Ail Brenhinoedd 17:1-41

  • Hosea, brenin Israel (1-4)

  • Cwymp Israel (5, 6)

  • Pobl Israel yn cael eu caethgludo oherwydd eu gwrthgiliad (7-23)

  • Estroniaid yn cael eu symud i ddinasoedd Samaria (24-26)

  • Crefyddau amrywiol y Samariaid (27-41)

17  Yn y ddeuddegfed* flwyddyn o deyrnasiad Ahas brenin Jwda, daeth Hosea fab Ela yn frenin ar Israel yn Samaria; teyrnasodd am naw mlynedd.  Parhaodd i wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa, ond doedd ef ddim mor ddrwg â brenhinoedd Israel a ddaeth o’i flaen.  Daeth Salmaneser brenin Asyria i fyny yn ei erbyn, a daeth Hosea yn was iddo, a dechreuodd dalu trethi iddo.  Ond dysgodd brenin Asyria fod Hosea wedi bod yn cynllwynio yn ei erbyn drwy anfon negeswyr at So brenin yr Aifft, a thrwy beidio â thalu trethi i frenin Asyria fel roedd ef wedi gwneud yn y blynyddoedd cynt. Felly, gwnaeth brenin Asyria ei rwymo a’i garcharu.  Dyma frenin Asyria yn martsio* drwy’r wlad gyfan, a daeth i Samaria a gwarchae arni am dair blynedd.  Yn y nawfed flwyddyn o deyrnasiad Hosea, gwnaeth brenin Asyria gipio Samaria. Yna caethgludodd bobl Israel i Asyria a gwneud iddyn nhw fyw yn Hala ac yn Habor wrth afon Gosan ac yn ninasoedd y Mediaid.  Digwyddodd hyn am fod pobl Israel wedi pechu yn erbyn Jehofa eu Duw, yr un a oedd wedi dod â nhw i fyny allan o wlad yr Aifft lle roedden nhw o dan reolaeth Pharo, brenin yr Aifft. Roedden nhw’n addoli duwiau eraill,  roedden nhw’n dilyn arferion y cenhedloedd roedd Jehofa wedi eu gyrru allan o flaen yr Israeliaid, ac roedden nhw’n dilyn yr arferion roedd brenhinoedd Israel wedi eu sefydlu.  Roedd yr Israeliaid yn gwneud pethau a oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa eu Duw. Roedden nhw’n parhau i adeiladu uchelfannau yn eu dinasoedd i gyd, o dŵr gwylio i ddinas gaerog.* 10  Roedden nhw’n parhau i godi colofnau cysegredig a pholion cysegredig iddyn nhw eu hunain ar ben pob bryn uchel ac o dan bob coeden ddeiliog; 11  ac roedden nhw’n gwneud i fwg godi oddi ar eu haberthau ar yr uchelfannau i gyd, yn union fel roedd y cenhedloedd wedi gwneud, y rhai roedd Jehofa wedi eu gyrru allan o flaen yr Israeliaid. Roedden nhw’n dal ati i wneud pethau ofnadwy er mwyn digio Jehofa. 12  Roedden nhw’n parhau i wasanaethu eilunod ffiaidd,* er bod Jehofa wedi dweud wrthyn nhw am beidio â gwneud hynny. 13  Roedd Jehofa yn dal ati i rybuddio Israel a Jwda drwy ei holl broffwydi a thrwy bob gweledydd, gan ddweud: “Trowch yn ôl o’ch drygioni! Dilynwch fy ngorchmynion a fy neddfau yn ôl yr holl gyfraith gwnes i ei gorchymyn i’ch cyndadau, yr un gwnes i ei hanfon atoch chi drwy fy ngweision y proffwydi.” 