Ail Brenhinoedd 3:1-27

  • Jehoram, brenin Israel (1-3)

  • Moab yn gwrthryfela yn erbyn Israel (4-25)

  • Gorchfygiad Moab (26, 27)

3  Daeth Jehoram fab Ahab yn frenin ar Israel yn Samaria yn y ddeunawfed* flwyddyn o deyrnasiad Jehosaffat brenin Jwda, a theyrnasodd am 12 mlynedd.  Parhaodd i wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa, ond doedd ef ddim mor ddrwg â’i dad a’i fam, am ei fod wedi cael gwared o’r golofn gysegredig roedd ei dad wedi ei gwneud i Baal.  Ond cyflawnodd yr un pechodau roedd Jeroboam fab Nebat wedi achosi i Israel eu cyflawni. Wnaeth ef ddim cefnu arnyn nhw.  Nawr roedd Mesa brenin Moab yn cadw defaid, ac roedd yn arfer talu 100,000 o ŵyn a 100,000 o hyrddod* gwlanog fel treth i frenin Israel.  Unwaith i Ahab farw, gwrthryfelodd brenin Moab yn erbyn brenin Israel.  Felly ar y diwrnod hwnnw, dyma’r Brenin Jehoram yn mynd allan o Samaria ac yn casglu byddin gyfan Israel at ei gilydd.  Hefyd anfonodd neges at Jehosaffat brenin Jwda yn dweud: “Mae brenin Moab wedi gwrthryfela yn fy erbyn i. A wnei di fynd gyda mi i ryfela yn erbyn Moab?” Atebodd: “Gwnaf. Rwyt ti a fi yn un. Mae dy bobl di a fy mhobl i hefyd yn un, gan gynnwys dy geffylau di a fy ngheffylau innau.”  Yna gofynnodd: “Pa ffordd dylen ni fynd i fyny?” Atebodd: “Awn ni ar hyd y ffordd sy’n mynd drwy anialwch Edom.”  Yna dyma frenin Israel yn cychwyn ar y daith gyda brenin Jwda a brenin Edom. Aethon nhw y ffordd hir, ac ar ôl saith diwrnod doedd ’na ddim dŵr ar gyfer y milwyr nac ar gyfer yr anifeiliaid oedd gyda nhw. 10  Dywedodd brenin Israel: “O na! Mae Jehofa wedi galw’r tri brenin hyn dim ond i’w rhoi nhw yn nwylo Moab!” 11  Gyda hynny, dywedodd Jehosaffat: “Onid oes ’na un o broffwydi Jehofa yma y gallwn ni ofyn am arweiniad Jehofa drwyddo?” Felly dyma un o weision brenin Israel yn ateb: “Mae Eliseus fab Saffat yma, yr un a oedd yn arfer tywallt* dŵr ar ddwylo* Elias.” 12  Yna dywedodd Jehosaffat: “Mae gair Jehofa gydag ef.” Felly aeth brenin Israel, brenin Edom, a Jehosaffat i lawr ato. 13  Dywedodd Eliseus wrth frenin Israel: “Pam rwyt ti wedi dod ata i?* Dos at broffwydi dy dad ac at broffwydi dy fam.” Ond dywedodd brenin Israel wrtho: “Na wnaf, oherwydd Jehofa sydd wedi galw’r tri brenin hyn i’w rhoi nhw yn nwylo Moab.” 14  I hynny dywedodd Eliseus: “Mor sicr â’r ffaith fod Jehofa y lluoedd yn fyw, yr un rydw i’n ei wasanaethu, oni bai fy mod i’n parchu Jehosaffat brenin Jwda, fyddwn i ddim wedi edrych arnat ti nac wedi talu unrhyw sylw iti. 15  Nawr dewch â thelynor* ata i.” Unwaith i’r telynor ddechrau chwarae, daeth llaw Jehofa ar Eliseus. 16  Dywedodd, “Dyma mae Jehofa yn ei ddweud: ‘Agorwch ffos ar ôl ffos yn y dyffryn* hwn, 17  oherwydd dyma mae Jehofa yn ei ddweud: “Fyddwch chi ddim yn gweld gwynt, a fyddwch chi ddim yn gweld glaw; ond eto, bydd y dyffryn* hwn yn llawn dŵr a byddwch chi’n yfed ohono, y chi, a’ch anifeiliaid domestig, a’ch anifeiliaid gwaith.”’ 18  Ond peth bach ydy hyn yng ngolwg Jehofa, oherwydd bydd ef hefyd yn rhoi Moab yn eich dwylo. 19  Mae’n rhaid ichi ddinistrio pob dinas gaerog a phob dinas bwysig, dylech chi dorri pob coeden dda i lawr, a dylech chi gau pob ffynnon ddŵr, a dylech chi ddifetha pob darn da o dir â cherrig.” 20  Ac yn y bore, ar adeg offrwm grawn y bore, yn sydyn daeth dŵr o gyfeiriad Edom, a dyma’r dyffryn yn llenwi â dŵr. 21  Clywodd y Moabiaid i gyd fod y brenhinoedd wedi dod i fyny i frwydro yn eu herbyn, felly dyma nhw’n galw’r dynion a oedd yn gallu defnyddio arfau i gyd at ei gilydd ac yn eu gosod nhw wrth y ffin. 22  Pan godon nhw yn gynnar yn y bore roedd yr haul yn disgleirio ar y dŵr, ac i’r Moabiaid ar yr ochr arall roedd y dŵr yn edrych yn goch fel gwaed. 23  Dywedon nhw: “Gwaed ydy hyn! Mae’n rhaid bod y brenhinoedd wedi lladd ei gilydd â’r cleddyf. Felly dewch, bobl Moab, i gasglu’r ysbail!” 24  Pan ddaethon nhw i mewn i wersyll Israel, cododd yr Israeliaid a dechrau taro’r Moabiaid i lawr, a dyma’r rheini yn ffoi oddi wrthyn nhw. Felly aethon nhw i mewn i Moab gan daro’r Moabiaid i lawr wrth iddyn nhw fynd. 25  Dyma nhw’n rhwygo’r dinasoedd i lawr, a thaflodd pob dyn garreg i mewn i bob darn da o dir, gan ei lenwi â cherrig; gwnaethon nhw gau pob ffynnon ddŵr, a thorri pob coeden dda i lawr. Yn y pen draw, dim ond waliau cerrig Cir-hareseth oedd yn dal i sefyll, a gwnaeth y milwyr a oedd wedi eu harfogi â ffyn tafl ei hamgylchynu a’i tharo i lawr. 26  Pan welodd brenin Moab ei fod yn colli’r frwydr, cymerodd 700 o ddynion a oedd wedi eu harfogi â chleddyfau gydag ef er mwyn torri drwy’r rhengoedd at frenin Edom; ond doedden nhw ddim yn gallu. 27  Felly cymerodd ei fab cyntaf-anedig, a oedd am deyrnasu yn ei le, a’i gynnig i’w dduw fel offrwm llosg ar y wal. A dyma’r dynion yn digio yn erbyn Israel, dyna pam gwnaethon nhw adael a mynd yn ôl i’w gwlad.

Troednodiadau

Neu “18fed.”
Neu “o feheryn.”
Neu “arllwys.”
Neu “a oedd yn was i.”
Llyth., “Beth i ti ac i fi?”
Neu “dewch â cherddor.”
Neu “wadi.”
Neu “wadi.”