Ail Brenhinoedd 11:1-21

  • Athaleia yn cipio’r orsedd (1-3)

  • Jehoas yn cael ei wneud yn frenin yn ddirgel (4-12)

  • Athaleia yn cael ei lladd (13-16)

  • Newidiadau Jehoiada (17-21)

11  Nawr pan welodd Athaleia, mam Ahaseia, fod ei mab wedi marw, dyma hi’n mynd ati i ddinistrio’r llinach frenhinol gyfan.  Ond dyma Jehoseba, merch y Brenin Jehoram, chwaer Ahaseia, yn cymryd Jehoas fab Ahaseia i ffwrdd yn ddistaw bach oddi wrth feibion y brenin oedd am gael eu lladd, gan ei gadw ef a’i nyrs mewn ystafell wely fewnol. Llwyddon nhw i’w guddio oddi wrth Athaleia fel na chafodd ei ladd.  Arhosodd yno gyda hi am chwe mlynedd, yn cuddio yn nhŷ Jehofa, tra oedd Athaleia yn teyrnasu dros y wlad.  Yn y seithfed flwyddyn, anfonodd Jehoiada am y penaethiaid ar gannoedd, a oedd yn gyfrifol am y gwarchodlu brenhinol* ac am warchodlu’r palas, a gorchmynnodd eu bod nhw’n dod ato yn nhŷ Jehofa. Gwnaeth gytundeb* â nhw, a gofyn iddyn nhw dyngu llw yn nhŷ Jehofa y byddan nhw’n cadw at y cytundeb hwnnw, ac yna dangosodd fab y brenin iddyn nhw.  Gorchmynnodd: “Dyma y dylech chi ei wneud: Bydd traean ohonoch chi ar ddyletswydd ar y Saboth ac yn cadw llygad barcud ar dŷ’r brenin,*  bydd traean arall wrth Borth y Sylfaen, a bydd y traean olaf wrth y porth y tu ôl i warchodlu’r palas. Byddwch chi’n cymryd eich tro yn gwylio dros y tŷ.  Ac mae’n rhaid i’r ddwy adran sydd ddim ar ddyletswydd ar y Saboth wylio tŷ Jehofa yn ofalus er mwyn amddiffyn y brenin.  Mae’n rhaid ichi amgylchynu’r brenin ar bob ochr, pob un gyda’i arfau yn ei law. Bydd unrhyw un sy’n ceisio mynd heibio yn cael ei ladd. Arhoswch gyda’r brenin ble bynnag mae’n mynd.”  Dyma’r penaethiaid ar gannoedd yn gwneud yn union fel roedd Jehoiada yr offeiriad wedi gorchymyn. Felly cymerodd pob un ei ddynion oedd ar ddyletswydd ar y Saboth, yn ogystal â’r rhai nad oedden nhw ar ddyletswydd ar y Saboth, a daethon nhw i mewn at Jehoiada yr offeiriad. 10  Yna cymerodd yr offeiriad y gwaywffyn a’r tarianau crwn oedd yn arfer perthyn i’r Brenin Dafydd, y rhai a oedd yn nhŷ Jehofa, a’u rhoi nhw i’r penaethiaid ar gannoedd. 11  A dyma bob un o warchodlu’r palas yn cymryd ei safle gyda’i arfau yn ei law, o ochr dde’r tŷ i’r ochr chwith, rhai yn sefyll wrth yr allor a rhai yn sefyll wrth y tŷ, yn amgylchynu’r brenin. 12  Yna daeth Jehoiada â mab y brenin allan. Rhoddodd y goron a’r Dystiolaeth* ar ei ben, ei eneinio ag olew, a’i wneud yn frenin. Dechreuon nhw glapio a dweud: “Hir oes i’r brenin!” 13  Pan glywodd Athaleia sŵn y bobl yn rhedeg, aeth hi atyn nhw ar unwaith yn nhŷ Jehofa. 14  Yna gwelodd hi’r brenin yn sefyll yno wrth y golofn yn ôl yr arfer. Roedd y penaethiaid a’r trwmpedwyr gyda’r brenin, ac roedd holl bobl y wlad yn llawenhau ac yn canu trwmpedi. Gyda hynny, rhwygodd Athaleia ei dillad a gweiddi: “Brad! Brad!” 15  Ond dyma Jehoiada yr offeiriad yn gorchymyn i’r penaethiaid oedd wedi eu penodi dros y fyddin: “Ewch â hi o ’ma, ac os bydd unrhyw un yn ei dilyn hi, lladdwch ef â’r cleddyf!” Oherwydd roedd yr offeiriad wedi dweud: “Ddylai hi ddim cael ei lladd yn nhŷ Jehofa.” 16  Felly dyma nhw’n ei chymryd hi i’r fan lle mae’r ceffylau yn dod i mewn i dŷ’r brenin,* a chafodd hi ei lladd yno. 17  Yna gwnaeth Jehoiada gyfamod rhwng Jehofa a’r brenin a’r bobl, y byddan nhw’n parhau fel pobl i Jehofa, a hefyd gwnaeth gyfamod rhwng y brenin a’r bobl. 18  Wedyn, daeth holl bobl y wlad i dŷ* Baal a rhwygo ei allorau i lawr. Gwnaethon nhw hefyd falu ei ddelwau yn llwyr, a lladd Mattan, offeiriad Baal, o flaen yr allorau. Yna gwnaeth yr offeiriad benodi arolygwyr dros dŷ Jehofa. 19  Ar ben hynny, aeth gyda’r penaethiaid ar gannoedd, y gwarchodlu brenhinol,* gwarchodlu’r palas, a holl bobl y wlad i hebrwng y brenin i lawr o dŷ Jehofa, ac aethon nhw at dŷ’r brenin* ar hyd y ffordd sy’n mynd trwy borth gwarchodlu’r palas. Yna eisteddodd ar orsedd y brenhinoedd. 20  Felly roedd holl bobl y wlad yn llawen, ac roedd ’na heddwch yn y ddinas am fod Athaleia wedi cael ei lladd â’r cleddyf yn nhŷ’r brenin. 21  Roedd Jehoas yn saith mlwydd oed pan ddaeth yn frenin.

Troednodiadau

Llyth., “y Cariaid.”
Neu “Gwnaeth gyfamod.”
Neu “ar balas y brenin.”
Efallai sgrôl a oedd yn cynnwys Cyfraith Duw.
Neu “i balas y brenin.”
Neu “i deml.”
Llyth., “y Cariaid.”
Neu “at balas y brenin.”