14  Ond doedden nhw ddim yn gwrando, ac roedden nhw’n dal mor ystyfnig â’u cyndadau a oedd heb ddangos ffydd yn Jehofa eu Duw. 15  Roedden nhw’n parhau i wrthod ei ddeddfau, ei rybuddion, a’r cyfamod roedd ef wedi ei wneud â’u cyndadau, ac roedden nhw’n parhau i ddilyn eilunod diwerth, a daethon nhw eu hunain yn ddiwerth gan efelychu’r cenhedloedd o’u cwmpas nhw, y rhai roedd Jehofa wedi gorchymyn iddyn nhw beidio â’u hefelychu. 16  Gwnaethon nhw gefnu ar holl orchmynion Jehofa eu Duw dro ar ôl tro, a gwnaethon nhw bolyn cysegredig a delwau metel o ddau lo, a gwnaethon nhw ymgrymu i holl fyddin y nefoedd a gwasanaethu Baal. 17  Roedden nhw hefyd yn gwneud i’w meibion a’u merched fynd drwy’r tân, roedden nhw’n dewino ac yn chwilio am arwyddion,* ac roedden nhw’n dal ati i wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa, er mwyn ei ddigio. 18  Felly gwylltiodd Jehofa ag Israel, a’u gyrru nhw o’i olwg, gan adael dim ond llwyth Jwda ar ôl yn y wlad. 19  Ni wnaeth hyd yn oed Jwda gadw gorchmynion Jehofa eu Duw; gwnaethon nhw hefyd ddilyn yr un arferion ag Israel. 20  Gwrthododd Jehofa holl ddisgynyddion Israel, a dwyn gwarth arnyn nhw, a’u rhoi nhw yn nwylo eu gelynion, nes iddo yrru Israel allan o’r wlad. 21  Rhwygodd Israel i ffwrdd o dŷ Dafydd, a dyma nhw’n gwneud Jeroboam fab Nebat yn frenin. Ond gwnaeth Jeroboam achosi i Israel droi i ffwrdd rhag dilyn Jehofa, ac achosi iddyn nhw bechu yn ofnadwy. 22  A pharhaodd pobl Israel i gyflawni yr un pechodau ag yr oedd Jeroboam wedi eu cyflawni. Wnaethon nhw ddim cefnu arnyn nhw 23  nes i Jehofa yrru Israel allan o’i olwg, yn union fel roedd ef wedi cyhoeddi drwy ei holl weision y proffwydi. Felly cafodd pobl Israel eu caethgludo o’u gwlad i Asyria, ac maen nhw’n dal yno hyd heddiw. 24  Yna cymerodd brenin Asyria bobl o Fabilon, Cutha, Afa, Hamath, a Seffarfaim a’u setlo nhw yn ninasoedd Samaria yn lle’r Israeliaid; gwnaethon nhw feddiannu Samaria a byw yn eu dinasoedd. 25  Pan ddechreuon nhw fyw yno, doedden nhw ddim yn ofni* Jehofa, felly anfonodd Jehofa lewod yn eu plith, a gwnaethon nhw ladd rhai o’r bobl. 26  Cafodd hyn ei adrodd wrth frenin Asyria: “Dydy’r cenhedloedd rwyt ti wedi eu caethgludo a’u setlo yn ninasoedd Samaria ddim yn gwybod crefydd* Duw y wlad, felly mae’n parhau i anfon llewod yn eu plith sy’n eu lladd nhw, oherwydd does dim un ohonyn nhw yn gwybod crefydd Duw y wlad.” 27  Gyda hynny, gorchmynnodd brenin Asyria: “Anfonwch un o’r offeiriaid yn ôl i fyw yno, un o’r rhai y gwnaethoch chi eu caethgludo o fan ’na, er mwyn iddo ddysgu crefydd Duw y wlad iddyn nhw.” 28  Felly dyma un o’r offeiriaid a oedd wedi cael eu caethgludo o Samaria yn dod yn ôl i Fethel i fyw, a dechreuodd eu dysgu nhw sut y dylen nhw ofni* Jehofa. 