Ail Brenhinoedd 20:1-21
20 Yn y dyddiau hynny aeth Heseceia mor sâl nes ei fod ar fin marw. Daeth y proffwyd Eseia fab Amos ato a dweud wrtho, “Dyma mae Jehofa yn ei ddweud: ‘Rho drefn ar dy bethau, oherwydd byddi di’n marw; fyddi di ddim yn gwella.’”
2 Gyda hynny, trodd ei wyneb at y wal a dechrau gweddïo ar Jehofa:
3 “Rydw i’n erfyn arnat ti, O Jehofa, cofia, plîs, sut rydw i wedi dy ddilyn di yn ffyddlon ac â chalon gyflawn, a sut rydw i wedi gwneud beth sy’n dda yn dy olwg di.” A dechreuodd Heseceia feichio crio.
4 Doedd Eseia ddim eto wedi mynd allan i’r cwrt canol pan ddaeth gair Jehofa ato yn dweud:
5 “Dos yn ôl i ddweud wrth Heseceia, arweinydd fy mhobl, ‘Dyma mae Jehofa, Duw Dafydd dy gyndad, yn ei ddweud: “Rydw i wedi clywed dy weddi. Rydw i wedi gweld dy ddagrau. Rydw i am dy iacháu di. Ar y trydydd diwrnod, byddi di’n mynd i fyny i dŷ Jehofa.
6 Bydda i’n ychwanegu 15 mlynedd at dy fywyd, a bydda i’n dy achub di a’r ddinas hon allan o law brenin Asyria, a bydda i’n amddiffyn y ddinas hon er mwyn fy enw i ac er mwyn Dafydd fy ngwas.”’”
7 Yna dywedodd Eseia wrth weision y brenin: “Dewch â chacen o ffigys sych wedi eu gwasgu.” Felly dyma nhw’n gwneud hynny ac yn ei rhoi ar y chwydd,* ac fesul tipyn, daeth ei iechyd yn ôl.
8 Roedd Heseceia wedi gofyn i Eseia: “Sut bydda i’n gwybod y bydd Jehofa yn fy iacháu i, ac y bydda i’n mynd i fyny i dŷ Jehofa ar y trydydd diwrnod?”
9 Atebodd Eseia: “Dyma’r arwydd oddi wrth Jehofa i ddangos iti y bydd Jehofa yn gwneud beth mae ef wedi ei ddweud: A wyt ti eisiau i’r cysgod ar y grisiau symud ymlaen ddeg stepen, neu yn ôl ddeg stepen?”
10 Dywedodd Heseceia: “Mae’n beth hawdd i’r cysgod symud ymlaen ddeg stepen, ond ddim i fynd yn ôl ddeg stepen.”
11 Felly dyma Eseia y proffwyd yn galw ar Jehofa, a dyma Ef yn gwneud i’r cysgod ar risiau Ahas fynd yn ôl ddeg stepen, er ei fod eisoes wedi mynd i lawr y grisiau.
12 Bryd hynny, dyma frenin Babilon, Berodach-baladan fab Baladan, yn anfon llythyrau ac anrheg at Heseceia, oherwydd clywodd fod Heseceia wedi bod yn sâl.
13 Dyma Heseceia yn croesawu’r negeswyr, ac yn dangos ei drysordy cyfan iddyn nhw—yr arian, yr aur, yr olew balm a’r olewon gwerthfawr eraill, ei arfdy, a phopeth oedd yn ei drysordai. Doedd ’na ddim byd yn ei dŷ* ei hun na’i deyrnas nad oedd Heseceia wedi ei ddangos iddyn nhw.
14 Ar ôl hynny, daeth Eseia y proffwyd i mewn at y Brenin Heseceia a gofyn iddo: “Beth ddywedodd y dynion hyn, ac o le daethon nhw?” Felly atebodd Heseceia: “Daethon nhw o wlad bell, o Fabilon.”
15 Nesaf, gofynnodd: “Beth welson nhw yn dy dŷ?”* Atebodd Heseceia: “Gwelson nhw bopeth yn fy nhŷ.* Does ’na ddim byd yn fy nhrysordai nad ydyn nhw wedi ei weld.”
16 Nawr dywedodd Eseia wrth Heseceia: “Gwranda ar air Jehofa,
17 ‘Edrycha! Mae dyddiau yn dod pan fydd popeth sydd yn dy dŷ,* a phopeth mae dy gyndadau wedi ei gasglu hyd heddiw, yn cael ei gario i ffwrdd i Fabilon. Fydd dim byd ar ôl,’ meddai Jehofa.
18 ‘A bydd rhai o’r disgynyddion a fydd yn cael eu geni iti yn cael eu cymryd i ffwrdd, ac yn dod yn swyddogion llys ym mhalas brenin Babilon.’”
19 Gyda hynny, dywedodd Heseceia wrth Eseia: “Mae’r neges rwyt ti wedi ei rhoi imi oddi wrth Jehofa yn dda.” Yna ychwanegodd: “Rydw i’n ddiolchgar y bydd ’na heddwch a sefydlogrwydd tra bydda i’n fyw.”
20 Ynglŷn â gweddill hanes Heseceia, ei holl weithredoedd nerthol, a sut gwnaeth ef adeiladu’r pwll a’r sianel ddŵr a dod â dŵr i mewn i’r ddinas, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Jwda?
21 Yna bu farw Heseceia,* a daeth ei fab Manasse yn frenin yn ei le.
Troednodiadau
^ Neu “cornwyd.”
^ Neu “yn ei balas.”
^ Neu “yn dy balas.”
^ Neu “yn fy mhalas.”
^ Neu “yn dy balas.”
^ Neu “Yna gorweddodd Heseceia i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”