Ail Brenhinoedd 24:1-20

  • Gwrthryfel Jehoiacim a’i farwolaeth (1-7)

  • Jehoiacin, brenin Jwda (8, 9)

  • Y gaethglud gyntaf i Fabilon (10-17)

  • Sedeceia, brenin Jwda; ei wrthryfel (18-20)

24  Yn nyddiau Jehoiacim daeth Nebuchadnesar brenin Babilon yn ei erbyn, a daeth Jehoiacim yn was iddo am dair blynedd. Ond trodd yn ei erbyn a gwrthryfela.  Yna dechreuodd Jehofa anfon grwpiau o ladron o blith y Caldeaid, y Syriaid, y Moabiaid, a’r Ammoniaid yn ei erbyn. Parhaodd i’w hanfon nhw yn erbyn Jwda i’w dinistrio, yn ôl beth ddywedodd Jehofa drwy ei weision y proffwydi.  Yn sicr, digwyddodd hyn i Jwda ar orchymyn Jehofa, i’w gyrru nhw allan o’i olwg oherwydd yr holl bechodau roedd Manasse wedi eu cyflawni,  ac oherwydd y gwaed dieuog roedd ef wedi ei dywallt.* Roedd wedi llenwi Jerwsalem â gwaed dieuog, a doedd Jehofa ddim yn fodlon maddau.  Ynglŷn â gweddill hanes Jehoiacim, popeth a wnaeth, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Jwda?  Yna bu farw Jehoiacim;* a daeth ei fab Jehoiacin yn frenin yn ei le.  Ni wnaeth brenin yr Aifft fentro allan o’i wlad byth eto, oherwydd roedd brenin Babilon wedi cymryd popeth a oedd yn perthyn i frenin yr Aifft, o Wadi yr Aifft i fyny at Afon Ewffrates.  Roedd Jehoiacin yn 18 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am dri mis yn Jerwsalem. Enw ei fam oedd Nehusta, merch Elnathan o Jerwsalem.  Parhaodd i wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa, yn union fel roedd ei dad wedi gwneud. 10  Yn ystod y cyfnod hwnnw, daeth gweision Nebuchadnesar, brenin Babilon, i fyny yn erbyn Jerwsalem, a gwarchae ar y ddinas. 11  Dyma Nebuchadnesar, brenin Babilon, yn cyrraedd y ddinas tra oedd ei weision yn gwarchae arni. 12  Aeth Jehoiacin brenin Jwda allan at frenin Babilon gyda’i fam, ei weision, ei dywysogion, a’i swyddogion llys; a gwnaeth brenin Babilon ei gymryd yn gaeth yn yr wythfed flwyddyn o’i deyrnasiad. 13  Dyma frenin Babilon yn cymryd holl drysorau tŷ Jehofa a holl drysorau tŷ’r brenin* oddi yno. Torrodd yn ddarnau yr holl offer aur roedd Solomon, brenin Israel, wedi eu gwneud yn nheml Jehofa. Digwyddodd hyn yn union fel roedd Jehofa wedi rhagfynegi. 14  Caethgludodd Jerwsalem i gyd, yr holl dywysogion, y milwyr dewr i gyd, a phob crefftwr a gweithiwr metel—cymerodd 10,000 yn gaethion. Chafodd neb ei adael ar ôl heblaw am bobl dlotaf y wlad. 15  Dyna sut cymerodd ef Jehoiacin yn gaeth i Fabilon; gwnaeth ef hefyd arwain i ffwrdd fam y brenin, gwragedd y brenin, ei swyddogion llys, a dynion pwysicaf y wlad, gan eu caethgludo nhw o Jerwsalem i Fabilon. 16  Dyma frenin Babilon hefyd yn caethgludo’r milwyr i gyd, 7,000 ohonyn nhw, yn ogystal â 1,000 o grefftwyr a gweithwyr metel i Fabilon, pob un yn ddyn cryf wedi ei hyfforddi ar gyfer rhyfel. 17  Dyma frenin Babilon yn gwneud Mataneia, ewythr Jehoiacin, yn frenin yn ei le ac yn newid ei enw i Sedeceia. 18  Roedd Sedeceia yn 21 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am 11 mlynedd yn Jerwsalem. Enw ei fam oedd Hamutal, merch Jeremeia o Libna. 19  Parhaodd i wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa, yn union fel roedd Jehoiacin wedi gwneud. 20  Digwyddodd y pethau hyn yn Jerwsalem ac yn Jwda oherwydd dicter Jehofa, nes ei fod wedi eu gyrru nhw allan o’i olwg. A gwrthryfelodd Sedeceia yn erbyn brenin Babilon.

Troednodiadau

Neu “arllwys.”
Neu “Yna gorweddodd Jehoiacim i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”
Neu “palas y brenin.”