Ail Brenhinoedd 15:1-38

  • Asareia, brenin Jwda (1-7)

  • Brenhinoedd olaf Israel: Sechareia (8-12), Salum (13-16), Menahem (17-22), Pecaheia (23-26), Peca (27-31)

  • Jotham, brenin Jwda (32-38)

15  Yn y seithfed flwyddyn ar hugain* o deyrnasiad Jeroboam* brenin Israel, daeth Asareia,* mab Amaseia brenin Jwda, yn frenin.  Roedd yn 16 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am 52 mlynedd yn Jerwsalem. Enw ei fam oedd Jecholeia o Jerwsalem.  Parhaodd i wneud beth oedd yn iawn yng ngolwg Jehofa, fel roedd ei dad Amaseia wedi gwneud.  Ond roedd yr uchelfannau yn dal i fod yno, ac roedd y bobl yn dal i aberthu ac yn gwneud i fwg godi oddi ar eu haberthau ar yr uchelfannau.  Tarodd Jehofa y brenin â’r gwahanglwyf, ac roedd yn wahanglaf nes iddo farw; ac arhosodd mewn tŷ ar wahân, tra oedd Jotham, mab y brenin, yn gyfrifol am y tŷ* ac yn barnu pobl y wlad.  Ynglŷn â gweddill hanes Asareia, popeth a wnaeth, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Jwda?  Yna bu farw Asareia* a chafodd ei gladdu gyda’i gyndadau yn Ninas Dafydd; a daeth ei fab Jotham yn frenin yn ei le.  Yn y ddeunawfed flwyddyn ar hugain* o deyrnasiad Asareia brenin Jwda, daeth Sechareia fab Jeroboam yn frenin ar Israel yn Samaria, a theyrnasodd am chwe mis.  Gwnaeth beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa, fel roedd ei gyndadau wedi gwneud. Wnaeth ef ddim cefnu ar y pechodau roedd Jeroboam fab Nebat wedi achosi i Israel eu cyflawni. 10  Yna dyma Salum fab Jabes yn cynllwynio yn ei erbyn ac yn ei daro i lawr yn Ibleam. Ar ôl iddo ei ladd, daeth yn frenin yn ei le. 11  Ynglŷn â gweddill hanes Sechareia, mae wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Israel. 12  Roedd hyn yn cyflawni beth ddywedodd Jehofa wrth Jehu: “Bydd pedair cenhedlaeth o dy feibion yn eistedd ar orsedd Israel.” A dyna beth ddigwyddodd. 13  Daeth Salum fab Jabes yn frenin yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain* o deyrnasiad Usseia brenin Jwda, a theyrnasodd am fis cyfan yn Samaria. 14  Yna daeth Menahem fab Gadi i fyny o Tirsa i Samaria a tharo Salum fab Jabes i lawr yn Samaria. Ar ôl iddo ei ladd, daeth yn frenin yn ei le. 15  Ynglŷn â gweddill hanes Salum a’i gynllwyn, mae wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Israel. 16  Dyna pryd daeth Menahem o Tirsa a tharo i lawr Tiffsa a phawb oedd ynddi a’i thiriogaeth, oherwydd wnaethon nhw ddim agor y giatiau iddo. Tarodd Tiffsa i lawr a rhwygo’n agored y merched* beichiog oedd yno. 17  Yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain* o deyrnasiad Asareia brenin Jwda, daeth Menahem fab Gadi yn frenin ar Israel, a theyrnasodd am ddeng mlynedd yn Samaria. 18  Parhaodd i wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa. Ar hyd ei fywyd, wnaeth ef ddim cefnu ar yr holl bechodau roedd Jeroboam fab Nebat wedi achosi i Israel eu cyflawni. 19  Daeth Pul, brenin Asyria, i mewn i’r wlad, a rhoddodd Menahem 1,000 talent* o arian i Pul er mwyn ennill ei gefnogaeth wrth sicrhau’r frenhiniaeth iddo’i hun. 20  Felly dyma Menahem yn codi arian o Israel drwy fynnu taliad oddi wrth y dynion pwysig a chyfoethog. Rhoddodd 50 sicl* arian ar gyfer pob dyn i frenin Asyria. Yna dyma frenin Asyria yn cilio yn ôl a wnaeth ef ddim aros yn y wlad. 21  Ynglŷn â gweddill hanes Menahem, popeth a wnaeth, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Israel? 