Ail Brenhinoedd 18:1-37

  • Heseceia, brenin Jwda (1-8)

  • Adolygiad o gwymp Israel (9-12)

  • Senacherib yn ymosod ar Jwda (13-18)

  • Y Rabshace yn herio Jehofa (19-37)

18  Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Hosea fab Ela brenin Israel, daeth Heseceia fab Ahas brenin Jwda yn frenin.  Roedd yn 25 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am 29 mlynedd yn Jerwsalem. Enw ei fam oedd Abi* ferch Sechareia.  Parhaodd i wneud beth oedd yn iawn yng ngolwg Jehofa, yn union fel roedd Dafydd ei gyndad wedi gwneud.  Ef oedd yr un a wnaeth gael gwared ar yr uchelfannau, malu’r colofnau cysegredig, a thorri’r polyn cysegredig i lawr. Gwnaeth ef hefyd chwalu’r neidr* gopr roedd Moses wedi ei gwneud; oherwydd tan hynny roedd pobl Israel wedi bod yn gwneud i fwg godi oddi ar eu haberthau o’i blaen ac roedd yr eilun yn arfer cael ei alw’n neidr* gopr.*  Roedd yn trystio Jehofa, Duw Israel; doedd neb tebyg iddo ymysg holl frenhinoedd Jwda a ddaeth o’i flaen nac ar ei ôl.  Roedd yn ffyddlon i Jehofa. Ni chefnodd arno; parhaodd i gadw’r gorchmynion roedd Jehofa wedi eu rhoi i Moses.  Ac roedd Jehofa gydag ef. Ble bynnag aeth ef, roedd yn ymddwyn yn ddoeth. Gwrthryfelodd yn erbyn brenin Asyria a gwrthododd ei wasanaethu.  Gwnaeth ef hefyd drechu’r Philistiaid hyd at Gasa a’i thiriogaethau, o dŵr gwylio i ddinas gaerog.*  Yn y bedwaredd flwyddyn o deyrnasiad y Brenin Heseceia, hynny yw, y seithfed flwyddyn o deyrnasiad Hosea fab Ela brenin Israel, daeth Salmaneser brenin Asyria i fyny yn erbyn Samaria a dechrau gwarchae arni. 10  Ar ôl tair blynedd gwnaethon nhw ei chipio; yn y chweched flwyddyn o deyrnasiad Heseceia, sef y nawfed flwyddyn o deyrnasiad Hosea brenin Israel, cafodd Samaria ei chipio. 11  Yna gwnaeth brenin Asyria gaethgludo Israel i Asyria a’u setlo nhw yn Hala ac yn Habor wrth afon Gosan ac yn ninasoedd y Mediaid. 12  Digwyddodd hyn am eu bod nhw heb wrando ar lais Jehofa eu Duw, ond wedi parhau i fynd yn erbyn ei gyfamod, popeth roedd Moses, gwas Jehofa, wedi ei orchymyn. Wnaethon nhw ddim gwrando nac ufuddhau. 13  Yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg* o deyrnasiad y Brenin Heseceia, daeth Senacherib brenin Asyria i fyny yn erbyn holl ddinasoedd caerog Jwda a’u cipio nhw. 14  Felly dyma Heseceia brenin Jwda yn anfon neges at frenin Asyria yn Lachis: “Arna i mae’r bai. Os byddi di’n cilio yn ôl oddi wrtho i, bydda i’n rhoi iti beth bynnag rwyt ti’n ei fynnu gen i.” Felly dyma frenin Asyria yn mynnu bod Heseceia brenin Jwda yn talu dirwy o 300 talent* o arian a 30 talent o aur. 15  Felly dyma Heseceia yn rhoi iddo yr holl arian a oedd yn nhŷ Jehofa ac yn nhrysordai tŷ’r brenin.* 16  Bryd hynny, gwnaeth Heseceia brenin Jwda dynnu drysau teml Jehofa i ffwrdd, yn ogystal â’r fframiau drws roedd ef ei hun wedi eu gorchuddio ag aur, a’u rhoi nhw i frenin Asyria. 17  Wedyn, dyma frenin Asyria yn anfon y Tartan,* y Rabsaris,* a’r Rabshace* gyda byddin enfawr o Lachis at y Brenin Heseceia yn Jerwsalem. Aethon nhw i fyny i Jerwsalem a gosod eu hunain wrth sianel ddŵr y pwll uchaf, sydd wrth y briffordd sy’n arwain at gae y golchwyr dillad. 18  Pan wnaethon nhw alw am i’r brenin ddod allan, dyma Eliacim fab Hilceia, a oedd yn gyfrifol am dŷ’r brenin,* Sebna yr ysgrifennydd, a Joa fab Asaff y cofnodydd yn dod allan atyn nhw. 19  Felly dywedodd y Rabshace wrthyn nhw: “Plîs dywedwch wrth Heseceia, ‘Dyma beth mae’r brenin mawr, brenin Asyria, yn ei ddweud: “Pam rwyt ti mor hyderus? 20  Rwyt ti’n dweud, ‘Mae gen i strategaeth a’r grym sydd ei angen i ryfela,’ ond geiriau gwag ydy’r rhain. Pwy rwyt ti’n ei drystio, fel dy fod ti’n meiddio gwrthryfela yn fy erbyn i? 21  Edrycha! Rwyt ti’n trystio cefnogaeth yr Aifft sydd fel corsen bigog.