Ail Brenhinoedd 19:1-37

  • Heseceia yn ceisio help Duw drwy Eseia (1-7)

  • Senacherib yn bygwth Jerwsalem (8-13)

  • Gweddi Heseceia (14-19)

  • Eseia yn cyfleu ateb Duw (20-34)

  • Angel yn lladd 185,000 o Asyriaid (35-37)

19  Pan glywodd y Brenin Heseceia am hyn, rhwygodd ei ddillad a gwisgo sachliain a mynd i mewn i dŷ Jehofa.  Yna gwnaeth Heseceia anfon Eliacim a oedd yn gyfrifol am y tŷ,* Sebna yr ysgrifennydd, a henuriaid yr offeiriaid, a oedd i gyd yn gwisgo sachliain, at y proffwyd Eseia fab Amos.  Dywedon nhw wrtho: “Dyma beth mae Heseceia yn ei ddweud, ‘Mae’r diwrnod hwn yn ddiwrnod o helynt, cerydd,* a chywilydd; oherwydd mae’r plant yn barod i gael eu geni ond does ’na ddim nerth i’w geni nhw.  Efallai bydd Jehofa dy Dduw yn clywed holl eiriau’r Rabshace, yr un gwnaeth ei arglwydd, brenin Asyria, ei anfon i herio’r Duw byw, a bydd yn ei alw i gyfri am y geiriau gwnaeth Jehofa dy Dduw eu clywed. Felly gweddïa ar ran y rhai sydd ar ôl, y rhai sydd wedi goroesi.’”  Felly aeth gweision y Brenin Heseceia i mewn at Eseia,  a dywedodd Eseia wrthyn nhw: “Dyma beth dylech chi ei ddweud wrth eich arglwydd, ‘Dyma mae Jehofa yn ei ddweud: “Paid ag ofni oherwydd y geiriau gwnest ti eu clywed, y geiriau a ddywedodd gweision brenin Asyria er mwyn fy nghablu i.  Rydw i am blannu syniad yn ei ben, a bydd yn clywed adroddiad ac yn mynd yn ôl i’w wlad ei hun; a bydda i’n achosi iddo gael ei ladd â’r cleddyf yn ei wlad ei hun.”’”  Ar ôl i’r Rabshace glywed bod brenin Asyria wedi cilio yn ôl oddi wrth Lachis, aeth yn ôl ato a dod o hyd iddo yn brwydro yn erbyn Libna.  Nawr, clywodd y brenin fod Tirhaca brenin Ethiopia wedi dod allan i frwydro yn ei erbyn. Felly anfonodd negeswyr at Heseceia unwaith eto, yn dweud: 10  “Dyma beth dylech chi ei ddweud wrth Heseceia brenin Jwda, ‘Paid â gadael i dy Dduw, yr un rwyt ti’n ei drystio, dy dwyllo di drwy ddweud: “Fydd Jerwsalem ddim yn syrthio i law brenin Asyria.” 11  Edrycha! Rwyt ti wedi clywed bod brenhinoedd Asyria wedi dinistrio’r gwledydd i gyd yn llwyr. Ai ti yn unig fydd yn cael dy achub? 12  A wnaeth duwiau’r cenhedloedd, y rhai a gafodd eu dinistrio gan fy nghyndadau, eu hachub nhw? Lle mae Gosan, Haran, Reseff, a phobl Eden a oedd yn byw yn Telassar? 13  Lle mae brenin Hamath, brenin Arpad, a brenin dinasoedd Seffarfaim, a Hena, ac Ifa?’” 14  Cymerodd Heseceia y llythyrau oddi wrth y negeswyr a’u darllen nhw. Yna aeth Heseceia i fyny i dŷ Jehofa a’u gosod nhw allan o flaen Jehofa. 15  A dechreuodd Heseceia weddïo o flaen Jehofa, gan ddweud: “O Jehofa, Duw Israel, sy’n eistedd ar dy orsedd uwchben* y cerwbiaid, ti yn unig yw gwir Dduw holl deyrnasoedd y ddaear. Ti a wnaeth greu’r nefoedd a’r ddaear. 16  Gwranda, O Jehofa, a chlywed! Agora dy lygaid, O Jehofa, a gweld! Gwranda ar eiriau’r neges mae Senacherib wedi ei hanfon er mwyn herio’r Duw byw. 17  Mae’n ffaith, O Jehofa, fod brenhinoedd Asyria wedi difa’r cenhedloedd a’u tiroedd. 18  Ac maen nhw wedi taflu eu duwiau i’r tân, oherwydd doedden nhw ddim yn dduwiau, ond yn waith dwylo wedi eu gwneud o bren a cherrig. Dyna pam roedden nhw’n gallu eu dinistrio nhw. 19  Ond nawr, O Jehofa ein Duw, plîs achuba ni o’i law, fel bydd holl deyrnasoedd y ddaear yn gwybod mai ti yn unig sydd Dduw, O Jehofa.” 