Ail Brenhinoedd 12:1-21

  • Jehoas, brenin Jwda (1-3)

  • Jehoas yn atgyweirio’r deml (4-16)

  • Ymosodiad y Syriaid (17, 18)

  • Jehoas yn cael ei ladd (19-21)

12  Yn y seithfed flwyddyn o deyrnasiad Jehu, daeth Jehoas yn frenin, a theyrnasodd am 40 mlynedd yn Jerwsalem. Enw ei fam oedd Sibia o Beer-seba.  Parhaodd Jehoas i wneud beth oedd yn iawn yng ngolwg Jehofa tra oedd Jehoiada yr offeiriad yn ei ddysgu.  Ond roedd yr uchelfannau yn dal i fod yno, ac roedd y bobl yn dal i aberthu ac yn gwneud i fwg godi oddi ar eu haberthau ar yr uchelfannau.  Dywedodd Jehoas wrth yr offeiriaid: “Cymerwch yr holl arian sy’n dod i dŷ Jehofa ar gyfer yr offrymau sanctaidd, sef y dreth mae’n rhaid i bob un ei thalu, yr arian sy’n dod oddi wrth y bobl sydd wedi gwneud addunedau, a’r holl arian mae calon pob unigolyn yn ei gymell i’w roi i dŷ Jehofa.  Bydd yr offeiriaid eu hunain yn ei gymryd gan y cyfranwyr,* ac yn ei ddefnyddio i atgyweirio’r tŷ, lle bynnag maen nhw’n dod o hyd i unrhyw ddifrod.”*  Erbyn y drydedd flwyddyn ar hugain* o deyrnasiad y Brenin Jehoas, doedd yr offeiriaid ddim eto wedi atgyweirio’r tŷ.  Felly galwodd y Brenin Jehoas ar Jehoiada yr offeiriad ac ar yr offeiriaid eraill a dweud wrthyn nhw: “Pam nad ydych chi’n atgyweirio’r tŷ? Peidiwch â chymryd mwy o arian gan y cyfranwyr, oni bai ei fod yn cael ei ddefnyddio i drwsio’r tŷ.”  Felly cytunodd yr offeiriaid i beidio â chymryd mwy o arian gan y bobl o hynny ymlaen, ac i beidio â bod yn gyfrifol am atgyweirio’r tŷ.  Yna dyma Jehoiada yr offeiriad yn cymryd cist ac yn gwneud twll yn ei chaead ac yn ei rhoi wrth yr allor sydd ar yr ochr dde wrth i rywun fynd i mewn i dŷ Jehofa. Dyna lle roedd yr offeiriaid a oedd yn gwasanaethu fel porthorion yn rhoi’r holl arian oedd yn dod i dŷ Jehofa. 10  Bryd bynnag bydden nhw’n gweld bod ’na lawer iawn o arian yn y gist, byddai ysgrifennydd y brenin a’r archoffeiriad yn dod i fyny ac yn casglu’r arian* a oedd wedi dod i dŷ Jehofa, ac yn ei gyfri. 11  Bydden nhw’n rhoi’r arian a oedd wedi cael ei gyfri i’r rhai oedd wedi eu penodi dros y gwaith a oedd yn cael ei wneud yn nhŷ Jehofa. Bydden nhwthau, yn eu tro, yn ei dalu i’r seiri coed a’r adeiladwyr oedd yn gweithio ar dŷ Jehofa, 12  ac i’r seiri maen a’r naddwyr cerrig. Gwnaethon nhw hefyd brynu coed a cherrig wedi eu naddu er mwyn trwsio’r difrod i dŷ Jehofa a defnyddio’r arian ar gyfer yr holl gostau eraill a oedd yn codi wrth drwsio’r tŷ. 13  Ond, chafodd dim o’r arian a ddaeth i dŷ Jehofa ei ddefnyddio i wneud basnau arian, offer diffodd fflamau,* powlenni, trwmpedi, nac unrhyw beth wedi ei wneud allan o aur neu arian ar gyfer tŷ Jehofa. 14  Bydden nhw ond yn ei roi i’r rhai oedd yn gwneud y gwaith, a bydden nhw’n ei ddefnyddio i atgyweirio tŷ Jehofa. 15  Fydden nhw ddim yn cwestiynu’r rhai oedd yn derbyn yr arian i’w roi i’r gweithwyr, am eu bod nhw’n ddibynadwy. 16  Ond, doedd yr arian ar gyfer offrymau dros euogrwydd a’r arian ar gyfer offrymau dros bechodau ddim yn cael ei gymryd i dŷ Jehofa; roedd yn perthyn i’r offeiriaid. 17  Dyna pryd daeth Hasael, brenin Syria, i fyny i frwydro yn erbyn Gath a’i chipio, ac ar ôl hynny penderfynodd ymosod ar Jerwsalem. 18  Gyda hynny, cymerodd Jehoas, brenin Jwda, yr holl offrymau sanctaidd roedd ei gyndadau Jehosaffat, Jehoram, ac Ahaseia, brenhinoedd Jwda, wedi eu sancteiddio, yn ogystal â’i offrymau sanctaidd ei hun a’r holl aur oedd yn y trysordai yn nhŷ Jehofa ac yn nhŷ’r brenin,* a’u hanfon nhw at Hasael, brenin Syria. Felly ciliodd yn ôl oddi wrth Jerwsalem. 19  Ynglŷn â gweddill hanes Jehoas, popeth a wnaeth, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Jwda? 20  Ond, dyma ei swyddogion yn cynllwynio yn ei erbyn ac yn taro Jehoas i lawr yn nhŷ’r Bryn,* ar y ffordd sy’n mynd i lawr i Sila. 21  Ei swyddogion, Josacar fab Simeath a Jehosabad fab Somer, oedd y rhai a wnaeth ei daro i lawr a’i ladd. Gwnaethon nhw ei gladdu gyda’i gyndadau yn Ninas Dafydd, a daeth ei fab Amaseia yn frenin yn ei le.

Troednodiadau

Neu “gan eu ffrindiau.”
Neu “unrhyw graciau.”
Neu “23ain flwyddyn.”
Neu “ac yn rhoi mewn bagiau yr arian.”
Neu “sisyrnau diffodd fflamau.”
Neu “ym mhalas y brenin.”
Neu “yn Beth-milo.”