* Petai dyn yn pwyso arni, byddai’n anafu cledr ei law. Dyna sy’n digwydd i’r rhai sy’n trystio Pharo brenin yr Aifft. 22  Ac a ydych chi am ddweud wrtho i, ‘Rydyn ni’n trystio Jehofa ein Duw’? Onid ydy Heseceia wedi cael gwared ar ei uchelfannau a’i allorau Ef, ac wedi dweud wrth Jwda a Jerwsalem, ‘Dylech chi ymgrymu o flaen yr allor hon yn Jerwsalem’?”’ 23  Felly nawr, beth am daro’r fargen hon gyda fy arglwydd, brenin Asyria? Bydda i’n rhoi 2,000 o geffylau iti os gelli di ddod o hyd i ddigon o farchogion ar eu cyfer nhw. 24  Felly sut gallet ti yrru yn ôl hyd yn oed un llywodraethwr o blith gweision lleiaf fy arglwydd, tra dy fod ti’n dibynnu ar yr Aifft am gerbydau a marchogion? 25  Nawr, a ydw i wedi dod i fyny yn erbyn y lle hwn i’w ddinistrio heb ganiatâd gan Jehofa? Dywedodd Jehofa ei hun wrtho i, ‘Dos i fyny yn erbyn y wlad hon a’i dinistrio.’” 26  Gyda hynny, dywedodd Eliacim fab Hilceia, a Sebna a Joa wrth y Rabshace: “Siarada â dy weision, plîs, yn yr iaith Aramaeg,* oherwydd gallwn ni ei deall; paid â siarad â ni yn iaith yr Iddewon yng nghlyw’r bobl ar y wal.” 27  Ond dywedodd y Rabshace wrthyn nhw: “Ai dim ond atoch chi, ac at eich arglwydd chi, mae fy arglwydd wedi fy anfon i ddweud y geiriau hyn? Onid ydy’r neges hefyd ar gyfer y dynion sy’n eistedd ar y wal, y rhai a fydd, fel chithau, yn bwyta eu carthion eu hunain ac yn yfed eu dŵr* eu hunain?” 28  Yna safodd y Rabshace a gweiddi’n uchel yn iaith yr Iddewon, gan ddweud: “Gwrandewch ar neges y brenin mawr, brenin Asyria. 29  Dyma mae’r brenin yn ei ddweud, ‘Peidiwch â gadael i Heseceia eich twyllo chi, oherwydd dydy ef ddim yn gallu eich achub chi o fy llaw i. 30  A pheidiwch â gadael i Heseceia eich perswadio chi i drystio Jehofa drwy ddweud: “Bydd Jehofa yn sicr yn ein hachub ni, ac ni fydd y ddinas hon yn syrthio i ddwylo brenin Asyria.” 31  Peidiwch â gwrando ar Heseceia, oherwydd dyma mae brenin Asyria yn ei ddweud: “Gwnewch heddwch â mi ac ildiwch imi, a bydd pob un ohonoch chi yn bwyta o’i winwydden ei hun ac o’i goeden ffigys ei hun ac yn yfed dŵr o’i ffynnon ei hun, 32  nes bydda i’n dod ac yn eich cymryd chi i wlad fel eich gwlad eich hunain, gwlad o rawn a gwin newydd, gwlad o fara a gwinllannoedd, gwlad o goed olewydd a mêl. Yna byddwch chi’n byw yn hytrach na marw. Peidiwch â gwrando ar Heseceia, oherwydd mae’n eich camarwain chi drwy ddweud, ‘Bydd Jehofa yn ein hachub ni.’ 33  A ydy duw unrhyw un o’r cenhedloedd wedi achub ei wlad allan o law brenin Asyria? 34  Lle mae duwiau Hamath ac Arpad? Lle mae duwiau Seffarfaim, Hena, ac Ifa? Ydyn nhw wedi achub Samaria allan o fy llaw? 35  Pwy ymysg holl dduwiau’r cenhedloedd sydd wedi achub ei wlad o fy llaw? Felly sut gall Jehofa achub Jerwsalem allan o fy llaw i?”’” 36  Ond arhosodd y bobl yn dawel, a wnaethon nhw ddim dweud gair i’w ateb, oherwydd gorchymyn y brenin oedd, “Mae’n rhaid ichi beidio â’i ateb.” 37  Ond daeth Eliacim fab Hilceia, a oedd yn gyfrifol am dŷ’r brenin,* Sebna yr ysgrifennydd, a Joa fab Asaff y cofnodydd at Heseceia gyda’u dillad wedi eu rhwygo a dweud wrtho beth roedd y Rabshace wedi ei ddweud.

Troednodiadau

Talfyriad o’r enw Abeia.
Neu “sarff.”
Neu “sarff.”
Neu “cael ei alw’n Nehustan.”
Hynny yw, ym mhobman, o lefydd bach unig i lefydd mawr poblog.
Neu “14eg flwyddyn.”
Roedd talent yn gyfartal â 34.2 kg (1,101 oz t).
Neu “palas y brenin.”
Neu “cadlywydd.”
Neu “prif swyddog llys.”
Neu “prif was gweini; prif drulliad.”
Neu “am balas y brenin.”
Neu “corsen wedi ei thorri.”
Neu “Syrieg.”
Llyth., “wrin.”
Neu “am balas y brenin.”