Ail Brenhinoedd 13:1-25

  • Jehoahas, brenin Israel (1-9)

  • Jehoas, brenin Israel (10-13)

  • Eliseus yn rhoi prawf ar sêl Jehoas (14-19)

  • Eliseus yn marw; ei esgyrn yn atgyfodi dyn (20, 21)

  • Proffwydoliaeth olaf Eliseus yn cael ei chyflawni (22-25)

13  Yn y drydedd flwyddyn ar hugain* o deyrnasiad Jehoas fab Ahaseia brenin Jwda, daeth Jehoahas fab Jehu yn frenin ar Israel yn Samaria, a theyrnasodd am 17 mlynedd.  Parhaodd i wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa, a chyflawnodd yr un pechodau roedd Jeroboam fab Nebat wedi achosi i Israel eu cyflawni. Wnaeth ef ddim cefnu ar y pechodau hynny.  Felly roedd dicter Jehofa yn erbyn yr Israeliaid yn danbaid, a dyma’n eu rhoi nhw yn nwylo Hasael, brenin Syria, ac yn nwylo Ben-hadad fab Hasael eu holl ddyddiau.  Ymhen amser, erfyniodd Jehoahas am ffafr Jehofa, a gwrandawodd Jehofa arno oherwydd roedd wedi gweld y dioddefaint roedd brenin Syria wedi ei achosi i Israel.  Felly rhoddodd Jehofa achubwr i Israel i’w rhyddhau nhw o afael Syria, ac roedd yr Israeliaid yn gallu byw yn eu tai fel o’r blaen.*  (Ond ni wnaethon nhw gefnu ar bechod teulu Jeroboam, y pechod roedd Jeroboam wedi achosi i Israel ei gyflawni. Roedden nhw’n parhau yn y pechod hwn, ac roedd y polyn cysegredig yn dal i sefyll yn Samaria.)  Cafodd Jehoahas ei adael gyda byddin o ddim ond 50 o farchogion, 10 o gerbydau, a 10,000 o filwyr, oherwydd roedd brenin Syria wedi dinistrio’r gweddill, gan sathru arnyn nhw fel llwch ar y llawr dyrnu.  Ynglŷn â gweddill hanes Jehoahas, popeth a wnaeth a’i weithredoedd nerthol, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Israel?  Yna bu farw Jehoahas* a chafodd ei gladdu yn Samaria; a daeth ei fab Jehoas yn frenin yn ei le. 10  Yn yr ail flwyddyn ar bymtheg ar hugain* o deyrnasiad Jehoas brenin Jwda, daeth Jehoas fab Jehoahas yn frenin ar Israel yn Samaria, a theyrnasodd am 16 mlynedd. 11  Parhaodd i wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa ac i gyflawni’r holl bechodau roedd Jeroboam fab Nebat wedi achosi i Israel eu cyflawni. Wnaeth ef ddim cefnu ar y pechodau hyn. 12  Ynglŷn â gweddill hanes Jehoas, popeth a wnaeth, ei weithredoedd nerthol, a sut gwnaeth ef frwydro yn erbyn Amaseia brenin Jwda, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Israel? 13  Yna bu farw Jehoas* ac eisteddodd Jeroboam* ar ei orsedd. A chafodd Jehoas ei gladdu yn Samaria gyda brenhinoedd Israel. 14  Nawr pan aeth Eliseus yn sâl â’r salwch a wnaeth ei ladd yn y pen draw, daeth Jehoas brenin Israel i lawr ato ac wylo drosto, gan ddweud: “Fy nhad, fy nhad! Cerbyd Israel a’i farchogion!” 15  Yna dywedodd Eliseus wrtho: “Cymera fwa a saethau.” Felly cymerodd fwa a saethau. 16  Yna dywedodd Eliseus wrth frenin Israel: “Gafael yn y bwa.” Felly gafaelodd ynddo ac yna rhoddodd Eliseus ei ddwylo ef ar ddwylo’r brenin. 17  Yna dywedodd: “Agora’r ffenest tua’r dwyrain.” Felly agorodd y ffenest. Dywedodd Eliseus: “Saetha!” Felly saethodd. Yna dywedodd: “Saeth fuddugoliaeth Jehofa, saeth fuddugoliaeth dros Syria! Byddi di’n taro Syria i lawr yn Affec nes iti drechu’r fyddin yn llwyr.” 18  Aeth ymlaen i ddweud: “Gafael yn y saethau,” felly gafaelodd ynddyn nhw. Yna dywedodd wrth frenin Israel: “Taro’r llawr.” Felly dyma’n taro’r llawr dair gwaith cyn stopio. 19  Gyda hynny, dyma ddyn y gwir Dduw yn digio ag ef a dweud: “Dylet ti fod wedi taro’r llawr bump neu chwe gwaith! Yna byddet ti wedi taro Syria i lawr nes iti ei threchu’n llwyr, ond nawr byddi di ond yn taro Syria i lawr dair gwaith.” 20  Wedyn bu farw Eliseus a chafodd ei gladdu. Ar ôl hynny, dechreuodd grwpiau o ladron o Moab ddod i mewn i’r wlad ar ddechrau pob blwyddyn.* 21  Un diwrnod, roedd ’na ddynion yn claddu dyn pan welson nhw grŵp o ladron. Felly dyma nhw’n taflu’r dyn i mewn i fedd Eliseus a rhedeg i ffwrdd. Pan wnaeth corff y dyn gyffwrdd ag esgyrn Eliseus, daeth yn ôl yn fyw a sefyll ar ei draed. 22  Nawr dyma Hasael, brenin Syria, yn erlid Israel holl ddyddiau Jehoahas. 23  Ond dangosodd Jehofa ffafr a thrugaredd tuag atyn nhw, a dangosodd ei fod yn gofalu amdanyn nhw er mwyn ei gyfamod ag Abraham, Isaac, a Jacob. Doedd ef ddim eisiau eu difetha nhw, a dydy ef ddim wedi eu gyrru nhw i ffwrdd o’i olwg hyd heddiw. 24  Unwaith i Hasael brenin Syria farw, daeth ei fab Ben-hadad yn frenin yn ei le. 25  Dyma Jehoas fab Jehoahas yn cymryd oddi ar Ben-hadad fab Hasael y dinasoedd roedd Hasael wedi eu cymryd oddi ar Jehoahas yn ystod adeg rhyfel. Dyma Jehoas yn taro Ben-hadad i lawr* dair gwaith ac yn cymryd dinasoedd Israel yn ôl.

Troednodiadau

Neu “23ain flwyddyn.”
Hynny yw, mewn heddwch a diogelwch.
Neu “Yna gorweddodd Jehoahas i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”
Neu “37ain flwyddyn.”
Neu “Yna gorweddodd Jehoas i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”
Hynny yw, Jeroboam II.
Yn y gwanwyn mae’n debyg.
Neu “yn trechu Ben-hadad.”