Ail Brenhinoedd 2:1-25

  • Elias yn cael ei gymryd i fyny mewn storm wynt (1-18)

    • Eliseus yn cael dilledyn swyddogol Elias (13, 14)

  • Eliseus yn puro dŵr Jericho (19-22)

  • Eirth yn lladd bechgyn ifanc o Fethel (23-25)

2  Pan oedd Jehofa ar fin cymryd Elias i fyny i’r nefoedd* mewn storm wynt, aeth Elias ac Eliseus allan o Gilgal.  Dywedodd Elias wrth Eliseus: “Arhosa yma plîs, oherwydd mae Jehofa wedi fy anfon i ymlaen i Fethel.” Ond dywedodd Eliseus: “Mor sicr â’r ffaith fod Jehofa a tithau yn fyw, wna i ddim dy adael di.” Felly aethon nhw i lawr i Fethel.  Yna daeth meibion y proffwydi* ym Methel allan at Eliseus a dweud wrtho: “Wyt ti’n gwybod y bydd Jehofa yn cymryd dy feistr i ffwrdd heddiw, ac na fydd yn ben arnat ti bellach?” Atebodd: “Ydw, rydw i’n gwybod. Peidiwch â sôn am y peth.”  Nawr dywedodd Elias wrtho: “Arhosa yma plîs Eliseus, oherwydd mae Jehofa wedi fy anfon i ymlaen i Jericho.” Ond dywedodd: “Mor sicr â’r ffaith fod Jehofa a tithau yn fyw, wna i ddim dy adael di.” Felly dyma nhw’n mynd i Jericho.  Yna daeth meibion y proffwydi a oedd yn Jericho at Eliseus a dweud wrtho: “Wyt ti’n gwybod y bydd Jehofa yn cymryd dy feistr i ffwrdd heddiw, ac na fydd yn ben arnat ti bellach?” I hynny dywedodd: “Ydw, rydw i’n gwybod. Peidiwch â sôn am y peth.”  Nawr dywedodd Elias wrtho: “Arhosa yma plîs, oherwydd mae Jehofa wedi fy anfon i ymlaen at yr Iorddonen.” Ond dywedodd: “Mor sicr â’r ffaith fod Jehofa a tithau yn fyw, wna i ddim dy adael di.” Felly aeth y ddau ohonyn nhw yn eu blaenau.  A dyma 50 o feibion y proffwydi yn eu dilyn ac yn gwylio o bellter tra bod y ddau ohonyn nhw yn sefyll wrth yr Iorddonen.  Yna cymerodd Elias ei ddilledyn swyddogol a’i rolio i fyny a tharo’r dŵr gan rannu’r afon yn ddwy, i’r chwith ac i’r dde, fel bod y ddau ohonyn nhw yn gallu croesi ar dir sych.  Unwaith iddyn nhw groesi, dywedodd Elias wrth Eliseus: “Dyweda wrtho i beth rwyt ti eisiau imi ei wneud drostot ti cyn imi gael fy nghymryd oddi wrthot ti.” Felly dywedodd Eliseus: “Plîs ga i siâr ddwbl o dy ysbryd di?” 10  Atebodd: “Rwyt ti wedi gofyn am rywbeth anodd. Os byddi di’n fy ngweld i pan fydda i’n cael fy nghymryd oddi wrthot ti, byddi di’n cael hynny; ond os na fyddi di’n fy ngweld i, fyddi di ddim yn cael hynny.” 11  Fel roedden nhw’n cerdded ac yn sgwrsio, yn sydyn dyma gerbyd tanllyd a cheffylau tanllyd yn dod rhyngddyn nhw, a chafodd Elias ei gymryd i fyny i’r nefoedd* yn y storm wynt. 12  Tra oedd Eliseus yn gwylio, roedd yn gweiddi: “Fy nhad, fy nhad! Cerbyd Israel a’i farchogion!” Pan nad oedd yn gallu ei weld bellach, gafaelodd yn ei ddillad ei hun a’u rhwygo’n ddau. 13  Ar ôl hynny, cododd ef ddilledyn swyddogol Elias a oedd wedi syrthio oddi arno a mynd yn ôl a sefyll wrth lan yr Iorddonen. 14  Yna cymerodd ddilledyn swyddogol Elias a oedd wedi syrthio oddi arno a tharo’r dŵr a dweud: “Ble mae Jehofa, Duw Elias?” Pan wnaeth ef daro’r dŵr, cafodd yr afon ei rhannu i’r chwith ac i’r dde, fel bod Elias yn gallu croesi. 15  Unwaith i feibion y proffwydi yn Jericho ei weld o bellter, dywedon nhw: “Mae ysbryd Elias wedi disgyn ar Eliseus.” Felly aethon nhw i’w gyfarfod ac ymgrymu ar y llawr o’i flaen. 16  Dywedon nhw wrtho: “Mae ’na 50 o ddynion medrus ymysg dy weision. Gad iddyn nhw fynd, plîs, i chwilio am dy feistr. Efallai bod ysbryd* Jehofa wedi ei godi a’i daflu ar un o’r mynyddoedd neu i un o’r dyffrynnoedd.” Ond dywedodd: “Peidiwch â’u hanfon nhw.” 17  Ond, dalion nhw ati i bwyso arno nes ei fod yn teimlo’n anghyfforddus, felly dywedodd: “Anfonwch nhw.” Felly dyma nhw’n anfon y 50 dyn ac aethon nhw i chwilio amdano am dri diwrnod ond ddaethon nhw ddim o hyd iddo. 18  Pan ddaethon nhw yn ôl ato, roedd yn aros yn Jericho. Dywedodd wrthyn nhw: “Oni wnes i ddweud wrthoch chi am beidio â mynd?” 19  Ymhen amser dywedodd dynion y ddinas wrth Eliseus: “Mae fy meistr yn gallu gweld bod y ddinas mewn lleoliad da; ond mae’r dŵr yn wael, ac mae’r tir yn ddiffrwyth.”* 20  Gyda hynny dywedodd: “Dewch â phowlen fach newydd imi a rhowch halen ynddi.” Felly daethon nhw ag un ato. 21  Yna aeth allan at lygad y ffynnon a thaflu halen i mewn iddi a dweud: “Dyma mae Jehofa yn ei ddweud, ‘Rydw i wedi puro’r dŵr hwn. Ni fydd yn achosi marwolaeth na diffrwythder* bellach.’” 22  Ac mae’r dŵr yn bur hyd heddiw, yn ôl beth ddywedodd Eliseus. 23  Aeth i fyny o fan ’na i Fethel. Tra oedd ar ei ffordd, daeth rhai bechgyn ifanc allan o’r ddinas a dechrau gwneud hwyl am ei ben, gan weiddi arno: “Dos o ’ma’r pen moel! Dos o ’ma’r pen moel!” 24  O’r diwedd dyma’n troi i edrych arnyn nhw ac yn eu melltithio nhw yn enw Jehofa. Yna daeth dwy arth* allan o’r goedwig a rhwygo 42 o’r plant yn ddarnau. 25  Aeth yn ei flaen i Fynydd Carmel, ac yna aeth yn ôl i Samaria.

Troednodiadau

Neu “awyr.”
Mae’n ymddangos bod “meibion y proffwydi” yn cyfeirio at ysgol hyfforddi ar gyfer proffwydi, neu at gymdeithas o broffwydi.
Neu “awyr.”
Neu “gwynt.”
Neu efallai, “mae’r tir yn gwneud i ferched beichiog golli eu plant.”
Neu efallai, “nac yn gwneud i ferched beichiog golli eu plant.”
Llyth., “arthes.”