Ail Brenhinoedd 23:1-37
23 Felly dyma’r brenin yn galw holl henuriaid Jwda a Jerwsalem ac yn eu casglu nhw at ei gilydd.
2 Yna aeth y brenin i fyny i dŷ Jehofa gyda holl ddynion Jwda, pawb a oedd yn byw yn Jerwsalem, yr offeiriaid, a’r proffwydi—y bobl i gyd, yn fach neu’n fawr. A darllenodd yn eu clyw holl eiriau llyfr y cyfamod, a oedd wedi cael ei ddarganfod yn nhŷ Jehofa.
3 Safodd y brenin wrth y golofn a gwneud cyfamod* â Jehofa, gan addo y byddai’n dilyn Jehofa ac yn cadw ei orchmynion, ei gyfreithiau,* a’i ddeddfau â’i holl galon ac â’i holl enaid* drwy gyflawni geiriau’r cyfamod hwn a oedd wedi eu hysgrifennu yn y llyfr. A chytunodd y bobl i gyd i gadw’r cyfamod.
4 Yna gorchmynnodd y brenin i Hilceia yr archoffeiriad, yr is-offeiriaid, a’r porthorion ddod â’r holl offer allan o deml Jehofa, yr offer a oedd yn cael eu defnyddio i addoli Baal, y polyn cysegredig, a holl fyddin y nefoedd. Yna llosgodd y cwbl y tu allan i Jerwsalem ar lethrau Cidron, a chymerodd eu llwch i Fethel.
5 Felly gwnaeth ef yrru offeiriaid y gau dduwiau allan, y rhai roedd brenhinoedd Jwda wedi eu penodi i wneud i fwg godi oddi ar eu haberthau ar yr uchelfannau yn ninasoedd Jwda ac ar gyrion Jerwsalem, yn ogystal â’r rhai a oedd yn gwneud i fwg godi oddi ar eu haberthau o flaen Baal, yr haul, y lleuad, clystyrau o sêr,* ac o flaen holl fyddin y nefoedd.
6 Aeth â’r polyn cysegredig allan o dŷ Jehofa i gyrion Jerwsalem, i Ddyffryn Cidron, a’i losgi yn Nyffryn Cidron, gwnaeth ef falu’r gweddillion yn llwch, a’i wasgaru ar feddau’r bobl gyffredin.
7 Hefyd, rhwygodd i lawr y tai a oedd yn nhŷ Jehofa, tai y dynion a oedd yn eu puteinio eu hunain yn y deml, lle roedd y merched* yn gweu* pebyll bychain ar gyfer y polyn cysegredig.
8 Yna daeth â’r holl offeiriaid allan o ddinasoedd Jwda, a difetha’r uchelfannau roedd yr offeiriaid wedi bod yn eu defnyddio i wneud i fwg godi oddi ar eu haberthau, o Geba i Beer-seba. A hefyd rhwygodd i lawr yr uchelfannau a oedd wrth fynedfa giât Josua, pennaeth y ddinas, a oedd ar y chwith wrth fynd i mewn drwy giât y ddinas.
9 Doedd offeiriaid yr uchelfannau ddim yn gwasanaethu wrth allor Jehofa yn Jerwsalem, ond roedden nhw’n bwyta bara croyw gyda’u brodyr.
10 Gwnaeth ef hefyd ddifetha Toffet, sydd yn Nyffryn Meibion Hinom,* fel na allai unrhyw un wneud i’w fab na’i ferch fynd drwy’r tân yn aberth i Molech.
11 A gwnaeth ef wahardd y ceffylau roedd brenhinoedd Jwda wedi eu cysegru i’r haul rhag mynd i mewn i dŷ Jehofa drwy ystafell Nathan-melech, swyddog y llys, a oedd wrth ymyl y colofnau; a llosgodd gerbydau’r haul yn y tân.
