Ail Brenhinoedd 25:1-30

  • Nebuchadnesar yn gwarchae ar Jerwsalem (1-7)

  • Jerwsalem a’i theml yn cael eu dinistrio; yr ail gaethglud (8-21)

  • Gedaleia yn cael ei wneud yn llywodraethwr (22-24)

  • Llofruddiaeth Gedaleia; pobl yn ffoi i’r Aifft (25, 26)

  • Jehoiacin yn cael ei ryddhau ym Mabilon (27-30)

25  Yn y nawfed flwyddyn o deyrnasiad Sedeceia, yn y degfed mis, ar y degfed diwrnod o’r mis, daeth Nebuchadnesar brenin Babilon yn erbyn Jerwsalem gyda’i fyddin gyfan. Gwersyllodd yn ei herbyn ac adeiladu wal o’i chwmpas i warchae arni,  ac roedd y ddinas o dan warchae tan yr unfed flwyddyn ar ddeg* o deyrnasiad y Brenin Sedeceia.  Ar y nawfed diwrnod o’r pedwerydd mis roedd y newyn yn y ddinas yn ddifrifol, a doedd ’na ddim bwyd i bobl y wlad.  Torrodd y gelyn trwy’r wal, a dyma’r milwyr i gyd yn ffoi yn ystod y nos trwy’r giât rhwng y ddwy wal wrth ardd y brenin, tra oedd y Caldeaid yn amgylchynu’r ddinas; ac aeth y brenin ar hyd y ffordd a oedd yn mynd heibio’r Araba.  Ond aeth byddin y Caldeaid ar ôl y brenin, a dal i fyny ag ef yn anialwch Jericho, gan yrru ei filwyr i gyd ar chwâl.  Yna dyma nhw’n dal y brenin ac yn mynd ag ef i fyny at frenin Babilon yn Ribla, a’i ddedfrydu.  Gwnaethon nhw ladd meibion Sedeceia o flaen ei lygaid; yna dyma Nebuchadnesar yn dallu Sedeceia, yn ei rwymo â chyffion copr, ac yn mynd ag ef i Fabilon.  Yn y pumed mis, ar y seithfed diwrnod o’r mis, hynny yw, yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg* o deyrnasiad y Brenin Nebuchadnesar, brenin Babilon, daeth Nebusaradan pennaeth y gwarchodlu, gwas brenin Babilon, i Jerwsalem.  Gwnaeth ef losgi tŷ Jehofa, tŷ’r brenin,* a holl dai Jerwsalem i lawr; gwnaeth ef hefyd losgi tŷ pob dyn pwysig. 10  A chafodd y waliau a oedd yn amgylchynu Jerwsalem eu tynnu i lawr gan holl fyddin y Caldeaid a oedd gyda phennaeth y gwarchodlu. 11  Dyma Nebusaradan pennaeth y gwarchodlu yn caethgludo gweddill y bobl a oedd ar ôl yn y ddinas, y rhai a oedd wedi ochri gyda brenin Babilon, a gweddill y boblogaeth. 12  Ond gwnaeth pennaeth y gwarchodlu adael rhai o bobl dlotaf y wlad yno, a’u gorfodi nhw i weithio yn y gwinllannoedd ac yn y caeau. 13  A dyma’r Caldeaid yn malu’n ddarnau golofnau copr tŷ Jehofa, a’r cerbydau, a’r Môr copr a oedd yn nhŷ Jehofa, ac yna’n cario’r copr i ffwrdd i Fabilon. 14  Gwnaethon nhw hefyd gymryd y llestri lludw, y rhawiau, yr offer diffodd fflamau,* y cwpanau, a’r holl offer copr a oedd yn cael eu defnyddio i wasanaethu yn y deml. 15  Cymerodd pennaeth y gwarchodlu y llestri i ddal tân a’r powlenni a oedd wedi eu gwneud o aur ac arian pur. 16  Roedd hi’n amhosib mesur pwysau’r copr oedd wedi cael ei ddefnyddio i wneud y ddwy golofn, y Môr, a’r cerbydau roedd Solomon wedi eu gwneud ar gyfer tŷ Jehofa. 