22  Yna bu farw Menahem;* a daeth ei fab Pecaheia yn frenin yn ei le. 23  Yn yr hanner canfed* flwyddyn o deyrnasiad Asareia brenin Jwda, daeth Pecaheia fab Menahem yn frenin ar Israel yn Samaria, a theyrnasodd am ddwy flynedd. 24  Parhaodd i wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa. Wnaeth ef ddim cefnu ar y pechodau roedd Jeroboam fab Nebat wedi achosi i Israel eu cyflawni. 25  Yna dyma ei ddirprwy gadfridog, Peca fab Remaleia, yn cynllwynio yn ei erbyn ac yn ei daro i lawr yn Samaria, yn nhŵr caerog tŷ’r brenin* gydag Argob ac Arie. Roedd ’na 50 dyn o Gilead gydag ef; ac ar ôl iddo ei ladd, daeth yn frenin yn ei le. 26  Ynglŷn â gweddill hanes Pecaheia, popeth a wnaeth, mae wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Israel. 27  Yn y ddeuddegfed flwyddyn ar ddeugain* o deyrnasiad Asareia brenin Jwda, daeth Peca fab Remaleia yn frenin ar Israel yn Samaria, a theyrnasodd am 20 mlynedd. 28  Parhaodd i wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa, a wnaeth ef ddim cefnu ar y pechodau roedd Jeroboam fab Nebat wedi achosi i Israel eu cyflawni. 29  Yn nyddiau Peca brenin Israel, dyma Tiglath-pileser brenin Asyria yn ymosod ar Ijon ac yn ei chipio, yn ogystal ag Abel-beth-maacha, Janoa, Cedes, Hasor, Gilead, a Galilea—holl wlad Nafftali—a chaethgludo’r holl bobl i Asyria. 30  Yna cynllwyniodd Hosea fab Ela yn erbyn Peca fab Remaleia, a dyma’n ei daro ac yn ei ladd; a daeth yn frenin yn ei le yn yr ugeinfed* flwyddyn o deyrnasiad Jotham fab Usseia. 31  Ynglŷn â gweddill hanes Peca, popeth a wnaeth, mae wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Israel. 32  Yn yr ail flwyddyn o deyrnasiad Peca fab Remaleia brenin Israel, daeth Jotham, mab Usseia brenin Jwda, yn frenin. 33  Roedd yn 25 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am 16 mlynedd yn Jerwsalem. Enw ei fam oedd Jerusa ferch Sadoc. 34  Parhaodd i wneud beth oedd yn iawn yng ngolwg Jehofa, yn union fel roedd ei dad Usseia wedi gwneud. 35  Ond roedd yr uchelfannau yn dal i fod yno, ac roedd y bobl yn dal i aberthu ac yn gwneud i fwg godi oddi ar eu haberthau ar yr uchelfannau. Ef oedd yr un a wnaeth adeiladu giât uchaf tŷ Jehofa. 36  Ynglŷn â gweddill hanes Jotham, beth wnaeth ef, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Jwda? 37  Yn y dyddiau hynny, dechreuodd Jehofa anfon Resin brenin Syria a Peca fab Remaleia yn erbyn Jwda. 38  Yna bu farw Jotham* a chafodd ei gladdu gyda’i gyndadau yn Ninas Dafydd ei gyndad. A daeth ei fab Ahas yn frenin yn ei le.

Troednodiadau

Neu “27ain flwyddyn.”
Hynny yw, Jeroboam II.
Sy’n golygu “Mae Jehofa Wedi Helpu.” Mae’n cael ei alw’n Usseia yn 2Br 15:13; 2Cr 26:1-23; Esei 6:1; a Sech 14:5.
Neu “palas.”
Neu “Yna gorweddodd Asareia i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”
Neu “38ain flwyddyn.”
Neu “39ain flwyddyn.”
Neu “menywod.”
Neu “39ain flwyddyn.”
Roedd talent yn gyfartal â 34.2 kg (1,101 oz t).
Roedd sicl yn gyfartal ag 11.4 g (0.367 oz t).
Neu “Yna gorweddodd Menahem i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”
Neu “50fed.”
Neu “palas y brenin.”
Neu “52ain flwyddyn.”
Neu “20fed.”
Neu “Yna gorweddodd Jotham i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”