12 Gwnaeth y brenin hefyd rwygo i lawr yr allorau roedd brenhinoedd Jwda wedi eu gosod ar ben to ystafell uchaf Ahas, yn ogystal â’r allorau roedd Manasse wedi eu gosod mewn dau gwrt yn nhŷ Jehofa. Dyma’n eu malu nhw ac yn gwasgaru’r llwch yn Nyffryn Cidron.
13 A dyma’r brenin yn difetha’r uchelfannau a oedd o flaen Jerwsalem ac i’r de* o Fynydd y Llygredd,* y rhai roedd Solomon brenin Israel wedi eu hadeiladu i Astoreth, duwies ffiaidd y Sidoniaid; ac i Cemos, duw ffiaidd Moab; ac i Milcom, duw ffiaidd yr Ammoniaid.
14 Malodd y colofnau cysegredig yn ddarnau a thorri’r polion cysegredig i lawr gan roi esgyrn dynol yn eu lle.
15 Hefyd rhwygodd yr allor ym Methel i lawr, yr uchelfan roedd Jeroboam fab Nebat wedi ei wneud a wnaeth achosi i Israel bechu. Ar ôl rhwygo’r allor honno a’r uchelfan i lawr, dyma’n llosgi’r uchelfan, yn ei falu’n llwch, ac yn llosgi’r polyn cysegredig.
16 Pan drodd Joseia a gweld y beddau ar y mynydd, gorchmynnodd i’r esgyrn gael eu cymryd o’r beddau, ac iddyn nhw gael eu llosgi ar yr allor er mwyn gwneud yr allor yn anaddas ar gyfer addoli, yn ôl beth roedd Jehofa wedi ei gyhoeddi drwy ddyn y gwir Dduw a wnaeth ragfynegi y byddai’r pethau hyn yn digwydd.
17 Yna gofynnodd: “Bedd pwy rydw i’n ei weld draw fan ’na?” Atebodd dynion y ddinas: “Bedd dyn y gwir Dduw o Jwda a wnaeth ragfynegi’r pethau hyn rwyt ti wedi eu gwneud yn erbyn allor Bethel.”
18 Felly dywedodd: “Gadewch lonydd iddo. Peidiwch â gadael i neb gyffwrdd â’i esgyrn.” Felly gwnaethon nhw adael llonydd i’w esgyrn ef ac esgyrn y proffwyd a oedd wedi dod o Samaria.
19 Gwnaeth Joseia hefyd gael gwared ar yr addoldai i gyd a oedd ar yr uchelfannau yn ninasoedd Samaria, y rhai roedd brenhinoedd Israel wedi eu hadeiladu er mwyn digio Duw, a gwnaeth ef yr un peth iddyn nhw ag yr oedd wedi ei wneud i’r uchelfan ym Methel.
20 Felly aberthodd holl offeiriaid yr uchelfannau oedd yno ar yr allorau, a llosgodd esgyrn dynol ar yr allorau hynny. Wedyn, aeth yn ôl i Jerwsalem.
21 Nawr gorchmynnodd y brenin i’r bobl i gyd: “Dylech chi ddathlu Pasg i Jehofa eich Duw, fel sydd wedi ei ysgrifennu yn y llyfr cyfamod hwn.”
22 Doedd Pasg fel hyn ddim wedi cael ei ddathlu ers y dyddiau pan oedd y barnwyr yn barnu Israel, nac yn ystod holl ddyddiau brenhinoedd Israel a brenhinoedd Jwda.
23 Ond yn y ddeunawfed* flwyddyn o deyrnasiad y Brenin Joseia, cafodd y Pasg hwn i Jehofa ei ddathlu yn Jerwsalem.
24 Hefyd gwnaeth Joseia yrru allan y cyfryngwyr ysbrydion* a’r rhai sy’n dweud ffortiwn, yn ogystal â chael gwared ar y delwau teraffim,* yr eilunod ffiaidd,* a’r holl bethau ffiaidd oedd yn Jwda a Jerwsalem. Roedd hyn er mwyn cyflawni geiriau’r Gyfraith a oedd wedi eu hysgrifennu yn y llyfr roedd Hilceia yr offeiriad wedi ei ddarganfod yn nhŷ Jehofa.