20  Yna anfonodd Eseia fab Amos y neges hon at Heseceia: “Dyma mae Jehofa, Duw Israel, yn ei ddweud, ‘Rydw i wedi dy glywed di’n gweddïo arna i ynglŷn â Senacherib brenin Asyria. 21  Dyma beth mae Jehofa wedi ei ddweud yn ei erbyn: “Mae’r ferch wyryf Seion yn dy gasáu di, mae hi’n dy wawdio di. Mae’r ferch Jerwsalem yn ysgwyd ei phen arnat ti. 22  Pwy rwyt ti wedi ei herio a’i gablu? Yn erbyn pwy rwyt ti wedi codi dy laisAc wedi edrych arno’n hy? Yn erbyn Un Sanctaidd Israel! 23  Drwy dy negeswyr rwyt ti wedi herio Jehofa a dweud,‘Gyda fy llu o gerbydau rhyfelBydda i’n dringo i ben mynyddoedd,I rannau mwyaf anghysbell Lebanon. Bydda i’n torri i lawr ei choed cedrwydd uchel, ei choed meryw gorau. Bydda i’n cyrraedd ei hardaloedd pellaf, ei choedwigoedd mwyaf trwchus. 24  Bydda i’n cloddio ffynhonnau dŵr ac yn yfed dŵr estron;Bydda i’n sychu holl nentydd yr Aifft gyda gwadnau fy nhraed.’ 25  Onid wyt ti wedi clywed? Rydw i wedi penderfynu ers tro. Gwnes i drefnu hyn amser maith yn ôl. Nawr bydda i’n achosi iddo ddigwydd. Byddi di’n difetha dinasoedd caerog ac yn eu troi nhw’n bentyrrau o adfeilion anial. 26  Fydd y bobl sy’n byw yno yn gallu gwneud dim;Byddan nhw wedi dychryn ac wedi cael eu cywilyddio. Byddan nhw mor wan â phlanhigion y cae a glaswellt,*Fel y glaswellt* ar y toeau sy’n cael ei losgi gan wynt y dwyrain. 27  Ond rydw i’n gwybod yn iawn pryd rwyt ti’n eistedd, pryd rwyt ti’n mynd allan, pryd rwyt ti’n dod i mewn,A phryd rwyt ti’n gwylltio yn fy erbyn i, 28  Oherwydd mae dy ddicter yn fy erbyn i a dy ruo wedi cyrraedd fy nghlustiau. Felly bydda i’n rhoi fy machyn yn dy drwyn a fy ffrwyn rhwng dy wefusau,A bydda i’n dy arwain di yn ôl ar hyd y ffordd y dest ti.” 29  “‘Dyma fydd yr arwydd i ti:* Y flwyddyn hon byddwch chi’n bwyta beth sy’n tyfu ar ei ben ei hun; ac yn yr ail flwyddyn byddwch chi’n bwyta grawn sy’n tyfu o hynny; ond yn y drydedd flwyddyn byddwch chi’n hau hadau ac yn medi, a byddwch chi’n plannu gwinllannoedd ac yn bwyta eu ffrwyth. 30  Bydd y rhai o dŷ Jwda sy’n dianc, y rhai sydd ar ôl, fel planhigyn sydd wedi gwreiddio’n ddwfn ac sy’n cynhyrchu llawer o ffrwyth. 31  Bydd rhai yn gadael Jerwsalem yn fyw, ie, bydd rhai yn dianc o Fynydd Seion. Bydd Jehofa y lluoedd yn gwneud hyn oherwydd ei sêl. 32  “‘Felly dyma mae Jehofa yn ei ddweud am frenin Asyria: “Ni fydd ef yn dod i mewn i’r ddinas honNac yn saethu saeth i mewn iddiNac yn ymosod arni â tharianNac yn codi ramp yn erbyn wal y ddinas er mwyn gwarchae arni. 33  Bydd yn mynd yn ôl ar hyd y ffordd y daeth;Ni fydd ef yn dod i mewn i’r ddinas hon,” meddai Jehofa. 34  “Bydda i’n amddiffyn y ddinas hon ac yn ei hachub er mwyn fy enw iAc er mwyn fy ngwas Dafydd.”’” 35  Y noson honno, aeth angel Jehofa allan a tharo 185,000 o ddynion i lawr yng ngwersyll yr Asyriaid. Y bore wedyn, dyma’r bobl a oedd wedi codi’n gynnar yn gweld yr holl gyrff meirw. 36  Felly gadawodd Senacherib brenin Asyria a mynd yn ôl i Ninefe ac aros yno. 37  Ac wrth iddo ymgrymu yn nhŷ* ei dduw Nisroch, dyma ei feibion ei hun, Adrammelech a Sareser, yn ei daro i lawr â’r cleddyf ac yna’n ffoi i wlad Ararat. A daeth ei fab Esar-hadon yn frenin yn ei le.

Troednodiadau

Neu “palas.”
Neu “sarhad.”
Neu efallai, “rhwng.”
Neu “a phorfa.”
Neu “y borfa.”
Hynny yw, Heseceia.
Neu “yn nheml.”