17  Roedd pob colofn yn 18 cufydd* o uchder, ac roedd y capan colofn ar ei phen wedi ei wneud o gopr; roedd y capan yn dri chufydd o uchder, ac roedd y rhwydwaith a’r pomgranadau a oedd o gwmpas y capan i gyd wedi eu gwneud o gopr. Roedd y ddwy golofn yn edrych yr un fath. 18  Gwnaeth pennaeth y gwarchodlu hefyd gymryd Seraia y prif offeiriad, Seffaneia yr is-offeiriad, a’r tri phorthor. 19  A chymerodd o’r ddinas un swyddog llys a oedd yn gomisiynydd dros y milwyr, pump o gynghorwyr y brenin a oedd yn y ddinas, yn ogystal ag ysgrifennydd pennaeth y fyddin, yr un a oedd yn galw pobl y wlad i ryfel, a 60 dyn o blith pobl gyffredin y wlad a oedd yn dal yn y ddinas. 20  Dyma Nebusaradan, pennaeth y gwarchodlu, yn eu cymryd nhw ac yn mynd â nhw at frenin Babilon yn Ribla. 21  Gwnaeth brenin Babilon eu taro nhw i lawr a’u lladd nhw yn Ribla yng ngwlad Hamath. Dyna sut cafodd pobl Jwda eu caethgludo o’u gwlad. 22  Dyma Nebuchadnesar brenin Babilon yn penodi Gedaleia, mab Ahicam, mab Saffan, dros y bobl roedd ef wedi eu gadael ar ôl yng ngwlad Jwda. 23  Pan glywodd holl benaethiaid y fyddin a’u dynion fod brenin Babilon wedi penodi Gedaleia, aethon nhw at Gedaleia ym Mispa ar unwaith. Eu henwau oedd Ismael fab Nethaneia, Johanan fab Carea, Seraia fab Tanhumeth o Netoffa, a Jaasaneia fab y Maachathiad; daeth y rhain i gyd gyda’u dynion. 24  Dyma Gedaleia yn tyngu llw iddyn nhw a’u dynion ac yn dweud wrthyn nhw: “Peidiwch ag ofni bod yn weision i’r Caldeaid. Arhoswch yn y wlad a gwasanaethwch frenin Babilon, a bydd popeth yn iawn ichi.” 25  Ac yn y seithfed mis, daeth Ismael, mab Nethaneia, mab Elisama, a oedd o’r llinach frenhinol, gyda deg dyn arall, a gwnaethon nhw daro Gedaleia i lawr a bu farw, ynghyd â’r Iddewon a’r Caldeaid oedd gydag ef ym Mispa. 26  Ar ôl hynny cododd yr holl bobl, yn fach neu’n fawr, gan gynnwys penaethiaid y fyddin, a mynd i’r Aifft, oherwydd roedd ganddyn nhw ofn y Caldeaid. 27  Ac yn yr ail flwyddyn ar bymtheg ar hugain* o gaethglud Jehoiacin brenin Jwda, yn y ddeuddegfed* mis, ar y seithfed diwrnod ar hugain* o’r mis, gwnaeth Efil-merodach brenin Babilon ryddhau Jehoiacin brenin Jwda o’r carchar. Digwyddodd hyn yn ystod y flwyddyn y daeth Efil-merodach yn frenin. 28  Roedd yn siarad yn garedig ag ef, a rhoddodd ei orsedd yn uwch na gorseddau y brenhinoedd eraill oedd gydag ef ym Mabilon. 29  Felly tynnodd Jehoiacin ei ddillad carchar, ac roedd yn bwyta wrth fwrdd y brenin yn rheolaidd am weddill ei fywyd. 30  Gorchmynnodd y brenin i fwyd gael ei roi iddo ddydd ar ôl dydd, holl ddyddiau ei fywyd.

Troednodiadau

Neu “11eg flwyddyn.”
Neu “19eg flwyddyn.”
Neu “palas y brenin.”
Neu “y sisyrnau diffodd fflamau.”
Roedd cufydd yn gyfartal â 44.5 cm (17.5 mod).
Neu “37ain flwyddyn.”
Neu “12fed.”
Neu “27ain diwrnod.”