25 Fuodd ’na ddim brenin tebyg iddo o’i flaen a wnaeth droi yn ôl at Jehofa â’i holl galon, ac â’i holl enaid,* ac â’i holl nerth, yn unol â phopeth oedd yng Nghyfraith Moses; a ddaeth neb arall tebyg iddo ar ei ôl chwaith.
26 Ond, doedd dicter Jehofa yn erbyn Jwda ddim wedi tawelu oherwydd yr holl bethau ffiaidd roedd Manasse wedi eu gwneud er mwyn ei ddigio.
27 Dywedodd Jehofa: “Bydda i hefyd yn gyrru Jwda allan o fy ngolwg, yn union fel gwnes i yrru Israel allan; a bydda i’n gwrthod y ddinas hon gwnes i ei dewis, Jerwsalem, a’r tŷ gwnes i ddweud amdano, ‘Bydd fy enw i yn parhau yno.’”
28 Ynglŷn â gweddill hanes Joseia, popeth a wnaeth, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Jwda?
29 Yn nyddiau Joseia, aeth Pharo Necho, brenin yr Aifft, i gyfarfod brenin Asyria wrth Afon Ewffrates, ac aeth y Brenin Joseia allan i frwydro yn ei erbyn; ond unwaith i Necho ei weld, dyma’n ei ladd ym Megido.
30 Felly cludodd ei weision ei gorff marw o Megido mewn cerbyd, a dod ag ef i Jerwsalem a’i gladdu yn ei fedd. Yna gwnaeth pobl y wlad gymryd mab Joseia, Jehoahas, a’i eneinio gan ei wneud yn frenin yn lle ei dad.
31 Roedd Jehoahas yn 23 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am dri mis yn Jerwsalem. Enw ei fam oedd Hamutal, merch Jeremeia o Libna.
32 Dechreuodd wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa, fel roedd ei gyndadau wedi gwneud.
33 Gwnaeth Pharo Necho ei garcharu yn Ribla yng ngwlad Hamath, er mwyn ei rwystro rhag teyrnasu yn Jerwsalem, ac yna mynnodd ddirwy gan y wlad o 100 talent* o arian a thalent o aur.
34 Ar ben hynny, dyma Pharo Necho yn gwneud mab Joseia, Eliacim, yn frenin yn lle ei dad Joseia, ac yn newid ei enw i Jehoiacim; ond dyma’n cymryd Jehoahas ac yn dod ag ef i’r Aifft lle bu farw yn y pen draw.
35 Rhoddodd Jehoiacim yr arian a’r aur i Pharo, ond roedd rhaid iddo osod treth ar y wlad er mwyn rhoi i Pharo yr arian roedd ef wedi ei fynnu. Casglodd arian ac aur gan bawb yn ôl gwerth tir pob un er mwyn talu Pharo Necho.
36 Roedd Jehoiacim yn 25 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am 11 mlynedd yn Jerwsalem. Enw ei fam oedd Sebida, merch Pedaia o Ruma.
37 Parhaodd i wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa, fel roedd ei gyndadau wedi gwneud.
Troednodiadau
^ Neu “ac adnewyddu’r cyfamod.”
^ Neu “ei rybuddion.”
^ Neu “cytserau y sidydd.”
^ Neu “menywod.”
^ Neu “yn gwehyddu.”
^ Llyth., “i’r dde.” Hynny yw, i’r de pan mae rhywun yn wynebu’r dwyrain.
^ Hynny yw, Mynydd yr Olewydd, yn enwedig y rhan ddeheuol sydd hefyd yn cael ei galw’n Fynydd y Tramgwydd.
^ Neu “18fed.”
^ Hynny yw, pobl sy’n honni eu bod nhw’n gallu siarad â’r meirw.
^ Neu “duwiau teulu; eilunod.”
^ Efallai bod y term Hebraeg yn gysylltiedig â gair am “garthion” ac mae’n cael ei ddefnyddio fel math o sarhad.
^ Roedd talent yn gyfartal â 34.2 kg (1,101 oz t).