29  Ond dyma bob cenedl wahanol yn gwneud duw* iddyn nhw eu hunain, a’u rhoi nhw yn yr addoldai ar yr uchelfannau roedd y Samariaid wedi eu gwneud. Dyna beth wnaeth pob cenedl yn y dinasoedd lle roedden nhw’n byw. 30  Felly dyma ddynion Babilon yn gwneud Succoth-benoth, dynion Cuth yn gwneud Nergal, dynion Hamath yn gwneud Asima, 31  a phobl Afa yn gwneud Nibhas a Tartac. Roedd pobl Seffarfaim yn llosgi eu meibion yn y tân i Adrammelech ac Anammelech, duwiau Seffarfaim. 32  Er eu bod nhw’n ofni Jehofa, gwnaethon nhw benodi offeiriaid ar gyfer yr uchelfannau o blith y bobl gyffredin, a gwasanaethodd y rhain ar eu rhan yn yr addoldai ar yr uchelfannau. 33  Felly roedden nhw’n ofni Jehofa ond yn addoli eu duwiau eu hunain yn ôl crefydd* eu gwledydd eu hunain. 34  Maen nhw’n dal i ddilyn eu hen arferion crefyddol* hyd heddiw. Does dim un ohonyn nhw yn addoli* Jehofa, nac yn dilyn ei ddeddfau, ei farnedigaethau, y Gyfraith, na’r gorchymyn a roddodd Jehofa i feibion Jacob, yr un gwnaeth Duw ei enwi’n Israel. 35  Pan wnaeth Jehofa gyfamod â nhw, gorchmynnodd iddyn nhw: “Mae’n rhaid ichi beidio ag ofni duwiau eraill, ac mae’n rhaid ichi beidio ag ymgrymu iddyn nhw na’u gwasanaethu nhw nac aberthu iddyn nhw. 36  Yn hytrach, Jehofa yw’r Un y dylech chi ei ofni, yr Un a ddaeth â chi i fyny allan o wlad yr Aifft â grym mawr a braich nerthol,* ac iddo ef y dylech chi ymgrymu, ac iddo ef y dylech chi aberthu. 37  Ac ynglŷn â’r deddfau, y barnedigaethau, y Gyfraith, a’r gorchymyn a ysgrifennodd i chi, dylech chi wastad eu dilyn nhw’n ofalus, ac mae’n rhaid ichi beidio ag ofni duwiau eraill. 38  Ac mae’n rhaid ichi beidio ag anghofio’r cyfamod a wnes i â chi, ac mae’n rhaid ichi beidio ag ofni duwiau eraill. 39  Yn hytrach, Jehofa eich Duw y dylech chi ei ofni, oherwydd ef yw’r un a fydd yn eich achub chi o law eich holl elynion.” 40  Ond doedden nhw ddim yn ufudd, ac roedden nhw’n parhau i ddilyn eu hen arferion crefyddol.* 41  Felly daeth y cenhedloedd hyn i ofni Jehofa, ond roedden nhw hefyd yn gwasanaethu’r delwau roedden nhw wedi eu cerfio. Mae eu meibion a’u hwyrion yn gwneud yn union fel gwnaeth eu cyndadau hyd heddiw.

Troednodiadau

Neu “12fed.”
Neu “gorymdeithio.”
Hynny yw, ym mhobman, o lefydd bach unig i lefydd mawr poblog.
Efallai bod y term Hebraeg yn gysylltiedig â gair am “garthion” ac mae’n cael ei ddefnyddio fel math o sarhad.
Neu “yn defnyddio ysbrydegaeth i ragweld y dyfodol.”
Neu “addoli.”
Neu “arferion crefyddol.”
Neu “addoli.”
Neu “duwiau.”
Neu “arferion crefyddol.”
Neu “hen grefyddau.”
Llyth., “ofni.”
Llyth., “braich wedi ei hestyn allan.”
Neu “hen grefydd.”