anffyddlondeb tuag at* Jehofa.” Felly aeth gyda Jehu yn ei gerbyd rhyfel. 17  Yna daeth i Samaria a tharo i lawr bawb oedd ar ôl o deulu Ahab yn Samaria nes ei fod wedi eu lladd nhw i gyd, yn union fel roedd Jehofa wedi dweud wrth Elias. 18  Hefyd, dyma Jehu yn casglu’r bobl i gyd at ei gilydd ac yn dweud wrthyn nhw: “Roedd Ahab yn addoli Baal ryw ychydig, ond bydd Jehu yn ei addoli yn llawer iawn mwy. 19  Felly casglwch holl broffwydi Baal, pawb sy’n ei addoli, a’i offeiriaid i gyd ata i. Gwnewch yn siŵr fod pawb yno, oherwydd mae gen i aberth enfawr i Baal. Bydd unrhyw un sy’n absennol yn cael ei ladd.” Ond roedd Jehu yn gweithredu’n gyfrwys i ddinistrio’r rhai sy’n addoli Baal. 20  Aeth Jehu ymlaen i ddweud: “Cyhoeddwch gynulliad sanctaidd i Baal.” Felly dyma nhw’n ei gyhoeddi. 21  Ar ôl hynny, anfonodd Jehu neges drwy Israel i gyd, a daeth holl addolwyr Baal, pob un ohonyn nhw. Aethon nhw i mewn i dŷ* Baal, a chafodd tŷ Baal ei lenwi o un pen i’r llall. 22  Dywedodd wrth yr un a oedd yn gofalu am y gwisgoedd: “Tyrd â dillad allan ar gyfer holl addolwyr Baal.” Felly daeth â’r dillad allan iddyn nhw. 23  Yna aeth Jehu a Jehonadab fab Rechab i mewn i dŷ Baal. Nawr dywedodd wrth addolwyr Baal: “Chwiliwch yn ofalus a gwnewch yn siŵr nad oes neb sy’n addoli Jehofa yma, dim ond y rhai sy’n addoli Baal.” 24  Yn y pen draw daethon nhw i mewn i gyflwyno aberthau ac offrymau llosg. Roedd Jehu wedi gosod 80 o’i ddynion y tu allan a dweud: “Os bydd unrhyw un o’r dynion rydw i’n eu rhoi yn eich dwylo yn dianc, bydd pwy bynnag sy’n gyfrifol yn marw yn ei le.” 25  Unwaith iddo orffen cyflwyno’r offrwm llosg, dywedodd Jehu wrth y gwarchodlu a’r dirprwy gadfridogion: “Dewch i mewn a’u taro nhw i lawr! Peidiwch â gadael i’r un ohonyn nhw ddianc!” Felly dyma’r gwarchodlu a’r dirprwy gadfridogion yn eu taro nhw i lawr â’r cleddyf ac yn eu taflu nhw allan, ac aethon nhw mor bell â chysegr mewnol* tŷ Baal. 26  Felly dyma nhw’n dod â cholofnau cysegredig tŷ Baal allan ac yn llosgi pob un. 27  Rhwygon nhw golofn gysegredig Baal i lawr a rhwygo tŷ Baal i lawr a’i droi’n doiledau, ac felly mae hi hyd heddiw. 28  Dyma sut achosodd Jehu i addoliad Baal ddiflannu o wlad Israel. 29  Ond ni wnaeth Jehu gefnu ar y pechodau roedd Jeroboam fab Nebat wedi achosi i Israel eu cyflawni, hynny yw addoli’r lloeau aur a oedd ym Methel a Dan. 30  Felly dywedodd Jehofa wrth Jehu: “Am dy fod ti wedi gwneud pethau da ac wedi gwneud beth sy’n iawn yn fy ngolwg, drwy gyflawni popeth roeddwn i wedi penderfynu ei wneud yn erbyn tŷ Ahab, bydd pedair cenhedlaeth o dy feibion yn eistedd ar orsedd Israel.” 31  Ond wnaeth Jehu ddim sicrhau ei fod yn dilyn Cyfraith Jehofa, Duw Israel, â’i holl galon. Ni wnaeth ef gefnu ar y pechodau roedd Jeroboam wedi achosi i Israel eu cyflawni. 32  Yn y dyddiau hynny dechreuodd Jehofa dorri Israel i ffwrdd* fesul darn. Parhaodd Hasael i ymosod arnyn nhw drwy diriogaeth Israel, 33  o’r Iorddonen i gyfeiriad y dwyrain, cymerodd holl dir Gilead—tir Gad, Reuben, a Manasse. Roedd hyn yn cynnwys y diriogaeth sy’n mynd o Aroer, sydd wrth ymyl Dyffryn Arnon, i fyny at Gilead a Basan. 34  Ac onid ydy gweddill hanes Jehu, popeth a wnaeth a’i holl weithredoedd nerthol, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Israel? 35  Yna bu farw Jehu* a chafodd ei gladdu yn Samaria; a daeth ei fab Jehoahas yn frenin yn ei le. 36  Teyrnasodd Jehu dros Israel yn Samaria am 28 mlynedd.

Troednodiadau

Llyth., “tŷ.”
Mae’n ymddangos bod hyn yn rhywle lle roedd defaid yn cael eu rhwymo er mwyn cael eu cneifio.
Neu “iti gael gweld fy sêl dros.”
Neu “i deml.”
Llyth., “dinas,” efallai adeilad a oedd yn debyg i gaer.
Neu “dechreuodd Jehofa leihau Israel.”
Neu “Yna gorweddodd Jehu i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”