Ail Brenhinoedd 21:1-26

  • Manasse, brenin Jwda; ei bechodau (1-18)

    • Jerwsalem am gael ei dinistrio (12-15)

  • Amon, brenin Jwda (19-26)

21  Roedd Manasse yn 12 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am 55 mlynedd yn Jerwsalem. Enw ei fam oedd Heffsiba.  Gwnaeth beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa, gan ddilyn arferion ffiaidd y cenhedloedd roedd Jehofa wedi eu gyrru allan o flaen pobl Israel.  Ailadeiladodd yr uchelfannau roedd ei dad Heseceia wedi eu dinistrio, a chododd bolyn cysegredig ac allorau i Baal, yn union fel roedd Ahab brenin Israel wedi gwneud. Ac ymgrymodd i holl fyddin y nefoedd a’u gwasanaethu nhw.  Hefyd, adeiladodd allorau yn nhŷ Jehofa, y lle roedd Jehofa wedi dweud amdano: “Yn Jerwsalem y bydda i’n rhoi fy enw.”  Ac adeiladodd allorau i holl fyddin y nefoedd mewn dau gwrt yn nhŷ Jehofa.  A gwnaeth i’w fab ei hun fynd drwy’r tân; roedd yn dewino, yn chwilio am arwyddion,* ac yn penodi cyfryngwyr ysbrydion* a phobl sy’n dweud ffortiwn. Gwnaeth ar raddfa enfawr beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa, er mwyn ei ddigio.  Rhoddodd y ddelw a oedd wedi ei cherfio, sef y polyn cysegredig roedd ef wedi ei wneud, yn y tŷ roedd Jehofa wedi sôn amdano wrth Dafydd a’i fab Solomon, gan ddweud: “Bydda i’n rhoi fy enw i yn barhaol yn y tŷ hwn ac yn Jerwsalem, y lle rydw i wedi ei ddewis allan o holl lwythau Israel.  A fydda i byth eto yn gyrru pobl Israel o’r wlad y gwnes i ei rhoi i’w cyndadau, ar yr amod eu bod nhw’n cadw at yr holl orchmynion rydw i wedi eu rhoi iddyn nhw, y Gyfraith gyfan y gwnaeth fy ngwas Moses orchymyn iddyn nhw ei dilyn.”  Ond wnaethon nhw ddim ufuddhau, a pharhaodd Manasse i’w harwain nhw ar gyfeiliorn, gan achosi iddyn nhw wneud pethau gwaeth na’r cenhedloedd roedd Jehofa wedi eu dinistrio o flaen yr Israeliaid. 10  Parhaodd Jehofa i siarad drwy ei weision y proffwydi, gan ddweud: 11  “Mae Manasse brenin Jwda wedi gwneud yr holl bethau ffiaidd hyn; mae ef wedi ymddwyn yn waeth na’r holl Amoriaid o’i flaen, ac mae ef wedi achosi i Jwda bechu gyda’i eilunod ffiaidd.* 12  Felly dyma mae Jehofa, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Bydda i’n dod â’r fath ddinistr ar Jerwsalem a Jwda fel y bydd yn dychryn pwy bynnag sy’n clywed am y peth.* 13  A bydda i’n estyn yr un llinyn mesur ar Jerwsalem ag y gwnes i ei ddefnyddio ar Samaria ac yn defnyddio yr un llinyn plwm* ag y gwnes i ei ddefnyddio ar dŷ Ahab, a bydda i’n sychu Jerwsalem yn lân, yn union fel mae rhywun yn sychu powlen yn lân, gan ei sychu a’i throi hi ben i waered. 14  Bydda i’n cefnu ar weddill fy etifeddiaeth ac yn eu rhoi nhw yn nwylo eu gelynion, a byddan nhw a’u heiddo yn ysbail i’w holl elynion, 15  oherwydd gwnaethon nhw beth oedd yn ddrwg yn fy ngolwg i, ac maen nhw wedi fy ngwylltio i dro ar ôl tro o’r diwrnod daeth eu cyndadau allan o’r Aifft hyd heddiw.’” 16  Hefyd gwnaeth Manasse dywallt* llawer iawn o waed dieuog nes iddo lenwi Jerwsalem o un pen i’r llall, heb sôn am ei bechod o achosi i Jwda bechu drwy wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa. 17  Ynglŷn â gweddill hanes Manasse, popeth a wnaeth a’r pechodau a gyflawnodd ef, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Jwda? 18  Yna bu farw Manasse* a chafodd ei gladdu yng ngardd ei dŷ, yng ngardd Ussa; a daeth ei fab Amon yn frenin yn ei le. 19  Roedd Amon yn 22 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am ddwy flynedd yn Jerwsalem. Enw ei fam oedd Mesulemeth, merch Harus o Jotba. 20  Parhaodd i wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa, yn union fel roedd ei dad Manasse wedi gwneud. 21  Dilynodd ôl traed ei dad, a pharhaodd i wasanaethu yr eilunod ffiaidd roedd ei dad wedi eu gwasanaethu ac ymgrymu iddyn nhw. 22  Felly cefnodd ar Jehofa, Duw ei gyndadau, ac ni cherddodd yn ffyrdd Jehofa. 23  Yn y pen draw, cynllwyniodd gweision Amon yn ei erbyn a lladd y brenin yn ei dŷ ei hun. 24  Ond dyma bobl y wlad yn taro i lawr bawb oedd wedi cynllwynio yn erbyn y Brenin Amon, ac yn gwneud ei fab Joseia yn frenin yn ei le. 25  Ynglŷn â gweddill hanes Amon, beth wnaeth ef, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Jwda? 26  Felly gwnaethon nhw ei gladdu yn ei fedd yng ngardd Ussa, a daeth ei fab Joseia yn frenin yn ei le.

Troednodiadau

Neu “yn defnyddio ysbrydegaeth i ragweld y dyfodol.”
Hynny yw, pobl sy’n honni eu bod nhw’n gallu siarad â’r meirw.
Efallai bod y term Hebraeg yn gysylltiedig â gair am “garthion” ac mae’n cael ei ddefnyddio fel math o sarhad.
Llyth., “fel y bydd yn gwneud i ddwy glust pwy bynnag sy’n clywed am y peth ferwino.”
Neu “yr un lefel.”
Neu “arllwys.”
Neu “Yna gorweddodd Manasse i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”